www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cyfarfod yr Awdurdod Tân


Dydd Llun, 28 Medi 2009

AM 11.00 YB GANOLFAN GYNADLEDDA
PENCADLYS Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB,
CAERFYRDDIN

Agenda

  1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb.
  2. Datganiad gan Aelodau o unrhyw Fuddiannau Personol.
  3. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd / Materion Personol.
  4. I gadarnhau ac arwyddo, fel cofnod cywir, cofnodion Cyfarfodydd yr Awdurdod Tân a gynhaliwyd ar:

    i) 29ain o Fehefin 2009.
    ii) 27ain o Orffennaf 2009.

  5. I dderbyn ac ystyried cofnodion y Pwyllgorau canlynol:

    i) Y Pwyllgor Adnoddau a gynhaliwyd ar y 13eg o Orffennaf 2009.
    ii) Y Pwyllgor Adolygu ac Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar yr 20fed o Orffennaf 2009.
    iii) Y Pwyllgor Datblygu Pobl a’r Gyfundrefn a gynhaliwyd ar y 14eg o Fedi 2009.

  6. I dderbyn adroddiad ar y Prosiect Cymoedd Mwy Diogel. (PDF, 44kb)
  7. I dderbyn yr adroddiad Cyflawni Gwasanaeth. (PDF, 43kb)
  8. I dderbyn cyflwyniad gan Kim Smith, Prif Weithredwr, Atal Tân Cymru.
  9. I gymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2008/2009. (a fyddai modd i’r Aelodau i ddod â’r copïau o Ddatganiad o Gyfrifon 2008/2009 a gyflwynwyd i gyfarfod yr Awdurdod Tân ar y 29ain o Fehefin 2009 gyda nhw i’r cyfarfod, os gwelwch yn dda). (PDF, 41kb)
  10. I gymeradwyo’r Llythyr o Gynrychiolaeth mewn perthynas â Datganiadau Ariannol 2008/ 2009. (PDF, 40kb)
  11. I dderbyn yr adroddiad ISA 260 ar gyfer 2008/ 2009: Archwilio Datganiadau Cyfrifyddu – Adroddiad i’r Rhai Hynny Sydd â Chyfrifoldebau Llywodraethu. (PDF, 39kb)
  12. I dderbyn adroddiad ar y cyfleuster Cyd Wasanaethau Brys a Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi sy’n arfaethedig yn Llandrindod. (PDF, 47kb)
  13. I dderbyn adroddiad ar Benodi aelod newydd ar yr Awdurdod Tân ac Achub. (PDF, 86kb)
  14. Unrhyw eitemau arall o fusnes y mae’r Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried fel mater o frys yn unol ag Adran 100(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

    Ar ddiwedd cyfarfod yr Awdurdod Tân trefnwyd Arddangosfa Gerbydau i’r Aelodau, rhwng 1yh – 2yh.  Bydd hyn yn galluogi i’r Aelodau i weld amryw o’r cerbydau a ddefnyddir gan y Gwasanaeth, yn cynnwys Pwmp Achub, Uned Cyd-ymatebydd a’r Uned Reoli.  Mae’r holl Aelodau’n cael eu cymell i fynychu.   

    Hefyd, atgoffir yr Aelodau hynny sy’n mynychu Seminar Aelodau Cymru Gyfan y byddwn yn teithio i Ddeganwy yng Ngogledd Cymru ar brynhawn yr 28ain o Fedi.

A T Howells
Clerc a Swyddog Monitro
21ain o Fedi 2009

Get Adobe Reader    What is a PDF?

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service