www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cyfarfod yr Awdurdod Tân


Dydd Llun, 8 Chwefror 2010

AM 11.00 YB GANOLFAN GYNADLEDDA
PENCADLYS Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB,
CAERFYRDDIN

Agenda

  1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb.
  2. Datganiad gan Aelodau o unrhyw Fuddiannau Personol.
  3. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd / Materion Personol.
  4. I gadarnhau ac arwyddo cofnodion Cyfarfod yr Awdurdod Tân, a gynhaliwyd ar y 14eg o Ragfyr 2009, fel cofnod cywir.   
  5. I dderbyn ac ystyried cofnodion y Pwyllgor Adnoddau, a gynhaliwyd ar yr 11eg o Ionawr 2010, ac i ystyried y canlynol yn benodol:

     i) i gymeradwyo Cyd Adroddiad y Prif Swyddog Tân a’r Cyfarwyddwr Adnoddau ar Ofynion y Gyllideb ar gyfer 2010/11.
    ii)  i gymeradwyo’r Côd Darbodus a’r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2010/11.
    iii) I gymeradwyo’r Datganiad Polisi o Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) ar gyfer 2010/11.
    iv) i gymeradwy Polisi a Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2010-11 ynghyd â’r datganiad o Arferion Rheoli’r Trysorlys.
    v) i gymeradwyo’r Gyllideb Refeniw fanwl ar gyfer 2010/11.

  6. I dderbyn ac ystyried cofnodion y Gweithgor Datblygu Aelodau, a gynhaliwyd ar y 9fed o Ragfyr 2009.
  7. I dderbyn ac ystyried cofnodion y Pwyllgor Datblygu Pobl a’r Gyfundrefn, a gynhaliwyd ar y 18fed o Ionawr 2010.
  8. I dderbyn adroddiad ar yr Ymgynghoriad ar Archwilio a Strwythurau Gwleidyddol. (PDF, 113kb)
  9. I dderbyn adroddiad ar Lunio Rhestr Fer ar gyfer swydd y Swyddog Monitro a Chlerc. (PDF, 115kb)
  10. I dderbyn adroddiad ar Gynllunio i Leihau Risg 2011/2012. (PDF, 68kb)
  11. I dderbyn yr Adroddiad Cyflawni Gwasanaeth.
  12. Unrhyw eitemau arall o fusnes y mae’r Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried fel mater o frys yn unol ag Adran 100(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

A T Howells
Clerc a Swyddog Monitro
1af Chwefror 2010

Get Adobe Reader    What is a PDF?

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service