www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cyfarfod yr Awdurdod Tân


Dydd Llun, 9 Mai 2011

AM 11.00 YB GANOLFAN GYNADLEDDA
PENCADLYS Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB,
CAERFYRDDIN

Agenda

  1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb.
  2. Datganiad gan Aelodau o unrhyw Fuddiannau Personol.
  3. Cyhoeddiadau'r Cadeirydd / Materion Personol.
  4. I gadarnhau ac arwyddo bod cofnodion Cyfarfod yr Awdurdod Tân, a gynhaliwyd ar y 7fed o Chwefror 2011, yn gofnod cywir.
  5. I dderbyn ac ystyried cofnodion y Pwyllgor Datblygu Pobl a'r Gyfundrefn, ar y 7fed o Fawrth 2011.
  6. I dderbyn ac ystyried cofnodion y Pwyllgor Safonau, a gynhaliwyd ar yr 11eg o Ebrill 2011.
  7. I dderbyn ac ystyried cofnodion y Pwyllgor Adolygu ac Archwilio Perfformiad, a gynhaliwyd ar y 18fed o Ebrill 2011.
  8. I dderbyn ac ystyried Cynllun Gweithredu Blynyddol Drafft 2012 - 2013. (PDF, 65kb)
  9. I dderbyn y Côd Llywodraethu Corfforaethol – Datganiad o Sicrwydd. (PDF, 60kb)
  10. I gymeradwyo'r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Bwrdd yr Iaith Gymraeg. (PDF, 29kb)
  11. I dderbyn adroddiad ar Gynhadledd Tân yr LGA ar yr 8fed a'r 9fed o Fawrth 2011. (PDF, 23kb)
  12. Unrhyw eitemau arall o fusnes y mae'r Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried fel mater o frys yn unol ag Adran 100(B)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
  13. I gytuno, yn unol ag adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod oherwydd, pe byddent yn bresennol, mae'n debygol y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei ddatgelu iddynt oddi fewn i ddisgrifiad Rhan 12(A)(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sef gwybodaeth yn ymwneud â gweithwyr presennol yr Awdurdod.
  14. I dderbyn y diweddaraf ar Ddarparu Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer yr Awdurdod.

D Daycock
Clerc a Swyddog Monitro
9 Mai 2011

Get Adobe Reader    What is a PDF?

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service