Agenda
Gelwir arnoch, drwy hyn, i fynychu cyfarfod o'r Awdurdod Tân, yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Caerfyrddin ar ddydd Llun y 24ain o Hydref 2011 am 11.00yb.
- Ymddiheuriadau am Absenoldeb.
- Datganiad gan Aelodau o unrhyw Fuddiannau Personol neu Niweidiol.
- Cyhoeddiadau'r Cadeirydd / Materion Personol.
- I gadarnhau ac arwyddo bod cofnodion Cyfarfod yr Awdurdod Tân, a gynhaliwyd ar y 26ain o Fedi 2011, yn gofnod cywir.
- I dderbyn ac ystyried Cynllun Gweithredu Blynyddol 2012-2013. (PDF, 14kb)
- I dderbyn adroddiad cynnydd ar Wella'r Gwasanaeth ac Arbedion Effeithlonrwydd. (PDF, 44kb)
- I dderbyn adroddiad ar Gynhadledd Safonau 2011. (PDF, 12kb)
- Unrhyw eitemau arall o fusnes y mae'r Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried fel mater o frys yn unol ag Adran 100(B)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
- I gytuno, yn unol ag Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod oherwydd, pe byddent yn bresennol, mae'n debygol y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei ddatgelu o fewn disgrifiad Rhan 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sef gwybodaeth ynghylch unrhyw ymgynghoriadau neu drafodaethau mewn perthynas ag unrhyw fater yn ymwneud â chysylltiadau llafur sy'n codi rhwng yr Awdurdod neu Weinidog y Goron a gweithwyr, neu ddeiliaid swyddi, yr Awdurdod.
- I dderbyn y diweddaraf, ar lafar, ar y Cynllun Parhad Gweithredu Diwydiannol / Anghydfodau Undebau Llafur.
D Daycock
Clerc a Swyddog Monitro
14 o Hydref 2011
What
is a PDF?