www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cyfarfod Y Pwyllgor Datblygu Pobl A’r Gyfundrefn


Dydd Llun, 9 Mawrth 2009

AM 11.00 YB

GANOLFAN GYNADLEDDA
PENCADLYS Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB,
CAERFYRDDIN

Agenda

  1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb a Materion Personol.
  2. Datganiad gan Aelodau o Unrhyw Fuddiannau Personol
  3. Derbyn ac ystyried cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Pobl & Gyfundrefn a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2009
  4. Derbyn Adroddiad Blynyddol y Caplan (PDF, 40kb)
  5. Derbyn adroddiad ar Iechyd a Lles (PDF, 40kb)
  6. Derbyn yr adroddiad diweddaraf ar Recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser 2009 (PDF, 41kb)
  7. Derbyn adroddiad ar Brosiect Cymoedd Mwy Diogel – Recriwtio Cam Un (PDF, 44kb)
  8. Derbyn adroddiad ar y Rheoliadau Amser Gweithio (Cyfeireb Amser Gweithio Ewrop (WTD)) (PDF, 71kb)
  9. Derbyn adroddiad ar Hyfforddiant Risg Allweddol a Hyfforddiant Asesu (PDF, 78kb)
  10. Derbyn adroddiad ar Dâl Gwyliau a Salwch (PDF, 43kb)
  11. Derbyn adroddiad ar Brosiect Caffael Cymru Gyfan (PDF, 44kb)
  12. Derbyn Adroddiad yr Adran Risg Corfforaethol – Rheolaeth Iechyd & Diogelwch
  13. Unrhyw eitemau eraill o fusnes y mae’r Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried ar frys yn sgîl Adran 100(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972 
  14. Ni ddylid cyhoeddi’r adroddiadau ar yr eitemau canlynol gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn unol â diffiniad 12 ac 13 o Ran 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

    Os, ar ôl defnyddio’r Prawf Budd Cyhoeddus, yw’r Pwyllgor yn penderfynu yn dilyn y Ddeddf ystyried yr eitemau hyn yn breifat, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod trafodaethau o’r fath.
    Y Prawf Budd Cyhoeddus yn y mater hwn yw:-

    “Mae’r adroddiadau’n ymwneud ag ymddeoliad cynnar posib gweithwyr ac ad-drefnu adrannol allai ddilyn hynny. Byddai gwneud yr wybodaeth hon yn gyhoeddus yn datgelu data personol ynghylch unigolion yn groes i egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data. Felly, mae’r budd cyhoeddus i ddatgelu yn cael ei orbwyso gan y budd cyhoeddus i gadw cyfrinachedd.”

    ARGYMHELLIR yn holl amgylchiadau’r achos, fod y budd cyhoeddus i gynnal yr eithriad yn gorbwyso’r budd cyhoeddus i ddatgelu’r wybodaeth. 

  15. Derbyn adroddiad ar Adlinio’r Adran Caffael, Prynu, Dosbarthu a Chyflenwi
  16. Derbyn adroddiad ar Adolygiad o Strwythur Cynnal y Gwasanaeth

    Yn union wedi’r cyfarfod, bydd Aelodau’n cael cyflwyniad byr ar ‘Trefniadau Gweithio’r Gwasanaeth’


A T Howells
Clerc i'r Awdurdod Tân
2 Mawrth 2009

Get Adobe Reader    What is a PDF?

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service