Cyfarfod Y Pwyllgor Datblygu Pobl A’r Gyfundrefn
Dydd Llun, 15 Mehefin 2009
AM 11.00 YB
GANOLFAN GYNADLEDDA
PENCADLYS Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB,
CAERFYRDDIN
Agenda
- Ymddiheuriadau am Absenoldeb a Materion Personol.
- Datganiad gan Aelodau o Unrhyw Fuddiannau Personol.
- I dderbyn ac ystyried cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar y 9fed o Fawrth 2009.
- I dderbyn Adroddiad yr Adran Risg Corfforaethol – Rheoli Perfformiad Iechyd a Diogelwch. (PDF, 50kb)
- I dderbyn adroddiad ar Seminar Aelodau Cymru Gyfan 2009. (PDF, 40kb)
- I dderbyn adroddiad ar benodi Caplan y Gwasanaeth newydd ar gyfer Ardal Reoli Sirol Powys. (PDF, 37kb)
- I dderbyn adroddiad ar Iechyd a Lles. (PDF, 45kb)
- I dderbyn adroddiad ar Gynrychiolaeth ar y Cyd Bwyllgor Ymgynghorol. (PDF, 39kb)
- I dderbyn adroddiad ar Gylchlythyr diweddaraf y Cyflogwyr ar Gyflogau Tân 2009. (PDF, 35kb)
- I dderbyn adroddiad ar Recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser 2009. (PDF, 38kb)
- I dderbyn adroddiad ar yr Adolygiad o Bolisïau Ymddeoliad Cynnal / Terfynu Cyflogaeth a Darpariaethau Ymddeoliad Hyblyg i Staff Cynnal. (yn cynnwys Gweithwyr y Ganolfan Reoli) (PDF, 38kb)
- Unrhyw eitemau arall o fusnes y mae’r Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried fel mater o frys yn unol ag Adran 100(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 197214.
- Nid yw’r adroddiadau sy’n ymwneud â’r eitemau canlynol i’w cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd ym mharagraffau 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.
Os fydd y Pwyllgor, wedi cymhwyso Prawf Lles y Cyhoedd, yn penderfynu’n unol â’r Ddeddf i ystyried yr eitemau yma yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y fath ystyriaeth.
Yn y mater hwn, Prawf Lles y Cyhoedd yw:-
“Mae’r adroddiadau’n ymwneud ag adolygiad o’r Strwythur Uwch Reoli, Ail-alinio Strwythur yr Adran Ystadau a chyflogau’r Prif Swyddogion. Petai’r wybodaeth yma ar gael i’r cyhoedd buasai’n datgelu data personol sy’n ymwneud ag unigolion sy’n groes i egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data. Felly mae lles y cyhoedd wrth gynnal cyfrinachedd yn gorbwyso lles y cyhoedd wrth ei ddatgelu.”
ARGYMHELLIR yn holl amgylchiadau’r achos, bod lles y cyhoedd wrth gynnal yr eithriad yn gorbwyso lles y cyhoedd wrth ddatgelu’r wybodaeth.
- I dderbyn adroddiad ar yr adolygiad o Strwythur Uwch Reolwyr y Gwasanaeth.
- I dderbyn adroddiad ar ail-alinio Strwythur yr Adran Ystadau.
- I dderbyn adroddiad ar yr Adolygiad o Gyflogau’r Prif Swyddogion.
A T Howells
Clerc i'r Awdurdod Tân
8 Mehefin 2009
What
is a PDF?