www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cyfarfod Y Pwyllgor Datblygu Pobl A’r Gyfundrefn


Dydd Llun, 19 Ionawr 2009

AM 11.00 YB

GANOLFAN GYNADLEDDA
PENCADLYS Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB,
CAERFYRDDIN

Agenda

  1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb a Materion Personol.
  2. Datganiad gan Aelodau o Unrhyw Fuddiannau Personol
  3. I dderbyn ac ystyried cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Personél, a gynhaliwyd ar yr 20fed o Hydref 2008
  4. I dderbyn cyflwyniad gan Mr Gareth Smith ar Adroddiad Monitro Bwrdd yr Iaith Gymraeg
  5. I dderbyn adroddiad ar Recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser 2009 (PDF, 39kb)
  6. I dderbyn adroddiad ar Iechyd a Lles (PDF, 36kb)
  7. I dderbyn adroddiad ar y Rhaglen Newid Diwylliant (PDF, 37kb)
  8. I dderbyn adroddiad ar ymweliad Aelodau’r Awdurdod Tân i Earlswood a Threforys (PDF, 40kb)
  9. I dderbyn adroddiad ar Weithdy Coleg y Gwasanaeth - Sialensiau Ymarferol sy’n Wynebu’r Awdurdod Tân - Gweithdy i Aelodau Etholedig (PDF, 38kb)
  10. I dderbyn adroddiad ar Gyflogaeth Eilaidd (PDF, 33kb)
  11. I dderbyn Adroddiad yr Adran Risg Corfforaethol – Rheoli Iechyd a Diogelwch (PDF, 39kb)
  12. Unrhyw eitemau arall o fusnes y mae’r Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried fel mater o frys yn unol ag Adran 100(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
  13. I gytuno, yn unol ag Adran 100a(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod oherwydd, pe byddent yn bresennol, mae’n debygol y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei ddatgelu oddi fewn i ran 12(a)(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sef gwybodaeth yn ymwneud â gweithwyr presennol yr Awdurdod. 
  14.  I dderbyn adroddiad ar Reoliadau Diffoddwyr Tân Wrth Gefn a Gweithwyr Rhan Amser (Atal Triniaeth Lai Ffafriol):  Tribiwnlys Cyflogaeth – Cylchlythyr EMP/04/08

    Yn syth wedi’r cyfarfod, bydd yr Aelodau’n derbyn cyflwyniad ar ‘Drefniadau Gwaith y Gwasanaeth’  

A T Howells
Clerc i'r Awdurdod Tân
12 Ionawr 2009

Get Adobe Reader    What is a PDF?

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service