www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cyfarfod O'r Pwyllgor Adnoddau


Dydd Llun, 23 Ebrill 2007

AM 11.00 YB

GANOLFAN GYNADLEDDA
PENCADLYS Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB,
CAERFYRDDIN

Agenda

  1. Ymddiheuriadau am absenoldeb a materion personol.
  2. Datganiad gan Aelodau o unrhyw fuddiannau personol.
  3. I gadarnhau cofnodion y Pwyllgor Adnoddau, a gynhaliwyd ar y 15fed o Ionawr 2007, fel cofnod cywir ac i ystyried unrhyw faterion yn deillio ohonynt.   
  4. I dderbyn Adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Chaffaeliad ar Fonitro’r Gyllideb ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2006/07
  5. I ystyried Adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Chaffaeliad ar TAW ar Incwm Rhentu o’r Cyfleuster ar y Cyd yn Llandrindod. (PDF, 26 kb)
  6. I dderbyn Adroddiad Terfynol ar y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2006/07. (PDF, 11 kb)
  7. I dderbyn Cynllun Rheoleiddio Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2006/07. (PDF, 10 kb)
  8. I dderbyn Adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Chaffaeliad ar Achredu’r Awdurdod (Uned Gyllid) fel Cyflogwr ACCA (Sefydliad Cyfrifyddion Siartredig) Cymeradwy. (PDF, 10 kb)
  9. I ystyried Adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Chaffaeliad ar Bolisi a Strategaeth Rheoli’r Drysorfa ar gyfer 2007/08 ac Arferion Rheoli’r Drysorfa. (PDF, 24 kb)
  10. I ystyried Presenoldeb yng Nghynhadledd y CIPFA (Sefydliad Siartredig ar gyfer Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg) yn Bournemouth, o’r 12fed i’r 14eg o Fehefin 2007. (PDF, 10 kb)
  11. I dderbyn adroddiad ar gaffael tir yn Llandrindod. (PDF, 26 kb)
  12. I dderbyn adroddiad ar yr Uned Blymio yn B1 Hwlffordd. (PDF, 290 kb)
  13. I dderbyn adroddiad ar Femorandwm Dealltwriaeth Canolbarth Cymru – Gorllewin Canolbarth Lloegr. (PDF, 54 kb)
  14. I ystyried unrhyw ohebiaeth a dderbyniwyd
  15. I ystyried unrhyw eitemau arall o fusnes y mae’r Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried fel mater o frys, yn unol ag Adran 100(b)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

A T Howells
Clerc i'r Awdurdod Tân
17 Ebrill 2007

Get Adobe Reader    What is a PDF?

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service