Cyfarfod O'r Pwyllgor Adnoddau
Dydd Llun, 12 Gorffennaf 2010
AM 11.00 YB
GANOLFAN GYNADLEDDA
PENCADLYS Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB,
CAERFYRDDIN
Agenda
- Ymddiheuriadau am absenoldeb a materion personol.
- Datganiad gan Aelodau o unrhyw fuddiannau personol.
- I dderbyn ac ystyried cofnodion y Pwyllgor Adnoddau, a gynhaliwyd ar yr 11eg o Ionawr 2010.
- I dderbyn Adroddiad Monitro’r Gyllideb ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2009/10. (PDF, 27kb)
- I dderbyn y Datganiad o Gyfrifon Drafft ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2009/10, er gwybodaeth. (PDF, 28kb)
- I dderbyn Adroddiad Monitro’r Gyllideb ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2010/11. (PDF, 26kb)
- I dderbyn adroddiad ar bresenoldeb yng nghynhadledd y CIPFA. (PDF, 26kb)
- I dderbyn adroddiad cynnydd ar Adroddiadau Cynnydd y Prosiect Cymoedd Mwy Diogel, y Prosiect Gwasanaethau Brys ar y Cyd a Llys Ei Mawrhydi Llandrindod ac adeiladau cyhoeddus arall. (PDF, 25kb)
- I dderbyn diweddariad bras ar y Rhagolygon Ariannol.
- I ystyried unrhyw eitemau arall o fusnes y mae’r cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried fel mater o frys yn unol ag adran 100(b)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
- I gytuno, yn unol ag adran 100a(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod oherwydd, pe byddent yn bresennol, mae’n debygol y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei ddatgelu o fewn disgrifiad Rhan 12(a)(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sef gwybodaeth yn ymwneud â gweithwyr presennol yr Awdurdod. Argymhellir hefyd ei fod er lles y cyhoedd i eithrio’r cyhoedd o’r ystyriaeth a roddir i’r mater hwn.
- I dderbyn adroddiad ar Amodau Gwasanaeth y Prif Swyddogion.
O.N: Bydd yr Aelodau’n derbyn trosolwg o’r swyddogaeth Caffael ar ddiwedd y cyfarfod.
D Daycock
Clerc i'r Awdurdod
5ed o Orffennaf 2010
What
is a PDF?