www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
I ddod yn fuan - Wythnos Ddiogelwch Tân Cymru 2008, Medi 22 - 26

Bydd y tri Gwasanaeth Tân ac Achub a'r elusen Atal Tân Cymru yn tynnu sylw at rai o beryglon tân, a'r hyn y dylai pobl yng Nghymru ei wneud i atal y peryglon hynny. Dros yr wythnos, bydd ITV Wales yn dangos straeon am goginio'n ddiogel, ysmygu'n ddiogel a thanau, a sut i wneud cartrefi a chymunedau yn fwy diogel. Bydd yr wythnos yn canolbwyntio ar atal tanau trwy gael Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim, a chofio gwirio'r larymau mwg bob wythnos.

Yn ystod yr wythnos, bydd cynrychiolwyr o'r Gwasanaeth Tân ac Achub ar gael trwy Gymru i roi cyngor ar ddiogelwch tân ac i drefnu Archwiliadau Digoelwch Tân yn y Cartref am ddim. Am ragor o fanylion, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol, ac edrychwch yn y wasg leol. Bydd y manylion hefyd i'w cael ar ITV Local http://www.itvlocal.com/wales/



© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service