www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Penodi Prif Swyddog Tân Newydd ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae’n bleser gan Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Cyng. Collin Crowley, gyhoeddi bod Richard Smith, Dirprwy Brif Swyddog Tân presennol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi cael ei benodi’n Brif Swyddog Tân newydd ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’r penderfyniad hwn yn dilyn y cyhoeddiad fod y Prif Swyddog Tân presennol, Doug Mackay, yn ymddeol ym mis Mehefin 2008, ar ôl 32 o flynyddoedd.

Bu Mr Smith, 47, yn llwyddiannus mewn bwrdd penodi a gynhaliwyd ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub heddiw. Bydd yn cychwyn ar ei rôl newydd ar yr 16eg o Fehefin.

Ymunodd Mr Smith â’r Gwasanaeth Tân yn Swydd Gaerhirfryn ym 1978. Bu’n gwasanaethu yng Ngorsafoedd Tân Blackburn, Caerhirfryn a Preston, cyn symud i Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Warwig ym 1986 fel Swyddog Gorsaf. Yno, bu’n gwasanaethu fel Dirprwy i Swyddog Hyfforddiant y Gwasanaeth, cyn cymryd yr awenau yng Ngorsaf Dân Leamington Spa, a chafodd ei ddyrchafu’n Rheolwr Ardal, gyda gofal dros Orsafoedd Tân Nuneaton a Bedworth o 1990.

Yn dilyn dyrchafiad, symudodd i Frigâd Dân Swydd Gaerlleon ym 1991, a bu Richard yn gweithio yn yr adrannau Gweithrediadau, Hyfforddiant ac AD, cyn dod yn Uwch Swyddog Personél a Hyfforddiant y Frigâd yn 2000. Symudodd i Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn 2003 fel Dirprwy Brif Swyddog Tân, ac ef yw Cyfarwyddwr Cynllunio a Pholisi’r Gwasanaeth.

Mae Richard yn aelod gweithgar o Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân, ac ef yw’r arweinydd cenedlaethol ar faterion yn ymwneud â diogelwch tân deddfwriaethol, ac mae’n eistedd ar amrywiol bwyllgorau Iechyd a Diogelwch cenedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Collin Crowley, Cadeirydd Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru: “ Rwy’n hapus iawn gyda’r penodiad. Mae Richard wedi bod yn gaffaeliad i’r gwasanaeth yn ei rôl fel Dirprwy Brif Swyddog Tân dros y bedair mlynedd a hanner diwethaf. Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef yn ei rôl newydd”

Dywedodd Richard Smith: “ Rwyf wrth fy modd o gael fy mhenodi’n Brif Swyddog Tân newydd ar y fath sefydliad ardderchog. Rwyf wedi mwynhau fy amser fel Dirprwy Brif Swyddog Tân ac rydym wedi cyflawni llawer er lles diogelwch yn y gymuned; ac edrychaf ymlaen at barhau gyda’r gwaith hwn wrth i mi gymryd y llyw”.



© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service