Her Yrru i Ferched 2010 – gwisgwch eich sodlau uchel wrth y llyw!
Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru Gyfan wedi lansio Gwasanaeth Negeseuon Testun (SMS), i gymell mwy o bobl i fanteisio ar eu Harchwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref (HFSC) AM DDIM.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyhoedd wedi medru gwneud cais am HFSC Am Ddim, trwy ffonio’r rhif ffôn AM DDIM neu trwy gofrestru ar wefan y gwasanaeth. Fodd bynnag, fel rhan o weledigaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub i barhau i greu cymunedau mwy diogel, rydym wedi lansio gwasanaeth negeseuon testun (SMS), a fydd gobeithio’n cymell mwy o bobl i wneud cais am Archwiliad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref.
Mae’r gwasanaeth negeseuon testun hwn ar gael i’r byddar a’r trwm eu clyw hefyd, sydd efallai wedi ei chael hi’n anodd cyfathrebu â ni yn y gorffennol. Y cyfan sydd angen i unrhyw un sydd eisiau gwneud cais am HFSC Am Ddim i’w wneud yw anfon neges destun, yn cynnwys y gair ´HFSC´ ac yna eu henw, i 88365. Os yw’r person yn fyddar neu fod nam ar ei leferydd, yna mae angen iddo/iddi i ychwanegu’r gair ‘byddar’ wedi ei enw, cyn anfon y neges destun i’r un rhif (88365). Yna, bydd aelod o’r gwasanaeth tân yn cysylltu â nhw o fewn 3 diwrnod gwaith.
Ers 2004, mae’r tri gwasanaeth wedi ymweld â dros 200,000 o gartrefi yng Nghymru, gan roi cyngor ar ddiogelwch rhag tân a gosod larymau mwg am ddim. Yn ystod yr un cyfnod, mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru Gyfan wedi gweld gostyngiad yn y nifer o danau damweiniol mewn anheddau a gostyngiad yn y nifer o bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu o ganlyniad i dân yn y cartref. Fodd bynnag, mae llawer gormod o gartrefi’n agored i risg o hyd, sydd heb dderbyn HFSC am ddim eto.
Dywedodd y Pennaeth Lleihau Risg yn y Gymuned, Chris Davies:
"Rydym ni eisiau parhau gyda’r gwaith da a wneir eisoes gan y tri Gwasanaeth Tân yng Nghymru; felly, mae’n bwysig ein bod yn targedu’r cartrefi nad sydd wedi derbyn HFSC Am Ddim eto, fel y medrwn barhau i leihau’r risg o anafiadau a marwolaethau o ganlyniad i dân yn y cartref. Nid yn unig ein bod yn gosod larymau mwg sy’n gweithio am ddim mewn cartrefi, rydym ni hefyd yn rhoi cyngor a anelir at dynnu sylw at y peryglon posib yn y cartref ac i helpu pobl i greu amgylchedd diogel rhag tân. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cefnogi ein gweithgareddau diogelwch rhag tân yn gyson, ac mae’r cynllun diweddaraf hwn wedi bod yn bosib oherwydd cymorth ariannol y Cynulliad”
Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod angen Archwiliad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref AM DDIM, anfonwch neges destun i’r gwasanaeth nawr ar 88365, neu fel arall ffoniwch AM DDIM ar 0800 169 1234.