Cyfle i ennill Her Yrru i Fercher i Wraig Arbennig!
Dydd Sul y 18fed o Ebrill 2010,
Trac Rasio Pen-bre, Llanelli
Ar Ddydd Sul y 18fed o Ebrill, bydd Elusen y Diffoddwyr Tân yn ymweld â Thrac Rasio Pen-bre, Llanelli, i roi’r cyfle i ferched i yrru amryw o gerbydau mawr ac anarferol, yn ystod yr ‘Her Yrru i Ferched’. Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fydd yn cynnal y digwyddiad, a bydd y cyfranogwyr yn medru troi eu llaw at yrru amryw o gerbydau gwahanol, yn cynnwys peiriannau tân, tryciau a thractorau, diolch i garedigrwydd sefydliadau lleol.
Pob blwyddyn, mae miloedd o Ddiffoddwyr Tân yn cael eu hanafu wrth ddiogelu’r cyhoedd. Pob 30 eiliad yn y DU, mae diffoddwyr tân yn cael eu galw i ddigwyddiad, gan beryglu eu bywydau, ac yn aml maent yn dioddef anafiadau wrth gyflawni eu dyletswyddau.
Mae’n costio dros £9 miliwn i gynnal yr elusen a, heb unrhyw nawdd oddi wrth y Llywodraeth, mae’n dibynnu ar roddion oddi wrth y cyhoedd a’r gymuned dân. Mae’r Elusen yn rhoi triniaeth a gwasanaethau cymorth i ddiffoddwyr tân a anafwyd, ac mae’n cynnig gwasanaethau therapi a gwella mewn tair canolfan ar draws y DU.
Er mwyn cael cyfle i lywio’r olwyn am y dydd (heb ymyrraeth y gyrrwr sedd gefn yn eich bywyd!), y cyfan yr ydym yn ei ofyn yw i chi dalu ffi cofrestru o £10 ac i godi swm bach o arian.
Gellir sicrhau digwyddiad llawn hwyl a sbri i bawb wrth godi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân.
Os hoffech gyfranogi yn y digwyddiad ffantastig hwn a throi eich llaw at yrru cerbydau anarferol, cysylltwch â Pauline Tyldesley ar ptyldesley@firefighterscharity.org.uk,
Os am gyfle i ENNILL Diwrnod Profiad Her Yrru i Ferched Elusen y Diffoddwyr Tân ar Drac Rasio Pen-bre, Llanelli ar y 18fed o Ebrill, atebwch y cwestiwn isod:
Faint mae’n costio i gynnal yr Elusen bob blwyddyn
Anfonwch eich ateb i Craig Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Y Pencadlys, Heol Llwyn Pisgwydd, Caerfyrddin, SA31 1SP erbyn y 7fed o Ebrill 2010. Cofiwch gynnwys eich enw a’ch rhif ffôn. Pob lwc!!