Gwybodath am Hawlfraint
Mae'r holl ddeunydd sydd wedi ei gynnwys o fewn Gwefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi'i ddiogelu gan hawlfraint, oni bai y dywedir fel arall. Sylwer os gweler yn dda fod yr hawlfraint sydd wedi ei gynnwys yn y deunydd sy'n ymddangos o fewn cysylltiadau gwefan allanol yn gorwedd gydag awduron y deunydd o dan sylw. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn argymell eich bod yn cyfeirio at rybuddion hawlfraint cysylltiedig y safleoedd hynny.
Testun
Mae’r holl destun ar y tudalennau oddi fewn i barth www.mawwfire.gov.uk yn amodol i Hawlfraint © Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, oni bai y dywedir fel arall, yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Pryd bynnag y bo’r testun wedi’i gasglu a’i gynnwys ar y tudalennau yma gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, nid yw’r Gwasanaeth yn gwrthwynebu i’r testun hwnnw gael ei ddefnyddio er dibenion unrhyw ddefnydd personol neu addysgol neu ymchwil preifat. Fodd bynnag, ni awdurdodir unrhyw ddefnydd o’r testun ar y tudalennau yma ar gyfer unrhyw ddibenion masnachol, oni bai fod trwydded yn cael ei gaffael oddi wrth Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: anfonwch eich cais at reception@mawwfire.gov.uk.
Ffotograffau
Mae’r holl ddelweddau ffotograffig ar y tudalennau oddi fewn i barth www.mawwfire.gov.uk yn amodol i Hawlfraint © Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, oni bai y dywedir fel arall, yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Mae Hawlfraint dros yr holl ffotograffau a ddangosir ar y safle gwe hwn yn eiddo i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a/neu’r ffotograffydd, ac felly ni ellir defnyddio’r ffotograffau yma oni bai fod trwydded yn cael ei gaffael oddi wrth Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: anfonwch eich cais at reception@mawwfire.gov.uk.
Iconau a Gwaith Celf
Mae’r holl iconau, gwaith celf a delweddau graffigol eraill ar y tudalennau oddi fewn i barth www.mawwfire.gov.uk yn amodol i Hawlfraint © Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, oni bai y dywedir fel arall, yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn berchen ar hawlfraint dros ei logos, Bathodyn y Gwasanaeth ac unrhyw logos hyrwyddol eraill. Gwaherddir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r rhain gan eraill.
Os ydych yn dymuno creu dolen rhwng unrhyw un o’n tudalennau, a’ch bod angen icon i ddynodi’r ddolen, mae croeso i chi ddefnyddio ein hicon Bathodyn y Gwasanaeth.
Logo
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn berchen ar hawlfraint ei logo deipiau, ei arfbais a’i holl logos hyrwyddol eraill, megis y logo “Logo Corfforaethol”. Gwaherddir defnydd anawdurdodedig o’r rhain gan bobl eraill.
Dylid anfon ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio ein logo at Paul Thomas, Gweinyddwr Systemau Gwe. Rhif ffôn 01267 226862. Dywedwch wrthym, os gwelwch yn dda, sut a pham yr ydych yn dymuno defnyddio ein logo, a chofiwch gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt. Os bydd yn ymddangos ar wefan, dylai ein logo gynnwys dolen i hafan ein gwefan.
Mapio
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael ei drwyddedu gan yr Arolwg Ordnans i ddefnyddio eu mapiau ar y wefan hon. Diogelir eu mapiau gan Hawlfraint y Goron ac ni ddylid eu defnyddio er dibenion anawdurdodedig. Mae Arolwg Ordnans yn barod i roi trwyddedau i ddefnyddio eu heiddo deallusol, ac mae gwybodaeth bellach ar gael oddi wrthynt hwy.
Dolenni
Nid oes yn rhaid i chi ofyn caniatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau ar safle Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth sy’n gynwysedig ar ein safle, fodd bynnag, ni fyddwn yn eich hysbysu os caiff y tudalennau eu dileu, eu symud neu os bydd enw ffeil yn newid. Nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau i gael eu llwytho i mewn i fframiau ar eich safle. Mae’n rhaid i dudalennau gwefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i lwytho i mewn i ffenest gyfan y defnyddiwr.
Mae’n bolisi gennym i gaffael caniatâd i gysylltu â gwefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau y cysylltir â nhw. Ni ddylid ystyried bod rhestriad yn ardystiad o unrhyw fath. Ni fedrwn warantu y bydd y dolenni’n gweithio bob amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau y cysylltir â nhw.

Safleoedd Defnyddiol
Swyddfa Eiddo Deallusol y DU - Hawlfraint
Eiddo Deallusol