Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref
Er mwyn lleihau amledd tanau damweiniol mewn anheddau o fewn ei ardal, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi dechrau ar raglen uchelgeisiol o Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref (HFSC).
O hyn ymlaen bydd diffoddwyr tân a staff diogelwch rhag tân yn y gymuned o’r Gwasanaeth yn ymweld ag adeiladau domestig i ddarparu cyngor ar ddiogelwch rhag tân yn y cartref ac mewn rhai achosion, byddant yn medru gwirio neu osod synwyryddion mwg yn rhad ac am ddim. Yr archwiliadau yma yw conglfaen y rôl rhagweithiol a fabwysiadwyd gan y Gwasanaeth yn ei ymdrech i leihau marwolaethau ac anafiadau a achoswyd gan danau damweiniol.
Mae achosion nodweddiadol tanau yn y cartref yn cynnwys
- Poptái wedi eu gadael heb neb i ofalu amdanynt
- Esgeulustod wrth waredu sigaréts
- Socedi trydan wedi eu gorlwytho
- Plant yn chwarae gyda matsis
Mae archwiliad diogelwch rhag tân yn y cartref yn cymryd tua awr i’w gwblhau ac yn gyffredinol caiff ei gynnal gan ddau gynrychiolydd o’r Gwasanaeth Tân. Gallwch wneud cais am archwiliad diogelwch rhag tân yn y cartref ar eich cyfer chi neu berthynas dibynnol trwy gysylltu â’r Gwasanaeth ar 0800 169 1234 neu trwy e-bostio eich cais at eich Swyddfa Gwasanaeth Tân leol trwy gyfrwng un o’r dolenni isod.
Gwneud cais am Archwiliad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref