O hyn ymlaen bydd diffoddwyr tân a staff diogelwch rhag tân yn y gymuned o’r Gwasanaeth yn ymweld ag adeiladau domestig i ddarparu cyngor ar ddiogelwch rhag tân yn y cartref ac mewn rhai achosion, byddant yn medru gwirio neu osod synwyryddion mwg yn rhad ac am ddim. Yr archwiliadau yma yw conglfaen y rôl rhagweithiol a fabwysiadwyd gan y Gwasanaeth yn ei ymdrech i leihau marwolaethau ac anafiadau a achoswyd gan danau damweiniol.
Gallwch ofyn am archwiliad diogelwch rhag tân yn y cartref ar eich cyfer chi, neu berthynas sy’n ddibynnol arnoch, trwy gysylltu â’r Gwasanaeth ar 0800 169 1234.
Calendr
2010 Calendr Gwyliau a Digwyddiadau lleihau »
Mae ffug alwadau’n peryglu bywydau
Mae ffug alwadau’n peryglu bywydau, oherwydd efallai na fydd ein criwiau ar gael i ymdrin ag argyfwng go iawn. Os ydych yn gwneud ffug alwadau, gellir olrhain eich rhif ffôn a’ch datgysylltu. Mae ffug alwadau’n medru arwain at ddirwy a chofnod troseddol.
Cyngor ar gyfer Digwyddiadau
Ydych chi’n trefnu digwyddiad? Mae’n bosib y byddwn yn medru darparu cyngor ac arddangosiadau ar ddiogelwch rhag tân.
Os fydd Tân yn Amlygu
Ewch Allan, Arhoswch Allan, Ffoniwch 999. Dilynwch eich cynllun dianc rhag tân. mwy »
Wedi Argyfwng
A ydyw'n ddiogel nawr? Beth sydd angen ichi wneud, cysylltu â chymdeithasau a allai fod o gymorth. mwy »
Cynlluniau Addysg Diogelwch Rhag Tân
Mae rhoi ymwybyddiaeth o dân i blant bach yn allweddol wrth leihau’r nifer o ddamweiniau sy’n ymwneud â thân, ac mae’n helpu i leihau’r nifer o ymosodiadau o losgi bwriadol a ffug alwadau.