www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Tân Gwyllt a Choelcerthi
Mae pawb yn mwynhau gwylio tân gwyllt, ond yn anffodus mae damweiniau’n digwydd pan nad yw pobl yn ofalus, yn enwedig i bobl ifanc. Yn 2005, cafodd 990 o bobl eu hanafu gan dân gwyllt. Dioddefwyd y mwyafrif o anafiadau - 475 - mewn arddangosiadau tân gwyllt preifat neu deuluol, llai (Ystadegau AMD 2005). Mae'r mwyafrif o anafiadau a achosir gan dân gwyllt yn cael eu dioddef gan blant o dan 16 oed, ac mae llawer ohonynt yn gorfod byw gyda chreithiau'r llosgiadau am oes.

Yn ddelfrydol, ewch i arddangosfeydd tân gwyllt cyhoeddus, ond os ydych yn cynnal eich arddangosfa breifat eich hun cofiwch y Côd TÂN GWYLLT:

  • Prynwch dân gwyllt wedi marcio â BS7114 yn unig

  • Peidiwch ag yfed alcohol os yn gollwng tân gwyllt

  • Cadwch y tân gwyllt mewn blwch caeedig

  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt

  • Cynnwch nhw hyd braich i ffwrdd, gan ddefnyddio tapr

  • Sefwch yn ddigon pell yn ôl

  • Peidiwch fyth â mynd yn agos at dân gwyllt wedi ei gynnau. Hyd yn oed os nad ydyw wedi ffrwydro, gallai ffrwydro

  • Peidiwch fyth â rhoi tân gwyllt yn eich poced neu eu taflu i ffwrdd

  • Gwnewch yn sïwr eich bod yn arolygu plant bob amser pan fo tân gwyllt o gwmpas

  • Cynnwch ffyn gwreichion fesul un a gwisgwch fenig

  • Peidiwch fyth â rhoi ffyn gwreichion i blentyn o dan bump oed

  • Cadwch eich anifeiliaid anwes dan do

  • Darllenwch y cyfarwyddiadau i gyd, yng ngolau ddydd


Yn unol â Deddfwriaeth Tân Gwyllt 2004, erbyn hyn mae'n anghyfreithlon cynnau tân gwyllt rhwng 11yh a 7yb, gydag eithriadau ar ddiwrnodau penodol o'r flwyddyn megis y 5ed o Dachwedd, lle mae'r cyrffyw'n effeithiol rhwng 12 hanner nos a 7yb. Gallai unrhyw un sy'n torri'r cyrffyw hwn dderbyn dirwy o hyd at £5000 a/neu hyd at 6 mis o garchar.

Cynghorir rhieni a mudiadau i brynu tân gwyllt wedi eu marcio â BS7114 yn unig ac i brynu oddi wrth sefydliadau mân werthu sydd wedi cofrestru gyda'r Awdurdod Lleol, yn unig. Dylai unrhyw un sy'n cael cynnig tân gwyllt gan ffynhonnell anghyffredin gysylltu â'u swyddfa safonau masnachu, gorsaf yr heddlu neu orsaf dân leol.

Os ydych yn bwriadu cynnau coelcerth dilynwch y canllawiau canlynol:

  • Dylai’r goelcerth fod o leiaf 18m oddi wrth unrhyw dai, ffensys, coed ac unrhyw beth fflamadwy

  • Peidiwch fyth â defnyddio petrol neu paraffîn i gynnau tân oherwydd bod y mygdarth yn medru tanio

  • Gwiriwch yn syth cyn cynnau’r tân nad oes plentyn neu anifail yn cuddio tu mewn

  • Peidiwch â llosgi sbwriel peryglus (e.e. erosolau, tinau paent, dodrefn yn llawn sbwng)

  • Gwaredwch unrhyw sbwriel o ardal eich coelcerth o flaen llaw fel na ellir taflu unrhyw beth ar y tân ar y noson

  • Peidiwch ag adeiladu coelcerthi ar fawn, gan fod y tanau yma’n medru lledu o dan y ddaear ac ymddangos cryn bellter i ffwrdd


Nid yw eich gwaith, a gwaith eich tîm, yn gorffen pan fo’r tân gwyllt olaf wedi ffrwydro:

  • Mae angen diffodd y goelcerth yn llwyr

  • Mae angen casglu casys y tân gwyllt a ddefnyddiwyd. Chwiliwch am dân gwyllt wedi eu defnyddio gyda thorsh a defnyddiwch efeiliau neu offer addas arall, a gwisgwch fenig cryf

  • Peidiwch â chaniatáu i blant i gasglu casys y tân gwyllt

  • Os yw tân gwyllt yn edrych fel nad yw wedi ffrwydro wedi hanner awr o leiaf, gwlychwch ef mewn bwced o ddwr a gofynnwch i’r Gwasanaeth Tân ac Achub am gyngor


Pan yn defnyddio ffyn gwreichion:

  • Daliwch nhw fesul un

  • Gwisgwch fenig pob amser

  • Daliwch y ffyn gwreichion hyd braich oddi wrthych

  • Pan fo’r ffon wreichion yn diffodd, PEIDIWCH Â CHYFFWRDD Â HI. Gallai eich llosgi, felly gosodwch nhw mewn bwced o ddwr, gyda’r pen poeth i lawr.

  • Arolygwch blant sy’n dal ffyn gwreichion BOB AMSER. Mae ffyn gwreichion yn llosgi ar dymheredd o 2000°C, sy’n fwy poeth na weldiwr arc.


Gwybodaeth pellach - Diogelwch Wrth Drafod Coelcerthi: Cyngor i Rai Sy'n Trefnu Digwyddiadau Cyhoeddus Neu Led-Cyhoeddus

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service