www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Diogelwch Rhag Tân i Ddiogelu eich Cartref
Mae nifer o sefydliadau y medrwch gysylltu â nhw a fydd yn eich helpu i ddiogelu eich cartref rhag unrhyw ddifrod pellach yn dilyn tân. Os ydych wedi yswirio eich cartref, cysylltwch â nhw cyn gynted ag sy'n bosib a byddant yn eich helpu i gymryd y camau sy'n ofynnol.

Yswiriant

Y cyfle cyntaf a gewch, dylech chi gysylltu â'ch yswirwyr i'w hysbysu am y digwyddiad a dychwelwch ffurflen hawlio wedi'i chwblhau iddynt cyn gynted ag sy'n bosib. Mae'n bosib y byddant yn dymuno archwilio eich cartref cyn bod unrhyw beth yn cael ei symud, felly gofynnwch iddyn nhw yn gyntaf. Gellir mynd ag arian sydd wedi llosgi'n rhannol i'r banc i'w amnewid. Os ydych yn rhentu neu'n prydlesu eich cartref, dylech chi gysylltu â'r landlord neu eu hasiant.

Os nad oes gennych yswiriant, dylech chi gysylltu â'ch Swyddfa Nawdd Cymdeithasol leol, oherwydd mae'n bosib y byddant yn medru cynnig cymorth ariannol.

Diogelu eich eiddo

Os yw'r tân wedi gadael eich cartref mewn cyflwr ansefydlog, dylech chi gau pob drws a ffenest gan eu bod yn wahoddiad agored i ladron. Dylid byrddio i fyny unrhyw ffenestri a drysau sydd wedi torri. Mae nifer o gontractwyr yn yr Yellow Pages sy'n cynnig y gwasanaeth hwn, ond cofiwch ofyn i'ch yswirwyr yn gyntaf. Os ydych yn denant cyngor, dylech chi gysylltu â'ch Adran Dai leol, a fydd yn darparu'r gwasanaeth hwn. Hefyd, mae'n syniad da i gysylltu â'r Heddlu lleol, i sicrhau eu bod yn gwybod fod eich cartref yn wag ac mewn cyflwr ansefydlog.

Llety dros dro

Os ydych yn poeni am addasrwydd eich llety wedi'r tân, cysylltwch â'ch Adrannau Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol lleol i wneud trefniadau arall.

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service