Gwybodaeth am Ddiogelwch Tân - Yswiriant
Mae nifer o sefydliadau y medrwch chi gysylltu â nhw, a fydd yn eich helpu i ddiogelu eich eiddo rhag unrhyw ddifrod pellach yn dilyn tân. Os ydych chi wedi yswirio eich cartref, cysylltwch â nhw cyn gynted ag sy'n bosib, a byddant yn eich helpu i gymryd y camau angenrheidiol.
Yswiriant
Y cyfle cyntaf a gewch chi, dylech chi gysylltu â'ch yswirwyr i'w hysbysu am y digwyddiad a dylech chi ddychwelyd y ffurflenni hawlio, wedi eu cwblhau, iddynt cyn gynted ag sy'n bosib. Mae'n bosib byddant yn dymuno archwilio eich cartref cyn bod unrhyw beth yn cael ei symud, felly gofynnwch iddyn nhw'n gyntaf. Gellir mynd ag arian sydd wedi llosgi'n rhannol i'r banc i gael arian yn ei le. Os ydych yn rhentu neu'n prydlesu'r adeilad, dylech chi gysylltu â'r landlord neu ei asiant.
Os nad oes gennych yswiriant, dylech chi gysylltu â'ch Swyddfa Nawdd Cymdeithasol leol, a fydd yn medru cynnig cymorth ariannol, o bosib.
Diogelu eich eiddo
Os yw'r tân wedi gadael eich cartref mewn cyflwr anniogel, dylech chi gau'r holl ddrysau a ffenestri, gan y bydd y rhain yn denu lladron. Dylid byrddio unrhyw ffenestri a drysau sydd wedi torri i fyny. Mae nifer o gontractwyr yn y Yellow Pages sy'n cynnig y gwasanaeth hwn, ond dylech chi holi eich yswirwyr yn gyntaf. Os ydych yn denant i'r cyngor, dylech chi gysylltu â'ch Adran Tai lleol, a fydd yn cynnig y gwasanaeth hwn i chi. Yn ogystal, mae'n beth doeth i gysylltu â'ch Heddlu lleol, i sicrhau eu bod yn gwybod fod yr adeilad yn wag ac yn anniogel.
Llety dros dro
Os ydych yn poeni am addasrwydd eich llety wedi'r tân, cysylltwch â'ch Adrannau Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud trefniadau arall.