www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Tanau Simnai
Mae modd osgoi’r mwyafrif o danau simnai. Bydd archwilio a glanhau ffliwiau simneiau yn helpu i atal tanau.

Cynghorion syml i leihau tipyn ar eich siawns o gael tân yn eich simnai:

  • Ysgubwch y simnai cyn ei defnyddio, os nad ydych wedi ei defnyddio ers peth amser;
  • Sicrhewch fod gard tân o flaen y tân bob amser;
  • Mae gard gwreichion yn medru atal tanau difrifol mewn tai;
  • Diffoddwch y tân cyn mynd i’r gwely neu cyn gadael y tŷ;

PEIDIWCH BYTH â defnyddio petrol neu baraffîn i gynnau eich tân

PA MOR AML DDYLWN NI LANHAU FY SIMNAI?

Mae gan danau simnai’r potensial i achosi difrod difrifol i’ch cartref, felly gofalwch fod eich simnai’n cael ei glanhau’n unol â’r canllawiau yma gan Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgubwyr Simneiau:-

Math o Declyn Amlder Glanhau’r Simnai
Teclynnau Tanwydd Solet Unwaith y flwyddyn ar gyfer tanwydd di-fwg a dwywaith y flwyddyn ar gyfer glo
Teclynnau Llosgi Pren Pob tri mis pan eu bod mewn defnydd
Teclynnau Nwy Unwaith y flwyddyn os ydynt wedi eu dylunio i’w hysgubo
Teclynnau Llosgi Olew Unwaith y flwyddyn

Peidiwch â chael eich temtio i lanhau eich simnai gyda sugnwr llwch domestig, gadewch y gwaith i ysgubwr simnai go iawn. Gofalwch fod eich ffliw yn cael ei archwilio’n rheolaidd, i atal tân rhag torri allan o’r simnai i ystafell fyw neu i’r llofft.

Mae gan Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgubwyr Simneiau rwydwaith o aelodau cwbl yswiriedig ledled y Wlad, sy’n gweithio i Gôd Ymarfer. I gael mwy o fanylion ffoniwch AM DDIM ar 0800 833464 neu ymwelwch â’u gwefan: www.chimneyworks.co.uk

BETH DDYLWN NI EI WNEUD OS OES TÂN YN Y SIMNAI?

  • Rhybuddiwch bawb arall yn y tŷ
  • Deialwch 999, a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân – rydym yn trin tanau simnai fel unrhyw dân arall yn y cartref
  • Os oes gennych dân agored confensiynol, diffoddwch y tân trwy dasgu dŵr yn ysgafn i mewn i’r tân agored
  • Os oes gennych declyn tanwydd solet, caewch y dellt awyru gymaint ag sy’n bosib
  • Symudwch ddodrefn a rygiau i ffwrdd oddi wrth y lle tân a symudwch unrhyw addurniadau sydd gerllaw
  • Rhowch gard tân neu gard gwreichion o flaen y tân
  • Teimlwch y brestyn simnai mewn ystafelloedd eraill i ganfod arwyddion o wres
  • Os yw’r wal yn twymo, symudwch y dodrefn i ffwrdd oddi wrthi

Gofalwch fod modd cael mynediad i’r atig neu ofod y to, gan y bydd y Gwasanaeth Tân eisiau gwirio’r ardal hon i chwilio am arwyddion posib fod y tân wedi lledu.

Gwefan ddefnyddiol: www.solidfuel.co.uk

COFIWCH

HEB EU CYNNAL A’U CADW’N BRIODOL, MAE FFLIW UNRHYW DÂN NEU STÔF YN MEDRU ACHOSI CRONIAD PERYGLUS O NWY MONOCSID CARBON.

GALL SYNHWYRYDD MONOCSID CARBON HELPU I’CH DIOGELU RHAG Y PERYGL HWN.
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service