Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân – Dysgu plant i fod yn ddiogel gyda thân
Dysgu plant i fod yn ddiogel gyda thân
Y ffordd orau i ddysgu plant yw trwy esiampl. Gadewch i’ch plant eich gweld chi’n bod yn synhwyrol ac yn ofalus am goginio, canhwyllau, ysmygu a pheryglon tân posib eraill.
Hefyd, dylech:
- Annog eich plant i ddweud wrthych os byddant yn dod o hyd i fatsis neu danwyr sigaréts.
- Anogwch blant hŷn i fod yn gyfrifol trwy adael iddynt i gyfranogi mewn gweithgareddau diogel sy’n ymwneud â thân, er enghraifft, cynnau cannwyll o dan arolygaeth oedolyn.