www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân – Dysgu plant beth i’w wneud os oes tân
Dysgu plant beth i’w wneud os oes tân

Paratowch Gynllun Dianc o Dân

  • Cadwch eich llwybr dianc yn glir o deganau a gwrthrychau eraill.



  • Os gwelwch chi fwg neu fflamau, seiniwch y rhybudd a dywedwch wrth oedolyn ar unwaith.


  • Sicrhewch nad oes tân tu ôl i ddrysau caeedig trwy deimlo’r drws gyda chefn eich llaw i weld a yw’n boeth.


  • Os oes mwg, ymlusgwch ar hyd y llawr gan mai yma fydd yr aer glanaf.


  • Ewch allan o’r adeilad cyn gynted ag sy’n bosib. Ewch i dŷ cymydog a dywedwch wrthynt am ddeialu 999, a gofyn am y Gwasanaeth Tân ac Achub.


  • Os yw eich llwybr dianc wedi’i flocio, ewch i mewn i ystafell sy’n cynnwys ffenest. Rhowch flancedi a thywelion ar waelod y drws i atal y mwg rhag dod i mewn. Os oes ffôn yn yr ystafell deialwch 999. Os nad oes ffôn, agorwch ffenest a gweiddwch am help.


  • Peidiwch â mynd yn ôl i mewn i’r adeilad, nid hyd yn oed i fofyn teganau nac anifeiliaid anwes. Gall y diffoddwyr tân chwilio’r tŷ’n gyflymach ac yn fwy diogel nag y medrwch chi.



© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service