www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Gwybodaeth am Ddiogelwch Rhag Tân – Plant sydd wedi eu swyno gan dân
Plant sydd wedi eu swyno gan dân

Peidiwch byth â chwarae gyda matsis na thanwyr sigaréts. Os welwch chi fatsis neu danwyr sigaréts yn gorwedd o gwmpas, dywedwch wrth oedolyn.

  • Peidiwch byth â chwarae gyda channwyll sydd ynghyn.


  • Peidiwch â chwarae gerllaw’r tân neu wresogyddion, na gadael teganau gerllaw’r tân neu wresogyddion.


  • Peidiwch â thynnu ceblau trydan na chwarae gydag offer trydanol na socedi.


  • Peidiwch â throi’r popty na’r hobïau ymlaen.


  • Peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw sosbenni ar yr hob.


  • Peidiwch â rhoi unrhyw beth ar ben gwresogyddion, lampau nac unrhyw oleuadau eraill.


  • Os gwelwch chi dân, dywedwch wrth oedolyn ar unwaith a pheidiwch â cheisio’i ddiffodd.



© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service