Gwybodaeth Am Ddiogelwch Rhag Tân – Gwybodaeth i bobl sy’n byw mewn adeiladau uchel iawn
Mae tyrrau o fflatiau neu adeiladau uchel iawn yn cael eu dylunio i gynnwys waliau, nenfydau a drysau sy’n dal tân yn ôl ac sy’n ei rwystro rhag lledu i fflatiau neu goridorau eraill am beth amser. Mae hyn yn golygu, os oes tân yn rhan arall o’ch adeilad, fel arfer mae’n fwy diogel i chi i aros yn eich fflat. Hefyd, os fyddwch yn gadael eich fflat mae’n bosib y cewch eich caethiwo neu eich anafu gan rywbeth neu gan y tân.
Os ydych yn byw mewn fflat
Mae fflatiau’n cael eu hadeiladu i roi peth amddiffyniad i chi rhag tân. Bydd y waliau, y lloriau a’r drysau’n dal y fflamau a’r mwg yn ôl am beth amser.
- Os oes tân tu allan i’ch fflat, yn rhan arall o’r adeilad, fel arfer mae’n fwy diogel i chi i aros yn eich fflat, oni bai fod y gwres neu fwg yn effeithio arnoch.
- Os oes tân tu mewn i’ch fflat chi, gadewch yr adeilad gan gau’r drws i’ch fflat tu ôl i chi.
- Os oes llawer o fwg, ymlusgwch ar hyd y llawr ble bydd yr aer yn fwy clir.
- Os ydych yn byw mewn adeilad sy’n cynnwys lifft, peidiwch â’i ddefnyddio os oes tân, defnyddiwch y grisiau yn lle’r lifft.
- Deialwch 999 o unrhyw ffôn.
- Rhowch y cyfeiriad, yn cynnwys rhif eich fflat, a dywedwch wrthynt ar ba lawr mae’r tân.
Os na fedrwch chi ddianc o dân
- Ceisiwch gael pawb i ymgasglu yn un ystafell, sy’n cynnwys ffenest sy’n agor a ffôn, o ddewis. Caewch y drws ac arhoswch i gael eich achub.
- Gosodwch ddillad gwely neu dywelion ar hyd gwaelod y drws i selio’r bwlch, i atal mwg a mygdarth rhag dod i mewn i’r ystafell.
- Agorwch y ffenest ac arhoswch gerllaw i gael awyr iach, ac i dynnu sylw’r diffoddwyr tân pan fyddant yn cyrraedd.
- Os oes gennych ffôn, ffoniwch y frigâd dân. Os nad oes gennych ffôn, gweiddwch am help fel bod rhywun arall yn medru ffonio ar eich rhan.
COFIWCH…….. Mae tân a mwg yn lledu’n gyflym. Cynlluniwch eich llwybr dianc, dysgwch am eich adeilad, a sicrhewch fod eich cartref yn ddiogel rhag tân yn y lle cyntaf.