www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cynghorion Diogelwch Rhag Tân i Bobl Hŷn
Dyma 10 o gynghorion gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, i sicrhau fod pobl hŷn yn ddiogel rhag tân yn y cartref:-

  1. Gosodwch larwm mwg a’i gynnal a’i gadw – dylai fod gennych larwm ar bobl lefel yn eich cartref, Y lleoliad delfrydol yw ar y nenfwd, yng nghanol ystafell, neu yn y cyntedd neu ar ben y grisiau. Peidiwch â gosod larymau yn, neu gerllaw, y gegin neu’r ystafell ymolch, ble mae mwg neu anwedd yn medru eu hactifadu trwy ddamwain.


  2. Profwch ef yn wythnosol. Mae larwm mwg sy’n gweithio yn medru rhoi amser gwerthfawr i chi i fynd allan, aros allan a deialu 999.


  3. Peidiwch â thynnu’r batris allan. Os yw eich larwm mwg yn canu’n ddi-baid, trwy ddamwain, tra eich bod yn coginio, peidiwch â thynnu’r batris allan. Yn hytrach, symudwch y larwm neu ei newid am un sydd â botwm tawelu.


  4. Arhoswch yn ddiogel yn y gegin. Dyma’r rhan o’r cartref ble mae’r mwyafrif o danau mewn tai yn cychwyn, felly peidiwch byth â gadael bwyd i goginio heb neb i gadw llygad arno. Os oes yn rhaid i chi adael y gegin, diffoddwch unrhyw offer trydanol a thynnwch y sosbenni oddi ar y gwres.


  5. Os oes tân yn amlygu ‘Ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999!’ Peidiwch ag oedi i gasglu pethau gwerthfawr, peidiwch â mynd i ymchwilio na cheisio taclu’r tân. Defnyddiwch ffôn symudol, ffôn cymydog neu flwch ffôn i ffoniwch 999. Os oes angen eich achub, arhoswch yn ddiogel tu mewn i’r diffoddwyr tân, sydd â’r offer a’r hyfforddiant i’ch achub. Peidiwch byth â mynd yn ôl i mewn i’r adeilad.


  6. Peidiwch â gorlwytho socedi trydan. Un plwg fesul soced yw’r rheol, byddwch yn ofalus nad oes gwifrau’n hongian dros ben y popty na’n cyffwrdd â dŵr.


  7. Byddwch yn glyfar gydag allweddi. Dylid cadw allweddi ffenestri a drysau mewn lle hygyrch, ble mae pawb yn medru dod o hyd iddynt, fel y medrwch ddianc yn gyflym os oes tân yn amlygu.


  8. Cynlluniwch eich llwybr dianc. Sicrhewch eich bod chi a’ch teulu’n gwybod y ffordd cyflymaf allan o’r adeilad os oes tân yn amlygu. Ystyriwch lwybr arall rhag ofn bod eich llwybr arferol wedi cael ei flocio.


  9. Cadwch ganhwyllau mewn dalwyr diogel, ar arwyneb nad sy’n llosgi, ac yn ddigon pell oddi wrth unrhyw ddeunyddiau a allai losgi, megis llenni.


  10. Sicrhewch eich bod yn troi blancedi trydan i ffwrdd a’ch bod yn eu storio’n wastad (nid wedi eu rholio i fyny) pan nad ydynt mewn defnydd. Peidiwch byth â’u defnyddio gyda photel dŵr poeth. Dengys yr ystadegau fod tanau a achoswyd gan danau trydanol a blancedi trydan yn cyfrif am y gyfradd uchaf o anafiadau, gyda 440 o anafiadau fesul 1,000 o danau.

Dolenni Defnyddiol

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service