Ardal Reoli Sirol Gaerfyrddin
Pencadlys
Cyflwyniad gan Bennaeth Ardal Reoli Sirol Gaerfyrddin, Rob Quin
Yn aml, cyfeirir at Sir Gaerfyrddin fel 'Gardd Cymru', dyma'r pumed awdurdod unedol mwyaf o ran maint yng Nghymru ac mae'n gweinyddu ardal o 239,800 o hectarau gyda phoblogaeth o 173,600.
Rhennir Sir Gaerfyrddin i drefi diwydiannol Llanelli a Rhydaman, gyda Chaerfyrddin yn ganolbwynt gweinyddol. Mae'r gweddill yn cynnwys trefi bychain ac ardaloedd gwledig. Gyda rhwydweithiau ffordd ardderchog, mae Cyngor Sir Gâr wedi datblygu llawer o ardaloedd i gymell tyfiant o ran busnes a hamdden.
Adnoddau
Mae gan yr Ardal Reoli oddeutu 240 o aelodau o staff, a leolir mewn un ar ddeg o orsafoedd tân a Phencadlys yr Ardal Reoli.
Lleolir Pencadlys Ardal Reoli Sirol Gaerfyrddin yn Nhre Ioan, Caerfyrddin. Mae tîm o 6 aelod yn rhoi cymorth gweinyddol i Orsafoedd Tân yr Ardal Reoli; mae hyn yn cynnwys Diogelwch Rhag Tân, Diogelwch Rhag Tân yn y Gymuned a Gweithrediadau.
Lleolir gorsafoedd llawn amser yn Llanelli, sydd â chriw'n bresennol 24 awr y dydd, mae criw dydd yn bresennol yng Nghaerfyrddin a Rhydaman, ac mae cyflenwad wrth gefn ar gael yn y tair gorsaf.
Lleolir Gorsafoedd Wrth Gefn yng Nghydweli, Pont-iets, Y Tymbl, Castellnewydd Emlyn, Llandysul, Llandeilo, Llanymddyfri a Hendy-gwyn ar Daf.
Mae'r gorsafoedd yma'n defnyddio cyfanswm o bedwar ar ddeg o beiriannau pwmpio, pum peiriant arbennig yn ogystal â nifer o gerbydau ategol eraill, yn cynnwys badau a cherbydau oddi ar y ffordd.
Diogelwch Rhag Tân
Darperir Diogelwch Tân Deddfwriaethol mewn Swyddfeydd a leolir yn Llanelli a Chaerfyrddin, ac maent yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer pob rhan o'r sir.
Diogelwch Rhag Tân yn y Gymuned yn Sir Gaerfyrddin
Yn unol â pholisi ac ymrwymiad y Frigâd i leihau'r nifer o farwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i dân, yn enwedig ymhlith yr henoed a phobl ifanc, mae gan Sir Gaerfyrddin ddau Ymgynghorydd Diogelwch Rhag Tân yn y Gymuned, sy'n gweithio'n llawn amser, a leolir ym Mhencadlys Ardal Reoli Sirol Gaerfyrddin. Mae'r tîm yn gweithio ochr yn ochr â chriwiau gweithredol yn y gorsafoedd, gan roi cyngor a gwybodaeth i leihau'r risg o dân yn y cartref. Gellir rhoi'r cyngor hwn ar sawl ffurf e.e. Addysg diogelwch rhag tân i ysgolion a cholegau, mynychu ffeiriau a charnifalau lleol, cyfarfodydd lleol gyda'r gymuned, ymgyrchu o ddrws i ddrws, darparu a gosod synwyryddion mwg a chyflwyno Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref.
Partneriaethau
Mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Ambiwlans Cymru, sefydlwyd Cynllun Cyd-ymatebydd yng Ngorsaf Dân Llandysul, y cyntaf yn y Sir. Caiff cerbyd, a gafaeliwyd gan feddygfa Llys y Fran ac sy'n cludo diffibriliwr a chyfarpar cymorth cyntaf arall, ei griwio gan ddiffoddwyr tân yn Llandysul, bedair awr ar hugain y dydd.
Fel rhan o'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, rydym wedi bod yn gysylltiedig â phartïon allweddol arall i baratoi cynlluniau lleol, er mwyn gwneud ein cymunedau'n fwy diogel i fyw ynddynt. Mae gweithio'n agosach gyda'r Heddlu, adrannau'r Awdurdod Lleol a'r Tîm Cyfleoedd i Ieuenctid wedi arwain at ostyngiad mewn galwadau i gerbydau gadawedig, ac mae cynlluniau arall yn cael eu paratoi i daclu tanau bwriadol yn y sir.
Amcan craidd yr Ardal Reoli yw darparu gwasanaeth tân ac achub cynhwysfawr ac o ansawdd uchel ar gyfer cymunedau Sir Gaerfyrddin, gyda phwyslais ar waith rhagweithiol yn y cymunedau i leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â thân.
Pennaeth Ardal Reoli Sirol Gaerfyrddin, Rob Quin