www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Ardal Reoli Sirol Ceredigion
Pencadlys
Cyflwyniad gan y Rheolwr Sirol Iwan Cray

Mae Ardal Reoli Ceredigion yn dilyn ffin sirol Ceredigion ac mae'n cynnwys chwe gorsaf dân sef Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi, Cei Newydd, Llanbedr Pont Steffan a Thregaron, ynghyd ag Uned Wirfoddol yn Borth. Ceir mwy na 130 o bersonél o fewn yr Ardal Reoli, sy'n gweithredu 8 prif beiriant pwmpio, 1 peiriant ysgol awyrol, 1 bad chwyddadwy a 2 beiriant pwmpio Landrofer. Lleolir Pencadlys yr Ardal Reoli yn Nhrefechan, Aberystwyth, ble ceir 14 o Ddiffoddwyr Tân Llawn Amser, 18 o Ddiffoddwyr Tân Wrth Gefn, Tîm Lleihau Risg yn y Gymuned a gweithdy atgyweirio cerbydau. Mae criwiau tân wrth gefn yn gweithredu gyda'r tîm Llawn Amser yn Aberystwyth ac yn y pum gorsaf arall yn yr Ardal Reoli.

Fel Rheolwr Sirol, rwy'n gyfrifol am yr holl faterion sy'n ymwneud â Darparu Gwasanaeth o fewn yr Ardal Reoli ac rwy'n bennaeth ar dîm o bum swyddog mewn lifrai:

Rheolwr Gorsaf 'B' - Rheolwr Sirol Cynorthwyol Mark Jones

Rheolwr Gorsaf 'A' Justin Lewis- Rheolwr Gorsaf, Gorsaf Dân Aberystwyth

Rheolwr Gorsaf 'A' Craig Turner - Diogelwch Rhag Tân / Gweithrediadau

Rheolwr Gorsaf 'A' Arwel James- Diogelwch Rhag Tân / Gweithrediadau

Mae gan yr Ardal Reoli Dîm Diogelwch yn y Gymuned, sy'n cynnwys 2 Reolwr Gwylfa a Chynorthwy-ydd Diogelwch yn y Gymuned. Yn ogystal, mae gan yr Ardal Reoli un Cynorthwy-ydd Gweinyddiaeth, 2 Glerc Teipydd(1 llawn amser, 1 rhan amser) a Blaen Swyddog Gweinyddiaeth heb lifrai'r Ardal Reoli, a leolir ym Mhencadlys y Gwasanaeth.


Risgiau Gweithredol

Sir wledig yw Ceredigion yn bennaf, gyda phoblogaeth i 71,800, ac o'r rhain mae 10,000 ohonynt yn boblogaeth ymfudol o fyfyrwyr. Mae cyfanswm y boblogaeth yn chwyddo yn ystod misoedd yr haf oherwydd y niferus gyrchfannau gwyliau. Mae'r Sir yn cynnwys ardal o 179,500 o hectarau (1795 km2). Lleolir mwyafrif helaeth poblogaeth y Sir ar hyd y llain arfordirol ac mae'r Sir yn fwy tenau ei phoblogaeth ymhellach i'r dwyrain. Mae'r Ardal Reoli yn cynnwys tair canolfan o ran poblogaeth, sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan. Mae'r risgiau mwyaf yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth (adeiladwyd y llyfrgell wreiddiol yn 1937 ond mae wedi cael ei hymestyn droeon yn ystod y blynyddoedd diwethaf), Ysbyty Bronglais, Neuadd Alexandra, niferus Adeiladau'r Brifysgol yn Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan, nifer o westai a chartrefi'r henoed a chyn-ganolfan filwrol yn Aberporth.


Rheolwr Sirol

Cefais fy ngeni a'm magi yn Aberystwyth. Ymunais â'r gwasanaeth wrth gefn yn Aberystwyth ym 1977 ac ymunais â'r cyflenwad llawn amser ym 1988, a chefais fy lleoli yng Ngorsaf Dân Caerfyrddin. Ym 1990 cefais fy lleoli yn fy nhref enedigol ac yn fuan wedyn cefais fy nyrchafu i rôl Blaen Ddiffoddwr Tân, yng Ngorsaf Dân Caerfyrddin unwaith eto, ac yna cefais fy nhrosglwyddo yn ôl i Aberystwyth, ble cefais fy nyrchafu i rôl Is Swyddog ac yna i Swyddog Gorsaf ym 1993.


Diogelwch yn y Gymuned

Cwblhaodd yr Ardal Reoli dros 1500 o Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref ar draws y Sir eleni. Os ydych yn byw yng Ngheredigion a hoffech i ni gynnal Archwiliad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref yn Rhad ac am Ddim, yna cwblhewch y ffurflen archebu ar-lein, neu galwch i mewn ym Mhencadlys yr Ardal Reoli yn Nhrefechan neu cysylltwch â'n Hadran Diogelwch yn y Gymuned ar 0370 6060699 estyniad 8812 neu 8831. Mae'r Ardal Reoli yn bartner gweithgar ym Mhartneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion ac mae'n ymdrechu i wneud Ceredigion yn fwy diogel i'r bobl hynny sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â'r Sir. Mae ein gwaith diogelwch yn y gymuned rhagweithiol yn cynnwys lleihau amledd llosgi bwriadol, tanau, signalau tân diangen a Gwrthdrawiadau ar y Ffordd. Mae'r Ardal Reoli'n darparu Cwrs Lleihau Gwrthdrawiadau ar y Ffordd. Mae'r cwrs ymarferol a damcaniaethol hwn, sydd am ddim, yn para tair awr ar un noson y mis mewn gorsafoedd tân ar draws y Sir. Os hoffech archebu eich lle ar y cwrs nesaf, cysylltwch â'n Tîm Diogelwch yn y Gymuned ar 0370 6060699 est. 8812.

Mae rhan o'n gwaith yn cynnwys darparu Datganiadau i'r Wasg ar gyfer y Cambrian News a phapurau lleol arall, a negeseuon Diogelwch Rhag Tân yn y Gymuned dwyieithog ar Radio Ceredigion. Mae ein Tîm Diogelwch yn y Gymuned yn ymweld ag ysgolion ar draws y Sir ac maent ar gael i roi cyngor ar Ddiogelwch yn y Gymuned.


Mentrau Cydweithrediadol

Mae'r Ardal Reoli'n gweithio mewn partneriaeth â Gofal a Thrwsio Ceredigion, Cyswllt Ceredigion a Chyngor Ceredigion, er mwyn targedu grwpiau risg yn fwy effeithiol, ble'r ydym yn cynnal ein Harchwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref 'YN RHAD AC AM DDIM'. Mae Ardal Reoli Ceredigion wedi cwblhau 4,000 o ymweliadau cartref AM DDIM, ers i'r gwaith gychwyn yn 2005, a'r targed blynyddol ar gyfer Criw Gorsaf Dân Aberystwyth yw'r uchaf i unrhyw orsaf yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae Gorsafoedd Tân Aberaeron, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan a Thregaron yn cyfranogi yn y bartneriaeth Cyd-ymatebydd gyda'r Ymddiriedolaeth Ambiwlans, ble mae pob tîm yn cynorthwyo'r Ymddiriedolaeth trwy ddarparu gofal meddygol brys mewn lleoliadau ynysig. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed Powys i leihau amledd Gwrthdrawiadau ar y Ffordd yn y Sir. Yn gyson, rydym yn chwilio am gyfleoedd ar gyfer nawdd i gynnal Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref, i leihau amledd llosgi bwriadol ac i ddatblygu ein Tîm Lleihau Risg yn y Gymuned, a leolir ym Mhencadlys yr Ardal Reoli yn Aberystwyth.

Mae mentrau cydweithrediadol eraill sydd ar amrywiol gamau o ddatblygiad yn cynnwys cysylltiadau gyda'r Tîm Troseddwyr Ifanc - Diffoddwyr Tân Ifanc, (Cwrs Phoenix), Y Princes Trust (Rhaglen Tîm), Gwobr Dug Caeredin (myfyrwyr chweched dosbarth), Bagloriaeth Cymru (Ysgol Penglais), Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion, yr RNLI, Ambiwlans Sant Ioan, Sefydliad Prydeinig y Galon a'r Comisiwn Coedwigaeth (Prosiect Nant Arian).


Cyfarpar

GORSAF

CYFEIRIAD

CYFARPAR

Gorsaf C01 - Aberystwyth

Trefechan
Aberystwyth

1 Pwmp Achub
1 Ysgol Tendr Ddŵr
1 Platfform Ysgol Awyrol
1 (4x4) Cludydd Personél/Cerbyd Tynnu
1 Bad Achub Mewndirol

Gorsaf C02 - Tregaron

Heol Dewi
Tregaron

1 Pwmp Achub 1 (4x4)
Pwmp Ysgafn Landrofer 2 Sedd / Uned Cydymatebydd

Gorsaf C03 – Cei Newydd

Sgwâr Uplands
Cei Newydd

1 Pwmp Achub

Gorsaf C04 - Aberaeron Heol y Frenhines
Aberaeron
1 Pwmp Achub
1 Fan Ysgafn Uned Cydymatebydd
Gorsaf C05 – Llanbedr Pont Steffan Y Comin
Llanbedr Pont Steffan
1 Pwmp Achub
1 Ysgol Tendr Ddŵr
1 (4x4) Uned Cydymatebydd Landrofer 2 Sedd
Gorsaf C06 - Aberteifi Y Maes Parcio
Heol y Baddondy Aberteifi
Cardigan
1 Pwmp Achub
1 Fan Ysgafn Uned Cydymatebydd
Gorsaf C07 - Borth Stryd Fawr
Borth
1 (4x4) Pwmp Ysgafn Landrofer 4 Sedd


Rheolwr Grŵp Iwan Cray

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service