www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Ardal Reoli Sirol Castell-nedd a Phort Talbot
Pencadlys
Cyflwyniad gan y Rheolwr Sirol Chris Margetts

Mae Castell-nedd a Phort Talbot yn un o'r chwe ardal awdurdod unedol a gwmpasir gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae Ardal Reoli Sirol Castell-nedd a Phort Talbot yn gwasanaethu ardal Sirol sy'n cynnwys 442 km² a phoblogaeth o oddeutu 137,000.

Mae'r Sir yn cynnwys amrywiaeth eang ac amrywiol o risgiau, yn cynnwys safleoedd megis CORUS, BOC, INCO, a Gwaith Biomas mwyaf y DU a Melin Bapur 320,00 m² Intertissue. Ochr yn ochr â hyn, mae gan y Sir harbwr dŵr dwfn, Traffordd yr M4, ffyrdd deuol, cysylltiadau rheilffordd cyflymder uchel, coedwigoedd ymestynnol a nifer o Ddyfrffyrdd Arfordirol a Mewndirol, sy'n gwneud yr Ardal Reoli'n lle diddorol a heriol i weithio ynddi. Mae personél Ardal Reoli Castell-nedd a Phort Talbot yn gwneud pob ymdrech i sicrhau, trwy ein gwaith rhagweithiol a thrwy gydweithredu gyda'n partneriaid, bod diogelwch ein cymunedau o'r pwys mwyaf.


Adnoddau

Ar hyn o bryd, mae yna 6 Gorsaf Dân o fewn yr Ardal Reoli. Fe'u lleolir yng Nghastell-nedd, Glyn-nedd, Y Cymer, Port Talbot, Blaendulais a Phontardawe. Bydd y ddarpariaeth yn cael ei wella'n fuan, gyda Gorsaf Dân arall yn cael ei lleoli yng Nghwm Aman, a fydd yn golygu bod cyfanswm o wyth peiriant tân, wedi eu criwio gan 144 o ddiffoddwyr tân, yn gwasanaethu i ddiogelu ein cymunedau.

Mae tîm arbenigol o 10 Swyddog Lleihau Risg yn y Gymuned a 2 Gynorthwy-ydd Diogelwch yn y Gymuned yn gwasanaethu i wella diogelwch a rhoi amddiffyniad pellach i'n cymunedau. Lleolir pencadlys gweinyddol yr Ardal Reoli ar lawr cyntaf Gorsaf Dân Castell-nedd.


Castell-nedd a Phort Talbot Mwy Diogel

Rydym yn ymrwymedig i weithio'n rhagweithiol mewn partneriaeth gyda grŵp eang o asiantaethau a sefydliadau, i ddiwallu nodau'r Gwasanaeth Tân ac Achub o leihau amledd ac effeithiau tân a gwrthdrawiadau ar y ffordd. Mae cynlluniau megis 'Phoenix', a luniwyd i leihau'r risg o dân a throseddau tân trwy gyfrwng addysg ac 'Uned Golygfa Damwain Car', sy'n canolbwyntio ar oryrru, yfed a gyrru a defnyddio ffonau symudol wrth yrru, yn enghreifftiau nodweddiadol o'r cynlluniau rheolaidd sy'n seiliedig yn y gymuned a anelir at atal yn hytrach nag ymyrryd. Mae ein Swyddog Cyswllt Ysgolion ymroddedig yn sicrhau yr ymwelir â phob ysgol yng Nghastell-nedd a Phort Talbot a'u bod yn derbyn rhaglenni addysg diogelwch rhag tân a anelir at bob disgybl yng Nghyfnodau Allweddol 1 i 4. Mae Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref yn rhan annatod o'r gwaith atal yn ein cymunedau, ble mae personél gweithredol a phersonél diogelwch yn y gymuned yn ymweld â chartrefi, yn rhoi cyngor hanfodol ar ddiogelwch rhag tân ac yn gosod synwyryddion mwg ble bod eu hangen. Mae gwaith partneriaeth, gydag asiantaethau megis 'Help the Aged' a Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol, yn allweddol i sicrhau bod y gwasanaeth Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref yn cael ei dargedu at y bobl y nodwyd eu bod yn agored i niwed.

Mae'r cynlluniau eraill y mae personél yr Ardal Reoli'n chwarae rhan weithgar ynddynt yn cynnwys 'Pass Plus', sy'n rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth o beryglon penodol i yrwyr newydd rhwng 17 a 25 oed; gweithio gyda, a chefnogi, Tîm Troseddwyr Ifanc Castell-nedd a Phort Talbot; a chynlluniau Diffoddwyr Tân Ifanc, ble mae hyfforddiant Gwasanaeth Tân, yn cynnwys ymarferion gweithredol cymorth cyntaf, addysg diogelwch rhag tân ac arweinyddiaeth, yn cael ei roi i bobl ifanc rhwng 13 a 17 oed.


Amcanion yr Ardal Reoli

Amcan pennaf yr Ardal Reoli yw darparu gwasanaeth sy'n gweithio'n rhagweithiol i atal tanau, gwrthdrawiadau ar y ffordd ac argyfyngau arall, fel bod ein cymunedau mor ddiogel ag sy'n rhesymol o bosib, ac i sicrhau bod y bobl hynny sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â Chastell-nedd a Phort Talbot yn derbyn Gwasanaeth Tân ac Achub sy'n cwrdd â'u disgwyliadau.



If you have any queries, questions or complaints regarding any information contained within this website please contact the Neath Command Team: Tel: 05511443160 e-mail: neathporttalbot@mawwfire.gov.uk
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service