www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Ardal Reoli Sirol Penfro
Pencadlys
Ardal Reoli Sirol Penfro a Chynllunio Cymunedol

Beth mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ei wneud ar gyfer trigolion Sir Benfro? Un ffordd o ateb y cwestiwn hwn yw cyfeirio at y ffordd mae Ardal Reoli Sirol Penfro yn gweithio gyda sefydliadau eraill yn Sir Benfro i ddarparu'r Cynllun Cymunedol.

Caiff y Cynllun Cymunedol ar gyfer Sir Benfro ei ddatblygu gan sawl sefydliad oddi fewn i Bartneriaeth Gymunedol a Grŵp Arweinyddiaeth y Sir. Mae'r cynllun yn rhoi canllaw strategol i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau yn Sir Benfro ar gyfer y 5 mlynedd nesaf (2010-2015). Mae'r Cynllun Cymunedol yn tynnu ar ran Hafan Sir Benfro o Gynllun Gofodol Cymru. Mae'r weledigaeth ar gyfer Sir Benfro yn datgan.

"rhwydwaith o gymunedau cryf wedi'i gefnogi gan economi sy'n manteisio ar amgylchedd unigryw'r Ardal, ar yr arfordir sy'n hawdd ei chyrraedd, yn ogystal â'r cyfleoedd pwysig rhyngwladol o ran ynni a thwristiaeth."

Dyma sut mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ac Ardal Reoli Sirol Penfro yn cyflawni elfennau o weledigaeth y Cynllun Gofodol hwnnw;


Cynorthwyo Cymunedau

  • Rydym yn cyflogi diffoddwyr tân llawn amser ac wrth gefn, sy'n gwario yn eu cymuned.
  • Rydym yn darparu gwasanaethau diogelwch y cyhoedd trwy ymateb i argyfyngau.
  • Rydym yn gorfodi'r gyfraith sy'n galw am i adeiladau cyhoeddus i fod yn ddiogel rhag tân.
  • Rydym yn darparu rhaglenni cymunedol, sy'n helpu i wneud cartrefi pobl yn fwy diogel rhag tân (Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref) ac i helpu pobl ifanc i ddatblygu (Diffoddwyr Tân Ifanc).
  • Rydym yn cynorthwyo'r Heddlu i frwydro yn erbyn troseddau tân sef llosgi bwriadol, trwy roi tystiolaeth i gefnogi euogfarnau.


Cymunedau Cynaliadwy ac Amrywiol

  • Mae'r polisïau a'r gweithdrefnau trefniadaethol yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cynaliadwy o ran effeithlonrwydd cost, parhad busnes, diogelu'r amgylchedd ac iechyd corfforaethol (sicrhau bod y staff yn iach i weithio)
  • Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth y gymdeithas ac rydym yn gweithio tuag at adlewyrchu'r gymuned yn ein gweithlu. Mae ein polisïau recriwtio a chyflogi'n cefnogi'r uchelgais hwn.


Diogelu'r Amgylchedd

  • Mae ein hymateb gweithredol, mewn partneriaeth â Dŵr Cymru, yn sicrhau defnydd synhwyrol o ddŵr mewn tanau.
  • Mae ein hymateb gweithredol mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd yn darparu Uned Diogelu'r Amgylchedd o Ddoc Penfro, i reoli ac arolygu llygredd o ddŵr sy'n llifo o danau, yn ogystal ag ymdrin â digwyddiadau o lifogydd mewn cydweithrediad â Braemar Howells.
  • Rydym yn aelod o brosiect pan-Ewrop ARCOPOL, i ddatblygu a phrofi gweithdrefnau i ymdrin â digwyddiadau llygredd morol.


Mynediad i'r Môr

  • Mae gennym ymateb gweithredol i'r marc llanw isel, a medrwn achub pobl gan ddefnyddio badau gyda'r glannau a matiau mwd. Ar gyfer digwyddiadau alltraeth difrifol, mae Ardal Reoli Sirol Penfro yn darparu mwyafrif Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad Morol GTACGC, sy'n cysylltu Gwasanaethau Tân arfordirol i rwydwaith genedlaethol o griwiau tân er mwyn hedfan i longau mewn cyfyngder.


Y Sector Ynni

  • Rydym wedi paratoi cynlluniau ymateb gweithredol manwl ar gyfer y 5 safle petrogemegol yn Sir Benfro. Paratowyd y cynlluniau mewn partneriaeth gyda'r 5 safle COMAH ac adran Cynllunio at Argyfwng Cyngor Sir Penfro. Caiff yr holl gynlluniau ar safle ac oddi ar safle eu profi'n gyson trwy gyfrwng rhaglenni ymarfer a hyfforddi.


Twristiaeth

  • Mae gennym drefniadau partneriaeth gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chomisiwn Cefn Gwlad Cymru, i leihau risg ac effaith tanau gwyllt. Mae'r rhain yn rhoi gwybodaeth i berchnogion tir ar sut i losgi sofl a glaswelltir yn ddiogel ac o fewn y gyfraith.


Diogelwch ar y Ffordd

  • Rydym yn gweithio gyda'r bartneriaeth diogelwch ffyrdd i ddarparu rhaglenni addysg diogelwch ar y ffordd ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl mawr o gael damwain ffordd ddifrifol. Erbyn hyn, mae ein hymateb gweithredol i ddamweiniau ffordd yn darparu offer torri hydrolig ar yr holl beiriannau tân yn Sir Benfro, er mwyn rhyddhau pobl sy'n sownd mewn cerbydau'n gyflym fel eu bod yn medru derbyn triniaeth feddygol yn syth.


Cynlluniau Busnes



Hyder

  • Rydym yn gwerthfawrogi barnau'r cyhoedd ar ba mor dda yr ydym yn cyflawni ein gwasanaethau i'r cyhoedd. Medrwn ddysgu o'n camgymeriadau yn ogystal ag o'n llwyddiannau. Buasai'n ddefnyddiol gwybod eich barn chi am Ardal Reoli Sirol Penfro, os hoffech gysylltu â mi'n uniongyrchol neu trwy gyfrwng y wefan.


© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service