www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Ardal Reoli Sirol Penfro
Pencadlys
Cyflwyniad gan y Rheolwr Sirol Steve Bryant

Mae Ardal Reoli Sirol Penfro yn dilyn ffin awdurdod lleol Sir Benfro, gyda phoblogaeth o 113,000. Mae'n Sir amrywiol, sy'n cynnwys ardaloedd o iseldir âr, ucheldiroedd golygfaol i'r gogledd a chyda phrif ganolbwyntiau'r boblogaeth ar hyd coridorau ac arfordir y de.

Mae llawer o'r ardal arfordirol, yn cynnwys ynysoedd alltraeth Sgomer, Sgogwm, Ynys Dewi a'r Ynys Bŷr yn warchodfeydd natur wedi eu diogelu, ac maent yn disgyn o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfodir Penfro. Twristiaeth yw'r prif ddiwydiant, yn enwedig yng nghyrchfannau Dinbych y Pysgod a Saundersfoot, sydd ar y cyd yn lletya poblogaeth fawr o ymwelwyr dros yr haf.

Mae datblygiad y prif drefi wedi digwydd yn bennaf ar hyd y llain arfordirol, neu ar hyd afonydd mordwyol, yr enghreifftiau mwyaf nodadwy yw Abergwaun, Aberdaugleddau, Doc Penfro, Dinbych y Pysgod a thref sirol Hwlffordd.

Er yr ystyrir bod twristiaeth ac amaethyddiaeth yn elfennau economaidd pwysig o fewn y Sir, mae Dyfrffordd Aberdaugleddau ymhlith y porthladdoedd masnachu morol pwysicaf yn Ewrop, gyda'i Ddiwydiant Petrogemegol tra sefydledig, a wasanaethir gan ddyfroedd dyfnion y Porthladd.

Mae llongau modern yn hwylio'n rheolaidd ar Fôr Iwerddon, o Abergwaun a Phenfro, tra yn Aberdaugleddau mae dros ddeg miliwn o dunelli o gynnyrch petrolewm yn cael eu cludo'n flynyddol trwy'r porthladd ac mae'n lletya ymweliadau gan longau mordaith.

Ar hyn o bryd, mae dau waith mewnforio a phrosesu Nwy Naturiol Hylifedig (LNG) mawr yn cael eu datblygu ar arfodir Aberdaugleddau. Mae'r cyfleusterau yma'n cael eu paratoi i ddiwallu gofynion ynni'r Deyrnas Unedig ac i wrthwynebu effaith cyflenwadau dirywiol Môr y Gogledd. Bydd y ddau safle'n dechrau gweithredu yn 2007 ac maent yn cyflwyno cyfraniad enfawr at anghenion ynni'r wlad.


Adnoddau

Mae naw gorsaf dân yn gwasanaethu Sir Benfro, ac mae'r rhain yn cynnwys tair gorsaf gydag elfennau llawn amser ac wrth gefn yn Hwlffordd, Aberdaugleddau a Doc Penfro. Lleolir gorsafoedd wrth gefn yn Abergwaun, Tyddewi, Arberth, Dinbych y Pysgod a Chrymych. Mae grŵp o wirfoddolwyr yn criwio peiriant tân ymateb cyntaf ar yr Ynys Bŷr.

Mae gan yr Ardal Reoli gyfanswm gweithredol o dri ar ddeg o beiriannau pwmpio, pum peiriant arbennig a dwy uned bad. Mae dau brif symudydd arall ar gael i fobileiddio chwe phod arbenigol, sy'n berthynol i anghenion lleol ac anghenion y Gwasanaeth.

Mae partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru wedi darparu dau dîm cyd-ymatebydd, i roi adfywiad arbenigol ar frys i bobl anafedig, i gefnogi ymarfer arferol y gwasanaeth ambiwlans.


Gwaith Partneriaeth

Mae gan Ardal Reoli Sirol Penfro fuddiant ymrwymedig yn hyrwyddo gwaith partneriaeth er lles y gymuned ar grwydr. Mae rhai cynlluniau, yn enwedig y Partneriaethau Diogelwch Rhag Tân yn y Gymuned wedi eu sefydlu'n dda a'u datblygu'n llwyddiannus, tra bod eraill ar ddechrau'r daith ac maent yn cael eu hadolygu'n gyson.

Mae pob cynllun yn cael eu hystyried ar sail y manteision a ddarperir yn erbyn yr adnoddau sy'n ofynnol.

Mae rhychwant y partneriaethau'n golygu cyfraniad gweithgar gan bersonél gweithredol mewn lifrai ac aelodau heb lifrai. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o waith partneriaeth yn Sir Benfro sydd o bosib yn adlewyrchu cynlluniau tebyg neu'r un fath â chynlluniau a sefydlwyd mewn ardaloedd eraill o GTACGC.


Unedau Cydymatebydd

Mae'r cynllun Cydymatebydd wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth gynnwys Personél y Gwasanaeth i roi gofal brys i bobl anafedig mewn ardaloedd anghysbell, i gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans arferol.

Darperir cerbydau, cyfarpar a hyfforddiant, i'r safon ofynnol, gan yr Awdurdod Iechyd yn bennaf a chânt eu criwio gan bersonél y Gwasanaeth. Cânt eu mobileiddio gan ddefnyddio system fobileiddio safonol y Gwasanaeth.

Lleolir unedau yng Ngorsafoedd Tân Arberth a Chrymych. Rydym yn ystyried ymestyn y system, yn amodol i ymgynghori gyda chyrff cynrychiolaidd y Gwasanaeth.


Partneriaethau Diogelwch Rhag Tân yn y Gymuned

Mae'r Adran Diogelwch yn y Gymuned wedi bod yn doreithiog wrth ddatblygu partneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat o fewn y sir. Ar hyn o bryd, mae o leiaf un ar ddeg o gynlluniau partneriaeth yn gweithredu. Mae rhai o'r cynlluniau o natur dros dro. Mae'r materion sydd ar raddfa'n fwy ac sy'n fwy datblygedig yn cynnwys:

  1. Fire Safe. Mae'r cynllun hwn yn defnyddio adnoddau'r Gwasanaeth a nifer o sefydliadau eraill, i ymdrin â phroblemau gyda phlant h.y. cynnwyr tanau mynych, Troseddwyr ifanc a materion eraill sy'n ymwneud â llosgi bwriadol. Mae'n defnyddio rhaglen a ddatblygwyd gan Wasanaeth Tân Sir Ddinbych, sy'n seiliedig ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol.
  2. Cynllun Criw Craff. Ymagwedd amlasiantaeth at greu ymwybyddiaeth o dân a pheryglon eraill ymhlith grwpiau dethol o blant ysgol.
  3. Tîm Troseddwyr Ifanc. Mae Swyddog Tân wedi cael ei secondio i TTI Penfro, i ddarparu rhaglenni ymyrraeth i droseddwyr ifanc ac ar gyfer y rhai hynny sydd ar fin troseddu.


Strwythur yr Ardal Reoli

Mae personél ac adnoddau Ardal Reoli Sirol Penfro wedi eu lleoli ar draws y Sir ar y ffurf ganlynol

Pencadlys Sirol Hwlffordd

Rheolwr Sirol
Steve Bryant


Yn gyfrifol am holl agweddau Gweithredol a Diogelwch Rhag Tân yr Ardal Reoli

David John
Yn atebol i'r Rheolwr Sirol am agweddau gweithredol, gweinyddol a hyfforddiant yr Ardal Reoli.

Frank Amies
Yn atebol i'r Rheolwr Sirol am faterion Diogelwch yn y Gymuned a Diogelwch Tân Deddfwriaeth yr Ardal Reoli.

Swyddogion Gorsaf Diogelwch Rhag Tân
Yn gyfrifol am archwilio a phrosesu materion sy'n ymwneud â diogelwch rhag tân yn yr ardal reoli

Andy Lloyd (Swyddog Arolygol Tyddewi hefyd)
Peter Phillips (Swyddog Arolygol Arberth hefyd)

Fire Safety Watch Manager

Ian Whitby (Swyddog Arolygol Crymych hefyd)

Rheolwyr Gorsaf

Yn gyfrifol am reoli gorsafoedd unigol yn effeithiol, gyda chriwiau llawn amser a chriwiau wrth gefn ar y cyd

Simon Pearson Hwlffordd
David Hancock Aberdaugleddau
Robert Bellerby Doc Penfro

Blaen Swyddog Cymorth
Helen Rees Byrne

Staff Diogelwch yn y Gymuned

Jeremy Trew
Chris McDonald
Jack Dudley
Louise Beale
Lee Simmons


Staff Gweinyddol

Rheolwraig; Wendy Williams
Gweithredydd Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur; Hayley Evans.
Clerc/Teipydd/Derbynnydd; Melanie Hatswell.


Lleoliad Criwiau a Pheiriannau

Nodir lefelau'r criwiau fel y maent ar hyn o bryd, er bod mân newidiadau cyfnodol i ddyraniad y peiriannau'n amodol i'w adolygu ar hyn o bryd

Hwlffordd Llawn Amser 14
Wrth Gefn 18

1 Platfform Achub Awyrol
1 Pwmp (Tendr Ddŵr)
Uned Bad
Aberdaugleddau Llawn Amser 14
Wrth Gefn 18

Dau Bwmp (1 Pwmp Achub)
Tancer Ewyn
Un Prif Symudydd
Pod Cyfarpar Ewyn Datodadwy
Uned Bad Achub
Doc Penfro Llawn Amser 14
Wrth Gefn 18
Dau Bwmp (1 Pwmp Achub)
Un Prif Symudydd
Bowser Ddŵr Datodadwy
Uned Sylweddau Peryglus Datodadwy
1 Uned Llygredd Amgylcheddol
Abergwaun Wrth Gefn 12
Un Pwmp (Pwmp Achub)
Tyddewi Wrth Gefn 13
Un Pwmp (Pwmp Achub)
Arberth Wrth Gefn 11
Un Pwmp (Pwmp Achub)
Cerbyd Cydymatebydd
Dinbych y Pysgod Wrth Gefn 20
2 Bwmp (Pwmp Achub)
Crymych Wrth Gefn 13
1 Pwmp (Pwmp Achub)
Uned Cydymatebydd
Ynys Bŷr Uned Wirfoddol 3 1 Pwmp (Tendr Ddŵr)


Rheolwr Grŵp Steve Bryant

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service