
Pencadlys
Cyflwyniad gan Bennaeth Ardal Reoli Sirol Powys, Jonathan Evans
| Gogledd Powys |
Canol Powys |
De Powys |
| Y Drenewydd |
Trefyclo |
Aberhonddu |
| Machynlleth |
Rhaeadr Gwy |
Abercraf |
| Trefaldwyn |
Llandrindod |
Crug Hywel |
| Y Trallwng |
Llanfair ym Muallt |
Y Gelli Gandryll |
| Llanfair Caereinion |
Llanwrtyd |
Talgarth |
| Llanfyllin |
Llanandras |
|
| Llanidloes |
|
|
Ceir mwy na 290 o staff gweinyddol a chymorth o fewn yr Ardal Reoli, sy'n gweithredu 23 o beiriannau pwmpio mawr a 18 o gerbydau arbenigol a chymorth. Lleolir Pencadlys yr Ardal Reoli Sirol a Grŵp Canol Powys yn Heol y Garth, Llanfair ym Muallt, lleolir Pencadlys Grŵp y Gogledd yn Heol Llanidloes, Y Drenewydd, a lleolir Pencadlys Grŵp y De yn Heol Camden, Aberhonddu.
Fel Rheolwr Sirol, rwy'n gyfrifol am yr holl faterion sy'n ymwneud â Darparu Gwasanaeth o fewn yr Ardal Reoli, ac rwy'n bennaeth ar dîm o un ar ddeg o swyddogion mewn lifrai:
Gogledd Powys
Rheolwr Gorsaf Swindlehurst - Rheolwr Sirol Cynorthwyol/ Pennaeth Grŵp/ Rheolwr Grŵp Gogledd Powys o Orsafoedd. Gyda'r: -
Rheolwr Gorsaf Griffiths - Diogelwch Rhag Tân / Gweithrediadau.
Rheolwr Gorsaf Luke - Diogelwch Rhag Tân / Gweithrediadau.
Rheolwr Gorsaf Rowlands - Diogelwch Rhag Tân / Gweithrediadau.
Rheolwr Gorsaf Evison - Diogelwch Rhag Tân / Gweithrediadau.
Canol Powys
Rheolwr Gorsaf Morgan - Rheolwr Sirol Cynorthwyol/ Pennaeth Grŵp/ Rheolwr Grŵp Canol Powys o Orsafoedd. Gyda'r: -
Rheolwr Gorsaf Saunders - Diogelwch Rhag Tân / Gweithrediadau.
Swyddog Gorsaf Richards - Diogelwch Rhag Tân / Gweithrediadau.
Swyddog Gorsaf Prince - Diogelwch Rhag Tân / Gweithrediadau.
De Powys
Rheolwr Gorsaf Sheppard - Rheolwr Sirol Cynorthwyol/ Pennaeth Grŵp/ Rheolwr Grŵp De Powys o Orsafoedd. Gyda'r: -
Rheolwr Gorsaf Hayward - Diogelwch Rhag Tân / Gweithrediadau.
Rheolwr Gorsaf Evans - Diogelwch Rhag Tân / Gweithrediadau.
(Mrs. Joan Murray yw Blaen Swyddog Gweinyddiaeth heb lifrai'r Ardal Reoli)
Risgiau Gweithredol
Mae'r Ardal Reoli yn cynnwys ardal o oddeutu 1980 o filltiroedd sgwâr ac mae'n cynnwys Risgiau Diwydiannol, Domestig a Gwledig, gyda llawer o westai, cartrefi'r henoed a chanolfannau milwrol yn ardal Aberhonddu, gyda phoblogaeth o tua 110,000 sy'n codi gan lawer o filoedd yn ystod y tymor twristiaid.
Cynlluniau Cydweithrediadol
Mae Gorsafoedd Llanwrtyd, Y Gelli Gandryll, Llanandras a Threfaldwyn yn gysylltiedig â phartneriaeth Ymatebydd Cyntaf, sy'n rhoi gofal ar frys i bobl anafedig tra eu bod yn aros am ambiwlans, gobeithir y bydd gorsafoedd eraill yn cael eu hychwanegu at y cynllun hwn yn y dyfodol agos.
Mae'r Ardal Reoli'n cyfranogi ym Mhartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys a llawer o bartneriaethau lleol eraill, megis Fforwm Trwyddedu Powys a chynlluniau cydweithrediadol eraill, yn cynnwys digwyddiadau'r wythnos Wyddoniaeth Genedlaethol gyda Chwarae Teg.
Rheolwr Grŵp Jonathan Evans