Ardal Reoli Sirol Abertawe
Pencadlys
Cyflwyniad gan Bennaeth Ardal Reoli Sirol Abertawe, Richard Webborn
Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, trawsnewidiwyd Abertawe i fod yn lleoliad dymunol i drigolion, ymwelwyr a datblygwyr. Mae hyn yn parhau heddiw, gyda phartneriaethau llawn dychymyg rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus, sy'n adlewyrchu ymrwymiad hir dymor at yr economi lleol. Bydd cynlluniau datblygu a fwriedir eu rhoi ar waith yn ystod y ddegawd nesaf yn rhai o'r pwysicaf yn hanes Abertawe - a fydd yn sefydlu amodau sy'n hanfodol ar gyfer tyfiant a ffyniant y gymuned leol a chwmnïau sy'n buddsoddi yn yr ardal. Ymwelwch â gwefan Dinas a Sir Abertawe i gael mwy o fanylion.
Mae Ardal Reoli Abertawe yn cynnwys ardal Awdurdod Unedol Dinas a Sir Abertawe, ac mae'n cynnwys tair gorsaf llawn amser (Canol Abertawe, Gorllewin Abertawe a Threforys [sydd â chyflenwad wrth gefn hefyd]) a thair gorsaf wrth gefn (Reynoldston, Pontarddulais, Gorseinon).
Caiff yr Ardal Reoli ei rheoli o'r Pencadlys yn Nhreforys, cyfleuster a rennir gyda'r Adrannau Lleihau Risg yn y Gymuned a Hyfforddi a Datblygu.
Mae'r chwe gorsaf dân yn ymdrin ag oddeutu 6,500 o ddigwyddiadau brys fesul blwyddyn, ac fel ardal reoli rydym ni wrthi ar hyn o bryd yn ceisio lleihau'r nifer o ddigwyddiadau a fynychwn, ynghyd â'r nifer o anafiadau a marwolaethau sy'n amlygu o ganlyniad i'r galwadau yma.
Er mwyn cynorthwyo gyda'r broses, mae'r Ardal Reoli wedi dod yn bartner yn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, sef Abertawe Mwy Diogel. Mae gan y Bartneriaeth aelodaeth fawr ac agored - mae unrhyw sefydliad sy'n teimlo fod ganddo ran i'w chwarae wrth leihau trosedd ac anrhefn yn gymwys i fod yn aelod. O ganlyniad, cynhelir cyfarfodydd chwarterol ar steil "seminar". Dilynir cyflwyniadau i ddiweddaru'r aelodau am ddatblygiadau sylweddol yn lleol neu'n genedlaethol gan grwpiau gweithdy'n llai, ac oddi fewn i'r rhain y trafodir materion yn ymwneud â gweithredu. Mae sesiwn adrodd yn ôl, yn cynnwys "camau nesaf", yn dod â'r cyfarfod i ben.
Mae'r Grŵp Llywio'n cwrdd yn fisol i sicrhau cynnydd ac i ymdrin â materion o gyd-drefnu rhwng y gwahanol bartneriaethau amlasiantaeth, sy'n cyfrannu at gyflawni Cynllun Gweithredu. Mae'r Grŵp Llywio'n cynnwys Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Iechyd, Heddlu De Cymru, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Grŵp Iechyd Lleol, y Tîm Gweithredu Lleol ar Gamddefnyddio Alcohol a Sylweddau, Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Bae Abertawe, Adran Dai Dinas a Sir Abertawe, Diogelwch Cymunedol a'r Tîm Troseddwyr Ifanc.
Mae'r Bartneriaeth yn adrodd wrth Grŵp Strategaeth o Brif Weithredwyr a Phrif Swyddogion Cyngor Dinas a Sir Abertawe, y Gwasanaeth Prawf, yr Awdurdod Iechyd a'r Heddlu. Mae cynlluniau diweddar wedi dangos gwelliant, sef 20% o ostyngiad, yn y nifer o gerbydau wedi eu dwyn sy'n cael eu rhoi ar dân yn fwriadol o ganlyniad. Hefyd, bu'r Frigâd yn cynorthwyo wrth hybu ymddygiad positif ymhlith Troseddwyr Ifanc, trwy eu cynnwys mewn cyrsiau strwythuredig dwys iawn yn y gweithle.
Mae Diogelwch Tân Deddfwriaethol yn dal i fod yn un o swyddogaethau craidd yr Ardal Reoli, ac mae'r tîm Diogelwch Rhag Tân yn ymdrin ag oddeutu 4,000 o ymholiadau am ddiogelwch rhag tân ac archwiliadau fesul blwyddyn.
Mae strwythur yr Ardal Reoli fel a ganlyn:
| Rheolwr Sirol |
Andrew Francis |
|
| Rheolwr Gweithrediadau a Hyfforddiant |
Mick Higgins |
|
Rheolwr Lleihau Risg yn y Gymuned |
David Phillips |
|
| Rheolwr Diogelwch Tân Deddfwriaethol |
Mark Shepherd
|
9 Swyddog Archwilio |
| Rheolwr Diogelwch Rhag Tân yn y Gymuned |
David Morgan |
3 Swyddog Diogelwch yn y Gymuned |
| Rheolwr Gorsaf Dân Treforys |
Gwyn Lewis |
40 Diffoddwr Tân Llawn Amser |
| |
|
25 Diffoddwr Tân Rhan Amser |
| |
|
2 Ysgol Ddŵr |
| |
|
1 Tendr Achub |
| |
|
1 Ysgol Trofwrdd |
| |
|
1 Cerbyd Diffodd Tân Ysgafn |
| |
|
1 Pod Rheoli Digwyddiad |
| |
|
1 Pod Digwyddiad Cemegol |
| |
|
1 Pod Gosod Pibell |
| |
|
1 Pod Offer Anadlu |
| Rheolwr Gorsaf Dân Canol Abertawe |
Peter Fleming |
28 Diffoddwr Tân Llawn Amser |
| |
|
1 Ysgol Ddŵr |
| |
|
1 Landrofer a Bad Achub |
| Rheolwr Gorsaf Dân Gorllewin Abertawe |
John Campbell |
28 Diffoddwr Tân Llawn Amser |
| |
|
1 Ysgol Ddŵr |
| |
|
1 Cerbyd Diffodd Tân Ysgafn |
| Rheolwr Gorsaf Dân Gorseinon |
David Morgan |
12 Diffoddwr Tân Rhan Amser |
| |
|
1 Ysgol Ddŵr |
| Rheolwr Gorsaf Dân Pontarddulais |
Ian Bevan |
12 Diffoddwr Tân Rhan Amser |
| |
|
1 Ysgol Ddŵr |
| Rheolwr Gorsaf Dân Reynoldston |
Ashley Lye |
12 Diffoddwr Tân Rhan Amser |
| |
|
1 Ysgol Ddŵr |
| |
|
1 Uned Cydymatebydd |
| |
|
1 Trelar Diffodd Tân |
Pennaeth Ardal Reoli Sirol Abertawe, Richard Webborn