Dyfodol eich Gwasanaeth Tân ac Achub
Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad o safon fyd-eang ac mae ein Cynllun Strategol ar gyfer 2010-2015 yn traethu ein penderfyniad i gyflawni rhagoriaeth a chreu cymunedau mwy diogel.
Mae Cynllun Gweithredu Blynyddol Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2012-2013 yn darparu gwybodaeth am berfformiad yr Awdurdod llynedd, a hefyd mae'n traethu'r hyn mae'n bwriadu ei wneud i wella yn 2012-2013 a pham mae'r amcanion yma wedi cael eu blaenoriaethu.
Cynllun Gweithredu Blynyddol 2012-2013 cliciwch yma »
Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella
Erbyn hyn, mae’r tri Awdurdod Tân yng Nghymru’n amodol i Raglen Cymru ar gyfer Gwella (WPI), a bellach does dim rhaid iddynt i gyhoeddi Cynllun Perfformiad Gwerth Gorau. Yn hytrach, mae Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn galw ar bob awdurdod i gynnal asesiad cynhwysfawr o’u haddasrwydd i gyflawni gwelliannau parhaus. Cyflawnir hyn trwy gyfrwng nifer o archwiliadau a hunanasesiadau, a chânt eu gwirio trwy’r broses asesu cymheiriaid, a rhoddir crynodeb ohonynt yn yr adran Cynllun Gwella yn y Cynllun Lleihau Risg / Gwella a gyhoeddir ar yr 31ain o Hydref pob blwyddyn.
Ewch i’r Cynlluniau »
Cam 1 Reportio ar gyfer Proses Dangosyddion Perfformiad Cymru (PDF, 276kb)
Gwerthuso Timau Lleihau Llosgi Bwriadol yng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno darganfyddiadau cychwynnol gwerthusiad o weithrediad Timau Lleihau Llosgi Bwriadol (ART) ledled Cymru. Mae’r gwerthusiad wedi edrych ar ddatblygiad parhaus a gweithgarwch y Timau ers eu sefydlu yn 2005. Er dibenion yr adroddiad presennol, gofynnwyd i’r tîm gwerthuso i gynnwys archwiliad llawn o bob un o’r modelau ART, i gyfarwyddo’r broses gwneud penderfyniadau mewn perthynas â’r camau nesaf i’r Timau Lleihau Llosgi Bwriadol.
Ddogfen Gwerthuso (Saesneg yn unig) (PDF, 695kb)
Cyfansymiau Digwyddiadau’r Gwasanaeth yn 2010/2011
Cyfansymiau Digwyddiadau’r 2010/2011
Gwefannau Perthynol