www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cyflenwad Newyddion RSS

Beth yw Cyflenwadau Newyddion?

Mae Cyflenwadau Newyddion yn eich galluogi i weld pan fod gwefannau wedi ychwanegu cynnwys newydd. Medrwch gael y penawdau diweddaraf a chyfryngau eraill mewn un lle, cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi, heb orfod ymweld â’r gwefannau y cymerwyd y cyflenwad oddi arnynt.

Caiff Cyflenwadau Newyddion eu hadnabod fel RSS hefyd. Mae cryn drafod ynglŷn ag ystyr RSS, ond mae’r mwyafrif yn credu mai 'Syndicetiad Syml Iawn’ yw’r ystyr. Yn eu hanfod, tudalennau gwe yw’r cyflenwadau, a baratowyd i gael eu darllen gan gyfrifiaduron yn hytrach na phobl.


Sut fedraf i ddechrau defnyddio Cyflenwadau Newyddion?

Yn gyffredinol, y peth cyntaf sydd ei angen arnoch yw peth o’r enw darllenydd newyddion. Darn o feddalwedd yw hwn sy’n chwilio am gyflenwadau ac sy’n gadael i chi i ddarllen unrhyw erthyglau newydd a ychwanegwyd. Mae llawer o wahanol fersiynau i’w cael, a cheir mynediad at rai ohonynt trwy ddefnyddio porwr, tra bod rhai ohonynt yn gymwysiadau y gellir eu lawrlwytho.

Mae darllenwyr newyddion sy’n seiliedig ar borwr yn eich galluogi i ddal i fyny gyda’ch tanysgrifiadau cyflenwad RSS ar unrhyw gyfrifiadur, ble mae cymwysiadau y gellir eu lawrlwytho’n gadael i chi eu storio ar eich prif gyfrifiadur, yn yr un modd ag yr ydych yn lawrlwytho eich e-byst gan ddefnyddio Outlook, neu’n eu cadw ar wasanaeth sy’n seiliedig ar y we, fel Hotmail.

Unwaith byddwch chi wedi dewis eich darllenydd newyddion, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw penderfynu pa gynnwys yr ydych chi eisiau derbyn. Er enghraifft, os hoffech storïau diweddaraf Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ymwelwch â’r adran briodol a byddwch yn sylwi ar fotwm oren ar ochr chwith y dudalen.

Os gliciwch chi ar y botwm RSS medrwch danysgrifio i’r cyflenwad newyddion mewn amryw o ffyrdd, yn cynnwys trwy lusgo URL y cyflenwad i mewn i’ch darllenwyd newyddion, neu trwy dorri a gludo’r un URL i mewn i gyflenwad newydd yn eich darllenydd newyddion.

Dyma’r URL'au ar gyfer ein cyflenwadau cyfredol (torrwch a gludwch i mewn i’ch darllenydd newyddion, os gwelwch yn dda):


Mae rhai porwyr, yn cynnwys Firefox, Opera a Safari, yn chwilio’n awtomatig am gyflenwadau i chi pan eich bod yn ymweld â gwefan, ac maent yn arddangos eicon pan eu bod yn dod o hyd i un. Mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws tanysgrifio i gyflenwadau. I gael mwy o fanylion am y rhain, edrychwch ar eu gwefannau, os gwelwch yn dda.


Sut fedraf i gael darllenydd newyddion?

Mae amryw o wahanol ddarllenwyr newyddion ar gael ac mae fersiynau newydd yn ymddangos drwy’r amser.

Mae gwahanol ddarllenwyr newyddion yn gweithio ar systemau gweithredu gwahanol, felly bydd angen i chi ddewis un a fydd yn gweithio gyda’ch cyfrifiadur chi.


MS Windows

Newz Crawler FeedDemon Awasu


Mac OS X

Newsfire NetNewsWire


Web Based

Bloglines FeedZilla NewsGator
Microsoft Live My Yahoo!


Browser

Mozilla Firefox


Sut i danysgrifio i gyflenwad newyddion

Sut i danysgrifio i’r cyflenwad newyddion hwn

Medrwch danysgrifio i’r cyflenwad RSS hwn mewn sawl ffordd, yn cynnwys y canlynol:

  • Llusgwch y botwm RSS oren i mewn i’ch Darllenydd Newyddion.
  • Llusgwch URL y cyflenwad RSS i mewn i’ch Darllenydd Newyddion.
  • Torrwch a gludwch URL y cyflenwad RSS i mewn i’ch Darllenydd Newyddion.

Cyflenwadau Newyddion cyfredol
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service