www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Digwyddiadau Diweddar
Mae’r rhan hon yn rhoi cip olwg o rai o’r digwyddiadau sydd wedi amlygu yn ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’n bosib bod gwybodaeth bellach ar gael trwy gysylltu â Swyddog Cysylltiadau’r Wasg a’r Cyfryngau'r Gwasanaeth ar 01267 226866.


Diweddarwyd: 07/02/2012

6 Chwefror 2012


23:26
Heol Hendre, Llangennech, Llanelli: Mynychodd peiriannau o Lanelli a Phontarddulais dân mewn eiddo llawr gwaelod, a gyfyngwyd i´r gegin. Achubwyd 1 wraig oedrannus a rhoddwyd therapi ocsigen iddi, a chafodd un cymydog gwrywaidd ei drin gan bersonél yr Ambiwlans am ei fod yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.

3 Chwefror 2012


03:57
Fflatiau Tŷ´r Pobydd, Heol Llansawel, Castell-nedd: Mynychodd peiriannau o Orsafoedd Tân Castell-nedd a Threforys ddigwyddiad mewn adeilad tri llawr, ble´r oedd tân wedi amlygu mewn fflat ar yr ail lawr, a gyfyngwyd i badell grilio, a chafodd y Gwasanaeth Tân fynediad gan ddefnyddio offer bach. Arweiniodd y Gwasanaeth Tân un gŵr i ddiogelwch a chafodd archwiliad meddygol gan bersonél yr Ambiwlans yn y fan a´r lle.

1 Chwefror 2012


13:17
Yr A470, Storey Arms i Heol Libanus: Mynychodd 2 beiriant o Orsaf Dân Aberhonddu Wrthdrawiad ar y Ffordd, yn cynnwys 1 cerbyd modur preifat ac 1 tancer nwyddau trwm. Roedd 1 gŵr ac 1 wraig yn sownd yn y car a chawsant eu rhyddhau gan bersonél y Gwasanaeth Tân, yn defnyddio offer torri hydrolig, plociau a blociau, offer bach a llif Dewalt. Defnyddiwyd therapi ocsigen a´r pecyn cymorth cyntaf hefyd. Cludwyd gyrrwr y tancer a´r wraig anafedig i´r ysbyty mewn ambiwlans arferol. Cludwyd y gŵr anafedig o´r car i´r ysbyty mewn ambiwlans awyr.

31 Ionawr 2012


13:47
Erik Ems, Heol Normandy, Glandŵr, Abertawe: Mynychodd dau beiriant o Orsafoedd Tân Gorllewin Abertawe a Threforys ddigwyddiad ar Heol Normandy, ble´r oedd tân wedi amlygu yn cynnwys Silindrau Asetylen. Mudwyd pawb o´r adeilad a bu´r Gwasanaeth Tân wrthi´n ei wneud yn ddiogel.

27 Ionawr 2012


23:27
Maes Parcio´r Adran D ac A, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth: Mynychodd dau beiriant o Orsaf Dân Aberystwyth ddigwyddiad, yn cynnwys car yn Ysbyty Bronglais. Cafodd un person ei ryddhau, gan ddefnyddio bwrdd sbinol ac offer torri, ac yna cludwyd y person i´r Adran D ac A mewn ambiwlans.

14:44
Cartref Nyrsio Park House, New Hedges, Dinbych y Pysgod: Mynychodd dau beiriant o Orsaf Dân Dinbych y Pysgod dân mewn ystafell wely yng Nghartref Nyrsio Park House. Defnyddiwyd dau set o offer anadlu, un diffoddiadur, camera delweddu thermol a ffan awyru pwysedd positif. Dioddefodd un wraig losgiadau a chafodd ei chludo i´r ysbyty mewn ambiwlans.

25 Ionawr 2012


12:35
Briars Court, Blaenymaes, Abertawe: Mynychodd criwiau a pheiriannau o Abertawe dân mewn tŷ un talcen, 2 lawr, ym Mlaenymaes.

08:31
Ger Garej Raymond, Heol Llanelli, Pont-iets: Mynychodd peiriannau o Orsafoedd Tân y Tymbl a Llanelli wrthdrawiad ar y ffordd, yn cynnwys 1 cerbyd modur preifat. Roedd 1 gŵr yn sownd am resymau meddygol a chafodd ei ryddhau o´r cerbyd ac yna´i gludo i´r ysbyty mewn ambiwlans. Defnyddiodd y ddau griw offer torri hydrolig.

23 Ionawr 2012


14:40
Yr A40 i gyfeiriad y Dwyrain, adran San Clêr i Gaerfyrddin: Mynychodd criwiau o Gaerfyrddin a Hendy-gwyn ar Daf wrthdrawiad ar y ffordd, yn cynnwys 1 cerbyd modur preifat a darodd i mewn i dractor a threlar. Roedd 1 person yn sownd yn y cerbyd a chafodd ei ryddhau gan bersonél y Gwasanaeth Tân, yn defnyddio offer torri hydrolig. Cludwyd y person anafedig i´r ysbyty mewn ambiwlans awyr.

10:20
Y B4337 Garej Perris, Rhiwbwys, Llanrhystud: Mynychodd peiriannau o Orsafoedd Tân Aberystwyth ac Aberaeron wrthdrawiad ar y ffordd, yn cynnwys 1 cerbyd modur preifat. Roedd 1 wraig yn sownd yn y cerbyd a chafodd ei rhyddhau gan bersonél y Gwasanaeth Tân, yn defnyddio offer torri hydrolig. Cludwyd y wraig anafedig i´r ysbyty mewn ambiwlans.

21 Ionawr 2012


04:26
Capel Libanus, Heol Caerfyrddin, Cwmbwrla, Abertawe: Mynychodd 8 peiriant a chriwiau o Abertawe, Treforys, Gorseinon, Pontarddulais, Port Talbot, Llanelli a Hwlffordd dân, mewn capel 2 lawr adfeiliedig. Cafodd yr adeilad ei ddinistrio´n llwyr gan y tân, yn ogystal â tho 1 garej gyfagos.

20 Ionawr 2012


23:53
Rhodfa Gwynedd, Townhill, Abertawe: Mynychodd criwiau o Orsafoedd Tân Gorllewin a Chanol Abertawe dân yn lolfa llawr gwaelod tŷ un talcen, 2 lawr. Cafodd 1 wraig anafedig ei harwain i ddiogelwch o ffenestr ystafell wely ar y llawr 1af gan gymydog yn defnyddio ysgol, cyn i´r Gwasanaeth Tân gyrraedd, a chafodd ei thrin gan bersonél yr Ambiwlans am ei bod yn dioddef o sioc ac effeithiau anadlu mwg.

02:56
Heol Ithon, Llandrindod: Mynychodd dau beiriant o Orsaf Dân Llandrindod dân mewn cegin, ble cafodd 1 gŵr anafedig ei achub gan bersonél y Gwasanaeth Tân, ac fe wnaeth criwiau´r ambiwlans weinyddu cymorth cyntaf, oherwydd ei fod yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.

02:20
Clos Rhandir, Casllwchwr, Gorseinon: Mynychodd un peiriant o Orseinon ddigwyddiad, ble´r oedd dyn wedi disgyn mewn cae a thrywanu ei law ar sbigyn ar reiliau. Cafodd ei drin gan griw o barafeddygon cyn i´r Gwasanaeth Tân ei dorri´n rhydd gan ddefnyddio torrwr pedal hydrolig a darparu goleuadau yn lleoliad y ddamwain. Aethpwyd â´r gŵr anafedig i´r ysbyty i dynnu´r sbigyn o´i law.

19 Ionawr 2012


23:34
Priory Groves, Llanddew, Aberhonddu: Bu criwiau o Orsaf Dân Aberhonddu´n cynorthwyo personél yr ambiwlans, yr heddlu a phersonél achub mynydd, i ddod o hyd i a chludo person anafedig.

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service