www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Newyddion:
03/02/2012 : 03:57:00 - Fflatiau Tŷ´r Pobydd, Heol Llansawel, Castell-nedd: Mynychodd peiriannau o Orsafoedd Tân Castell-nedd a Threforys ddigwyddiad mewn adeilad tri llawr, ble´r oedd tân wedi amlygu mewn fflat ar yr ail lawr, a gyfyngwyd i badell grilio, a chafodd y Gwasanaeth Tân fynediad gan ddefnyddio offer bach. Arweiniodd y Gwasanaeth Tân un gŵr i ddiogelwch a chafodd archwiliad meddygol gan bersonél yr Ambiwlans yn y fan a´r lle.      01/02/2012 : 13:17:00 - Yr A470, Storey Arms i Heol Libanus: Mynychodd 2 beiriant o Orsaf Dân Aberhonddu Wrthdrawiad ar y Ffordd, yn cynnwys 1 cerbyd modur preifat ac 1 tancer nwyddau trwm. Roedd 1 gŵr ac 1 wraig yn sownd yn y car a chawsant eu rhyddhau gan bersonél y Gwasanaeth Tân, yn defnyddio offer torri hydrolig, plociau a blociau, offer bach a llif Dewalt. Defnyddiwyd therapi ocsigen a´r pecyn cymorth cyntaf hefyd. Cludwyd gyrrwr y tancer a´r wraig anafedig i´r ysbyty mewn ambiwlans arferol. Cludwyd y gŵr anafedig o´r car i´r ysbyty mewn ambiwlans awyr.      31/01/2012 : 13:47:00 - Erik Ems, Heol Normandy, Glandŵr, Abertawe: Mynychodd dau beiriant o Orsafoedd Tân Gorllewin Abertawe a Threforys ddigwyddiad ar Heol Normandy, ble´r oedd tân wedi amlygu yn cynnwys Silindrau Asetylen. Mudwyd pawb o´r adeilad a bu´r Gwasanaeth Tân wrthi´n ei wneud yn ddiogel.      27/01/2012 : 23:27:00 - Maes Parcio´r Adran D ac A, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth: Mynychodd dau beiriant o Orsaf Dân Aberystwyth ddigwyddiad, yn cynnwys car yn Ysbyty Bronglais. Cafodd un person ei ryddhau, gan ddefnyddio bwrdd sbinol ac offer torri, ac yna cludwyd y person i´r Adran D ac A mewn ambiwlans.      27/01/2012 : 14:44:00 - Cartref Nyrsio Park House, New Hedges, Dinbych y Pysgod: Mynychodd dau beiriant o Orsaf Dân Dinbych y Pysgod dân mewn ystafell wely yng Nghartref Nyrsio Park House. Defnyddiwyd dau set o offer anadlu, un diffoddiadur, camera delweddu thermol a ffan awyru pwysedd positif. Dioddefodd un wraig losgiadau a chafodd ei chludo i´r ysbyty mewn ambiwlans.      25/01/2012 : 12:35:00 - Briars Court, Blaenymaes, Abertawe: Mynychodd criwiau a pheiriannau o Abertawe dân mewn tŷ un talcen, 2 lawr, ym Mlaenymaes.     
Cysylltiadau â’r wasg a’r cyfryngau

Croeso i’r wefan cysylltiadau â’r wasg a’r cyfryngau. Ar y tudalennau yma gwelwch ddolenni i’r datganiadau i’r wasg diweddaraf a gyhoeddwyd gennym, ynghyd â gwybodaeth am ddigwyddiadau a fynychwyd yn ddiweddar, a manylion cyswllt Swyddfa’r Wasg, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Datganiadau'r Wasg
1/2/2012
Y Gwasanaeth Tân yn gweithio gydag ysgol leol i addysgu´r disgyblion am ddiogelwch
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn helpu athrawon Ysgol Gynradd Gwaun Cae Gurwen, i addysgu´r disgyblion am iechyd a diogelwch, yn y cyfnod sy´n arwain i fyny at agor Gorsaf Dân newydd sbon gerllaw´r ysgol.
mwy »
23/1/2012
Tân yng Nghapel Cwmbwrla
Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i dân mewn capel adfeiliedig yn ardal Cwmbwrla o Abertawe, ychydig cyn 4.30yb ar ddydd Sadwrn yr 21ain o Ionawr.
mwy »
20/1/2012
Gorsaf Dân Aberystwyth yn cydweithio gyda Rathbone Cymru
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn parhau i feithrin perthynas effeithiol gyda phobl ifanc yng Ngheredigion, trwy weithio gyda changen Aberystwyth o´r elusen ieuenctid Rathbone Cymru.
mwy »
18/1/2012
Y Gwasanaeth Tân yn gwella´i gydnerthedd gyda chynllun newydd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gwella´i gydnerthedd a´i hyblygrwydd, gyda chynllun criwio newydd a ddylanwadwyd gan y Gwasanaeth Iechyd.
mwy »
Rhifyn Diweddaraf Calon Tân
Cyflwyniad
Calon Tân yw cylchgrawn deufisol y Gwasanaeth, a gyhoeddir yn fewnol gan yr adran cyfathrebu corfforaethol a chynnal aelodau. I gael mwy o wybodaeth am y cyhoeddiad cysylltwch â’r golygydd, y Swyddog CC a Chyfathrebu, ar 01267 226 866.

Gwanwyn



Cylchgrawn Calon Tân:
Fersiwn Cymraeg


Lawrlwytho
(PDF, 3.28mb)
Gaeaf



Cylchgrawn Calon Tân:
Fersiwn Cymraeg


Lawrlwytho
(PDF, 3.28mb)
Pytiau o Newyddion
Sut i danysgrifio i’r pwt hwn

Gallwch danysgrifio i’r pwt RSS hwn mewn sawl ffordd, yn cynnwys y canlynol:

  • Llusgwch y botwm RSS oren i mewn i’ch Darllenydd Newyddion.
  • Llusgwch URL y pwt RSS i mewn i’ch Darllenydd Newyddion.
  • Torrwch a gludwch URL y pwt RSS i mewn i’ch Darllenydd Newyddion.

Mwy o wybodaeth »
Cysylltiadau yn y Wasg a’r Cyfryngau
Swyddfa Cyfryngau a Chyfathrebu
Ffôn: 0370 6060699
e-bost:pressofficer@mawwfire.gov.uk


Rheolwr Cyfryngau a Chyfathrebu
Ffôn:01267 226 866
e-bost:d.owens@tancgc.gov.uk

Caiff Swyddfa’r Wasg ei staffio o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Tu allan i oriau swyddfa arferol ac ar benwythnosau neu wyliau cyhoeddus, gofynnir i aelodau o’r wasg i gysylltu â’r Ganolfan Reoli Tân ar 01267 226 899.


Rhestr Bostio Datganiadau i’r Wasg
Mae cyfleu negeseuon diogelwch trwy gyfrwng y wasg a’r cyfryngau yn un o amcanion allweddol y Gwasanaeth. Os hoffech i ni eich diweddaru gyda holl ddatganiadau i’r wasg Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, nodwch eich cyfeiriad e-bost yn y blwch isod a dewiswch “tanysgrifio” o’r ddewislen ddisgynnol ac yna cliciwch EWCH!




(Rhowch eich cyfeiriad e-bost yma, os gwelwch yn dda)
Archif y Wasg
Digwyddiadau Diweddar
Cip olwg ar rai o’r digwyddiadau a amlygodd yn ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiweddar.
mwy »

Datganiadau i’r wasg:
Darllenwch ein newyddion diweddaraf. Cliciwch ar y mis perthnasol isod i gael mynediad ar ddatganiadau i’r wasg diweddar. Mae archif llawn ar gael isod hefyd.

Chwefror | Ionawr | Rhagfyr

Archif y Wasg »

Chwilio am Ddatganiadau i’r Wasg
Chwilio ein Datganiadau i’r Wasg trwy deipio gair allweddol yn y blwch isod.


(Please enter keywords here)
Digwyddiadau yn y Dyfodol
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service