www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Gweithwyr y System Dyletswydd Llawn Amser (WDS) – Trosglwyddiadau Allanol
Does dim cyfleoedd ar gael ar hyn o bryd

TROSGLWYDDIADAU ALLANOL (DIFFODDWYR TAN WDS PRESENNOL A CHYMWYS YN UNIG)

O bryd i'w gilydd (gan ddibynnu ar ofynion presennol y Gwasanaeth), mae'r Gwasanaeth yn ystyried ceisiadau i drosglwyddo i Ganolbarth a Gorllewin Cymru, gan Ddiffoddwyr Tân System Dyletswydd Llawn Amser cymwys sy'n gweithio i Wasanaethau Tân ac Achub eraill yn y DU. Bydd ystyriaeth yn cael ei roi hefyd i unigolion sy'n gweithio yn rôl Rheolwr Criw neu uwch, fodd bynnag, bydd cyfle i drosglwyddo i'r Gwasanaeth ar lefel Diffoddwr Tân yn unig. Bydd unrhyw swyddi gwag eraill sydd ar gael yn allanol yn cael eu hysbysebu yn yr adran Gweithwyr WDS.

Os ydym yn ystyried derbyn trosglwyddiadau allanol ar hyn o bryd, bydd hyn yn cael ei nodi uchod, fodd bynnag, os nad dyma'r achos a bod gennych ddiddordeb mewn ychwanegu eich manylion at ein rhestr ddal yn y cyfamser, anfonwch yr wybodaeth ganlynol i Adran Adnoddau Dynol y Gwasanaeth, os gwelwch yn dda:-

  • Mynegiant o ddiddordeb ar ffurf llythyr eglurhaol.
  • CV llawn a hanes gyrfa.
  • Ffurflen Trosglwyddiadau Allanol wedi'i chwblhau, sydd ar gael i'w chwblhau yn y ddolen isod.
  • Prawf o gymhwysedd wedi'i asesu fel Diffoddwr Tân WDS (ble bod hynny'n bosib – er y bydd unrhyw gynnig i drosglwyddo yn dibynnu ar y ffaith ein bod yn derbyn hwn).
  • Rhestr o orsafoedd a Systemau Dyletswydd ffafriedig h.y. Sifft Llawn Amser, Criw Dydd (yn cynnwys goblygiadau cyflenwad Wrth Gefn, teithio i'r orsaf o fewn 5 munud) neu Griwio Hunan Restru Dyletswyddau (yn cynnwys goblygiadau cyflenwad Wrth Gefn, o lety yn yr orsaf), sydd ar gael yng Ngorsaf Dân Pontardawe, Ardal Reoli Sirol Castell-nedd/Port Talbot yn unig ar hyn o bryd.
Yn y cyfamser, os fyddwch chi angen unrhyw wybodaeth bellach cysylltwch â'r Tîm Sefydlu WDS trwy ffonio 01267 242637 neu trwy ddefnyddio'r Ffurflen Ymholiadau Recriwtio.

Ffurflen Trosglwyddiadau Allanol (MS Word, 1.24mb)


Swyddi Gwag Eraill


Fel aelod o Gwerth Cymru - Caffaeliad, mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cytuno i drefniant cilyddol, trwy hyn mae Caffaeliad a chyfleoedd ar gyfer swyddi etholedig yn cael eu hysbysebu. Mae’r swyddi gwag yma ar gael i’w gweld trwy gyfrwng y ddolen www.wlga.gov.uk/jobs
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service