Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Beth yw amrywiaeth?
Mae amrywiaeth yn ymwneud â deall y gwahaniaeth a gwerthfawrogi a pharchu hunaniaeth pob un.
Mae rheoli amrywiaeth yn golygu cydnabod a pharchu'r ffaith fod pobl yn dod o gefndiroedd gwahanol, a'u bod yn dod â syniadau a safbwyntiau ffres, ac mae gweithio mewn harmoni i gyflawni eu rolau penodol yn gwneud synnwyr busnes da, yn ogystal ag am resymau moesol a chymdeithasol.
Gellir manteisio i'r eithaf ar gael gweithlu amrywiol.
Daw gweithwyr, cwsmeriaid a budd-ddeiliaid Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o amrywiol gefndiroedd a diwylliannau, ac rydym yn ymrwymedig i amgylchedd sy'n cefnogi amrywiaeth a chydraddoldeb, a chredwn fod cofleidio ein polisïau a gwerthfawrogi ein gwahaniaethau yn allweddol i'n llwyddiant yn y dyfodol.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r gwahaniaethau yng nghefndiroedd a sgiliau ei weithwyr, ac mae'n rhoi cyfle cyfartal i bob gweithiwr, waeth beth yw ei genedl, tueddfryd rhywiol, oedran, anabledd, hil, credo crefyddol a deddf yr iaith Gymraeg a gwmpasir gan hawliau dynol.
Mae'n sicrhau y bydd recriwtio, datblygu, cyflogau a dyrchafiadau yn cael eu cyflawni ar sail gallu, cymhwysedd a pherfformiad, i gyflawni'r rôl a bydd gweithwyr yn derbyn hyfforddiant a chyfleoedd i ddatblygu o fewn y gwasanaeth.
Mae'n parchu arferion lleol ac arfer da'r boblogaeth amrywiol mae'n cwmpasu.
- Deddf Cyflog Cyfartal 1970 (PDF, 241kb)
- Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976, fel y'i diwygiwyd 2003 (PDF, 104kb)
- Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, fel y'i diwygiwyd 2005 (PDF, 309kb)
- Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, fel y'i diwygiwyd 1986 (PDF, 69kb)
- Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Rhyw (Ailbennu Rhywedd) 1999 (PDF, 10kb)
- Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Tueddfryd Rhywiol) 2003 (PDF, 240kb)
- Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gredo) 2003 (PDF, 247kb)
- Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006 (PDF, 471kb)
- Deddf Hawliau Dynol 1998 (PDF, 55kb)
- Deddf Cydraddoldeb 2006
# (PDF, 393kb)