www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Proses Dethol Diffoddwyr Tân
Mae’r adran hon yn eich galluogi i ganfod mwy am y broses ddethol, o adeg eich cais cychwynnol trwodd i’r adeg pan fod y Gwasanaeth yn cysylltu â chanolwyr ac yn cynnal archwiliadau iechyd, os fyddwch yn cwblhau pob agwedd arall yn llwyddiannus.

Mae yna bump cam i’r broses ddethol.
  • Cais cychwynnol
  • Profion ysgrifenedig
  • Profion corfforol
  • Cyflogaeth
  • Sgrinio Cyn Cyflogi e.e. Tystlythyrau, Archwiliadau Meddygol a Sgrinio Cyffuriau ac Alcohol

Cais Cychwynnol

Bydd gofyn i chi ddarparu manylion personol, megis eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, cymwysterau, trwydded yrru ac unrhyw swyddi blaenorol gyda’r gwasanaeth tân ayb.

Yn ogystal, bydd gofyn i ymgeiswyr y System Dyletswydd Wrth Gefn i ddarparu manylion ynghylch y cyflenwad y byddant yn medru’i ddarparu h.y. nifer o oriau’r wythnos, ac yn ystod pa rannau o bob dydd. Bydd yr wybodaeth yma’n cael ei ystyried yn erbyn gofynion yr orsaf dan sylw ar yr adeg honno, a fydd yn penderfynu p’un ai bydd y cais yn symud ymlaen ymhellach ai peidio.

Bydd gofyn i chi hefyd, ar y cam gwneud cais, i gwblhau datganiad o unrhyw gollfarnau troseddol ‘heb ddarfod’ sydd gennych (yn unol â’r Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr). Os oes gennych unrhyw gollfarnau ‘heb ddarfod’, rydym yn annhebygol o ystyried eich cais. Gellir gweld Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 ar wefan yr OPSI, trwy glicio ar y ddolen ganlynol.

Gellir dod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddatgelu collfarnau ar y wefan Cyngor ar Yrfaoedd, trwy glicio ar yddolen hon.

Bydd angen i chi gwblhau’r adran Asesu Rhinweddau a Phriodweddau Personol(PQA) o’r ffurflen gais, sef: Gweithio gyda Phobl Eraill, Ymrwymiad i Amrywiaeth ac Uniondeb, Ymrwymiad i Ddatblygu, Hyder a Gwydnwch, Ymrwymiad i Ragoriaeth a Bod yn Agored i Newid. Ar gyfer pob PQA, mae gofyn i chi ddisgrifio gweithgaredd sy’n arddangos eich profiad yn y maes ar ei orau, a’ch mewnbwn personol i’r sefyllfa dan sylw.

Paratowyd y ffurflen gais i asesu’r rhinweddau a’r priodweddau sy’n ofynnol i fod yn Ddiffoddwr Tân effeithiol. Mae’n rhan bwysig o’r broses ddethol, ac mae’n asesu’r nodweddion sy’n ymwneud yn uniongyrchol â rôl Diffoddwr Tân.


Profion Ysgrifenedig

Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfranogi mewn cyfres o brofion ysgrifenedig, a baratowyd i fod yn berthnasol iawn i waith diffoddwyr tân. Mae’r rhain yn cymryd tua thair awr i’w cwblhau.

Mae’r profion yma’n cynnwys profion ysgrifenedig a seicometrig, sy’n ffurfio’r Holiadur Diffoddwyr Tân Cenedlaethol a thri phrawf Gallu Diffoddwyr Tân Cenedlaethol, sy’n cynnwys y meysydd canlynol:

  • Y prawf gweithio gyda rhifau

    Prawf wedi’i amseru yw hwn, sy’n cynnwys 32 o gwestiynau ac sy’n para 45 munud. Mae’n rhaid bod Diffoddwr Tân yn medru cwblhau cyfrifiadau rhifiadol sylfaenol, er enghraifft dehongli medryddion neu cyfrif hyd y bibell sydd ei hangen. Mae’r prawf yn cynnwys nifer o senarios sy’n cyflwyno gwybodaeth rifiadol mewn amryw ffurf, o graffiau i fedryddion. Bydd gofyn i chi ateb cwestiynau amlddewis ar bob senario.

  • Y prawf deall gwybodaeth

    Prawf wedi’i amseru yw hwn, sy’n cynnwys 25 o gwestiynau ac sy’n para 30 munud. Mae’r prawf hwn yn asesu eich gallu i ddarllen a deall gwybodaeth ysgrifenedig o’r math yr ydych yn debygol o ddod ar ei draws fel Diffoddwr Tân. Byddwch yn cael eich cyflwyno â nifer o senarios, bydd nifer o gwestiynau amlddewis yn dilyn, a dylech ddefnyddio’r wybodaeth a roddir yn y senario i ateb y cwestiynau sy’n dilyn.

  • Y prawf ymwybyddiaeth sefyllfaol a datrys problemau

    Prawf wedi’i amseru yw hwn, sy’n cynnwys 30 o gwestiynau ac sy’n para 35 munud. Bwriad y prawf yw edrych ar eich gallu i sicrhau eich diogelwch chi ac eraill, a’ch gallu i ddefnyddio gwybodaeth i ddatrys problemau. Byddwch yn cael eich cyflwyno â nifer o senarios, a bydd gofyn i chi ddewis eich ymateb mwyaf tebygol o blith cyfres o atebion.
Bydd y Llyfrynnau Paratoi ac Ymarfer, yn rhoi gwell syniad i chi o beth i’w ddisgwyl, a sut i baratoi eich hun ar gyfer cam y prawf ysgrifenedig yn y broses.


Profion Corfforol

Paratowyd y profion corfforol i asesu eich ffitrwydd, cryfder, stamina, cydweithrediad, deheurwydd a’ch gallu i ddeall a chymhwyso gwybodaeth. Yn ogystal, mae’r profion yn edrych ar eich gallu i weithio ar uchder ac mewn lleoedd cyfyng a thywyll. Mae pob un o’r profion yn berthnasol i rôl diffoddwr tân.

  • Y prawf mudo cleifion

    Paratowyd y prawf hwn i asesu cryfder a chydweithrediad rhannau uchaf ac isaf y corff. O fewn terfyn amser, mae’r ymgeiswyr yn llusgo dymi 55 cilogram tuag yn ôl o amgylch cwrs 30m, ar gyflymdra cerdded, gan ddefnyddio dolen gario sy’n sownd i’r dymi. Byddwch yn cael eich tywys o gwmpas y cwrs gan aseswr cymwys.

  • Y prawf lleoedd cyfyng

    Paratowyd y prawf hwn i asesu hyder, ystwythder a stamina. Gan wisgo set offer anadlu a mwgwd am eich wyneb, byddwch yn mynd hanner ffordd trwy dwnnel ymlusgo, a byddwch yn medru gweld. Unwaith y byddwch y tu mewn, bydd y twnnel yn mynd yn dywyll, a bydd yn rhaid i chi ddychwelyd i’r dechrau, gan gyflawni tasgau ar y ffordd, fel y cyfarwyddir. Gwneir hyn i gyd o fewn terfyn amser.

  • Y prawf cydosod offer

    Mae’r prawf hwn yn asesu medrusrwydd corfforol. O fewn terfyn amser, bydd yr ymgeiswyr yn cydosod ac yn dadosod nifer o gydrannau i wneud darn o offer, gan ddilyn cyfres o ddiagramau. Byddwch yn cael gweld gwers ddangos o flaen llaw.

  • Cario Offer

    Paratowyd y prawf hwn i asesu ffitrwydd erobig, stamina, cryfder a chydweithrediad rhannau uchaf ac isaf y corff. O fewn terfyn amser, byddwch yn cario amryw o eitemau o offer y gwasanaeth tân ac achub i fyny ac i lawr y cwrs, rhwng dau gôn a osodwyd â 25m rhyngddynt. Byddwch yn cael gwers ddangos ar y technegau codi cywir, a byddwch yn cael cyfle i ymarfer codi’r eitemau o flaen llaw.

  • Dringo Ysgolion

    Mae’r prawf hwn yn asesu eich hyder a’ch cydweithrediad ar uchder. O fewn terfyn amser, byddwch yn dringo ysgol 13.5m ac yn cyflawni nifer o dasgau. Byddwch yn cael cyfle i ymarfer ar y llawr cyn dringo dwy ran o dair o’r ffordd i fyny, gan gyflawni’r tasgau fel y cyfarwyddir, cyn dod i lawr yn briodol. Gwisgir harnais diogelwch llawn yn ystod y prawf hwn.

  • Prawf Efelychydd Lifft Ysgol

    Mae’r prawf hwn yn asesu cryfder a chydweithrediad rhannau uchaf ac isaf y corff. O fewn terfyn amser, byddwch yn codi bar efelychydd lifft ysgol i’r uchder gofynnol, gyda 15 cilogram o bwysedd ar grud yr efelychydd, ac yna byddwch yn ei ollwng yn ddiogel o dan reolaeth.
Mae manylion pellach am y profion yma’n gynwysedig yn y Nodyn Cyfarwyddyd ar y Profion Corfforol.

Mae canllawiau cyffredinol ar ymarfer corff a mwy o wybodaeth am y profion corfforol ar gael yn: Canllawiau Grŵp Llywio Firefit ar Hyfforddiant i Baratoi’n Gorfforol ar gyfer y Profion Dethol Diffoddwyr Tân Cenedlaethol..


Cyfweliad Rhinweddau A Phriodweddau Personol (PQA)

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, fe fydd yn para tuag awr. Bydd dau berson yn cynnal y broses gyfweld, gydag un yn holi cwestiynau am eich profiadau a’r llall yn cymryd nodiadau llawn, i sicrhau bod cofnod yn cael ei gadw o’r holl enghreifftiau a roddir. I gychwyn, bydd eich cyfwelwyr yn cyflwyno eu hunain ac yn cyflwyno fformat y cyfweliad i chi.

Fel ar eich ffurflen gais, bydd eich cyfwelwyr yn ymchwilio i’ch profiadau a sut yr ydych wedi defnyddio’r Rhinweddau a Phriodweddau Personol (PQA) perthnasol sy’n cael eu hasesu. Mae’r meysydd yma’n cynnwys:
  • Gweithio gyda Phobl Eraill

    Mae’r maes hwn yn ymwneud â gweithio’n effeithiol gydag amryw o bobl, p’un ai eu bod yn eich tîm neu yn y gymuned.

  • Ymrwymiad i Ragoriaeth

    Mae’r maes hwn yn canolbwyntio ar fabwysiadu ymagwedd gydwybodol a blaenweithgar at waith, a chyflawni a chynnal safonau rhagorol.

  • Ymrwymiad i Ddatblygu

    Mae’r maes hwn yn ymwneud â bod â’r gallu a’r ymrwymiad i ddatblygu eich hun a phobl eraill.

  • Ymrwymiad i Amrywiaeth ac Uniondeb

    Mae’r maes hwn yn canolbwyntio ar ddeall a pharchu gwahaniaethau pobl eraill a thrin pobl yn deg ac yn foesegol.

  • Cyfathrebu’n Effeithiol

    Mae’r maes hwn yn edrych ar ba mor effeithiol y medrwch gyfleu gwybodaeth ar lafar, cael pobl i’ch deall a sut yr ydych chi’n deall gwybodaeth.
Nod y cyfweliad yw casglu enghreifftiau o bryd a sut yr ydych wedi defnyddio sgiliau sy’n bwysig i ddarpar ddiffoddwyr tân.

Mae gwybodaeth bellach am y broses gyfweld ar gael yn y Llyfryn Ymarfer Cyfweliadau Diffoddwyr Tân.


Sgrinio Cyn Cyflogi

Asesiad Meddygol

Os fyddwch yn llwyddiannus yn y profion ysgrifenedig, y profion corfforol a’r cyfweliad, bydd yn ofynnol i chi gwblhau asesiad meddygol gyda'n darparwr Iechyd Galwedigaethol.

Ynghyd ag archwiliad cyffredinol, byddwch yn cael y profion canlynol:
  • Golwg (yn cynnwys lliw)
  • Clyw
  • Gweithrediad yr ysgyfaint
  • Ffitrwydd Cardio (prawf stepio, safon leiaf o 42 VO2)
  • Cryfder gafael
  • Prawf Cydweithrediad a Hyblygrwydd
  • Prawf Troeth
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd sy’n gwneud cais i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i fod yn Ddiffoddwr Tân i gael prawf golwg gydag optegydd cymwys ar eu traul eu hunain. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd a’r Optegydd i gwblhau Ffurflen Asesu Optometrig a’i dychwelyd i’r Adran Adnoddau Dynol.

Mae’r safonau golwg fel a ganlyn:-
  • 6/9 gyda’r ddau lygad yn unigol - heb gymorth.
  • N12 ar 30cm gyda’r ddau lygad ar agor – heb gymorth.
  • Cyrch gweld normal yn y ddau lygad (fel y penderfynwyd gan dechnegau cyfwynebu).
  • Dim hanes o nosddallineb (dallineb yn y nos) neu glefyd llygadol sy’n debygol o waethygu ac achosi i safonau’r golwg i ddirywio.
  • Lefel briodol o olwg lliw (dim mwy na dau gamgymeriad adnabod yn y set Ishihara fel arfer, ond bydd ymgeiswyr sy’n methu’r safonau yma’n cael cyfle i gael profion golwg lliw mwy penodol, a fydd yn cael eu trefnu gan y Meddyg Galwedigaethol sy’n cynghori’r Gwasanaeth.
Bydd gofyn i chi ddatgan unrhyw anabledd neu amhariad ar eich ffurflen gais, a hefyd ar holiadur iechyd a fydd yn cael ei hanfon atoch cyn yr asesiad meddygol. Anfonir yr holiadur iechyd yn uniongyrchol i iechyd galwedigaethol, yn gyfrinachol, a bydd yn ein cynorthwyo wrth ystyried eich ffitrwydd i gyflawni rôl diffoddwr tân.

Gosodir y safonau meddygol gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG), fodd bynnag, cyfrifoldeb pob gwasanaeth tân ac achub yw gwneud penderfyniad ynghylch ffitrwydd a gallu ar gyfer y rôl. Gyda hyn mewn cof, nid ydym yn eithrio unigolyn sydd ag anabledd, er enghraifft asma neu glefyd y siwgr, yn awtomatig, ond buasem yn ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun. Mewn achosion o’r fath, cynhelir yr archwiliad meddygol yn dilyn y profion ysgrifenedig, cyn y profion corfforol a’r cyfweliad, am resymau’n ymwneud ag ymarferoldeb ac i ystyried ymhellach addasiadau rhesymol ymarferol a gallu.


Sgrinio Cyffuriau ac Alcohol

Bydd angen i chi gyfranogi mewn, a phasio, Prawf Sgrinio Cyffuriau ac Alcohol, a fydd yn cael ei gynnal gan ein darparwyr profion sgrinio.

Tystlythyrau

Byddwn yn anfon am dystlythyrau, os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, a bydd angen i chi roi manylion eich cyflogwr presennol a blaenorol, er mwyn i ni fedru caffael tystlythyrau.

I gael mwy o wybodaeth ac i ganfod mwy am y Gwasanaeth Tân ac Achub, mae’n bosib bydd y gwefannau canlynol o ddefnydd i chi: http://extraordinary.direct.gov.uk


© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service