Ydych chi’n ystyried gyrfa?
Ymuno â’r Gwasanaeth
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin yn sefydliad cwsmer-gyfeiriedig, sy’n canolbwyntio ar anghenion y gymuned mae’n ei gwasanaethu. Mae holl weithwyr y Gwasanaeth yn aelodau o dimau deinamig sy’n gweithio’n aml gyda grwpiau cymunedol, gyda phwyslais ar ddiogelwch rhag tân yn y cartref, mewn busnesau a safleoedd eraill, yn ogystal â’n gweithgareddau diffodd tân ac achub mwy traddodiadol.
mwy »
Swyddi Gwag
Cyfleoedd Cyfartal
Mae Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth y gymuned mae'n ei gwasanaethu ac mae'n anelu at fod â gweithlu sy'n adlewyrchu hyn. Rydym felly yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Diogelu Ein Cymunedau
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn rhannu ymrwymiad i ddiogelu a hybu lles plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Caiff yr ymrwymiad hwn ei ategu gan brosesau a gweithdrefnau cadarn, sy'n ceisio mwyhau cyfleoedd, lleihau risg a hybu'n gyson ddiwylliant sy'n cynnwys ethos o ddiogelu ymhlith y gweithlu.
Gwerth Cymru – Caffael
Fel aelod o Gwerth Cymru - Caffaeliad, mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cytuno i drefniant cilyddol, trwy hyn mae Caffaeliad a chyfleoedd ar gyfer swyddi etholedig yn cael eu hysbysebu. Mae’r swyddi gwag yma ar gael i’w gweld trwy gyfrwng y ddolen www.wlga.gov.uk/jobs
Swyddi Gwag
Profiad Gwaith
Mae’r chwe Ardal Reoli Sirol fel a ganlyn, a gellir cysylltu â nhw trwy gyfrwng rhif ffôn cyffredinol y Gwasanaeth 0370 6060699.
mwy »
Y Gwasanaeth Tân ac Achub - Pobl Gyffredin - Gyrfa Anghyffredin
Mae llawer mwy yn perthyn i’r Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) nag a welir ar yr wyneb. Mae’n ddigon gwir ein bod yn diffodd tanau ac yn achub ambell gath o goeden, ond rhan fechan o’r hyn a wnawn yw hyn. Ein rôl bennaf yw ymateb i argyfyngau ble bod bywydau mewn perygl.
darganfod mwy »
ddolen i wefan Saesneg yn unig
Y Broses Dethol Diffoddwyr Tân
Mae’r adran hon yn eich galluogi i ganfod mwy am y broses ddethol, o bwynt eich cais cychwynnol.
mwy »
Byddwch yn rhan on tim
Os ydych yn edrych am yrfa sy’n delio’n uniongyrchol â rhai o’r heriau hyn, efallai bod cyfle i chi gyda ni.
lleihau »
(PDF, 4.24mb)
Rhaglen Ffitrwydd Baratoadol
Arweiniad ar Baratoadau Hyfforddiant Corfforol ar gyfer y Profion Cenedlaethol i Ddewis Ymladdwyr Tân.
Lawrlwytho »