Sut fedraf fi fod yn Ddiffoddwr Tân Wrth Gefn? |
Os ydych yn byw neu'n gweithio'n agos i orsaf dân Wrth Gefn, y cam cyntaf yw cysylltu ag Adran Adnoddau Dynol y Gwasanaeth ar 01267 242636, er mwyn cael ffurflen gais.
|
Ble mae'r swyddi gwag presennol ar gyfer Diffoddwyr Tân Wrth Gefn? |
Ar hyn o bryd, mae gan y Gwasanaeth swyddi gwag yn y Gorsafoedd canlynol:-
- Aberystwyth
- Caerfyrddin
- Llanwrtyd
- Pont-iets
- Cei Newydd
- Crucywel
- Pontarddulais
- Trefaldwyn
- Arberth
- Y Gelli Gandryll
- Y Cymer
- Blaendulais
- Port Talbot
- Hendy-gwyn ar Daf
- Llanfyllin
- Machynlleth
- Llanidloes
- Talgarth
- Aberaeron
- Llandysul
- Llandeilo
- Y Tymbl
- Aberteifi
- Llanfair ym Muallt
- Tregaron
- Aber-craf
- Llandrindod
- Castellnewydd Emlyn
Fodd bynnag, rydym yn fodlon derbyn ffurflenni cais ar gyfer ein Gorsafoedd Wrth Gefn eraill, a byddwn yn eu cadw ar ffeil nes bod swydd wag ar gael.
|
A fyddaf yn cael fy nhalu am fynychu'r Cwrs Recriwtio Cychwynnol? |
Byddwch. Byddwch yn derbyn y cyflog fesul awr priodol ar gyfer diffoddwr tân dan hyfforddiant (gweler y tabl sy'n amgaeëdig i weld yr union swm)
|
Faint o amser mae'n ei gymryd i gwblhau'r broses recriwtio?
|
Lluniwyd y broses recriwtio i arwain i mewn i'r Cyrsiau Recriwtio Wrth Gefn Cychwynnol, sy'n cael eu cynnal bob chwarter, gan gychwyn ym mis Ionawr, Mehefin a Hydref bob blwyddyn. Cynhelir y cyrsiau yn y lleoliadau canlynol:-
1. Y Drenewydd
2. Treforys
3. Hwlffordd
Er na fedrwn roi'r union amserlenni ar gyfer pob prawf dethol, rhagwelir bydd cam cyntaf y broses ddethol (yr asesiad ysgrifenedig) yn cael ei gynnal tua 3 mis cyn i bob cwrs recriwtio i gychwyn.
|
Pryd sydd angen i mi fynychu'r Orsaf?
|
Pan fyddwch yn gofyn am ffurflen gais, byddwch yn cael gwybod pa ddiwrnod a pha amser mae'r Orsaf yr ydych chi wedi'i dewis yn cynnal ei noson ymarfer. Yna, bydd angen i chi fynychu i gael trafodaeth cyn yr asesiad.
|
Beth mae'r asesiadau ysgrifenedig yn eu golygu?
|
Mae'r asesiadau seicometrig yn rhan bwysig o'r broses ddethol a'r nodweddion sy'n gysylltiedig â rôl y diffoddwr tân. Maent yn cynnwys y canlynol:-
Holiadur Diffoddwyr Tân Cenedlaethol
Profion Gallu Diffoddwyr Tân Cenedlaethol:-
- Gweithio gyda rhifau
- Deall gwybodaeth
- Ymwybyddiaeth sefyllfaol a datrys problemau
Pan fyddwch yn derbyn eich gwahoddiad i sefyll y profion yma, bydd llyfryn ymarfer yn amgaeëdig hefyd. Bydd y llyfryn yn eich galluogi i baratoi ar gyfer y profion ac i ymgyfarwyddo eich hun gyda'r mathau o gwestiynau bydd yn cael eu holi.
Mae'n rhaid i chi basio pob prawf er mwyn symud ymlaen i'r cam nesaf.
|
Ydw i'n ddigon heini / cryf?
|
Mae angen i ddiffoddwyr tân i fod yn ddigon heini ac yn ddigon cryf i wneud y gwaith. Fel rhan o'r broses ddethol, byddwn yn asesu eich ffitrwydd a'ch cryfder yn unol â safonau cenedlaethol.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â chwe phrawf corfforol. Bydd angen i chi basio'r chwe phrawf er mwyn symud ymlaen i'r cam nesaf. Ar ddechrau pob prawf, byddwch yn cael eich briffio'n drylwyr am y prawf y mae gofyn i chi ei sefyll. Ceir cyflwyniad bras i bob prawf isod, er gwybodaeth i chi.
Mae'r elfennau sy'n gynwysedig yn y profion corfforol fel a ganlyn:-
Dringo Ysgol
Paratowyd y prawf hwn i asesu eich hyder ar uchder a'ch gallu i ddilyn cyfarwyddiadau.
- Dringwch Ysgol 135 y Gwasanaeth Tân (13.5m) hyd at bwynt sydd ddwy ran o dair o'r ffordd i fyny a phwyswch eich coesau ar un o risiau'r ysgol.
- Pwyswch nôl, gan estyn eich breichiau allan ac wrth edrych dros eich ysgwydd, enwch y symbol sy'n cael ei ddangos gan yr aseswr ar y llawr.
Mudo Cleifion
Paratowyd y prawf hwn i asesu cryfder a chydweithrediad rhannau uchaf ac isaf y corff. Bydd gofyn i chi:-
- Llusgo dymi (55kg) tuag at yn ôl o amgylch cwrs 30m ac o amgylch 4 côn, wrth ddolen gario sy'n sownd i'r dymi. Byddwch yn cael eich tywys gan swyddog diogelwch.
Lifft Ysgol
- Codwch far yr efelychydd lifft ysgol i'r uchder gofynnol (190cm) gyda 15 cilogram o bwysedd ar grud yr efelychydd, sy'n golygu bod cyfanswm llwyth y lifft yn tua 30 cilogram.
- Byddwch yn cael cyfle i godi'r lifft gyda 5 cilogram ar y crud i gychwyn.
Offer Anadlu mewn Lle Caeedig
Paratowyd y prawf hwn i asesu hyder, ystwythder a stamina ac i ganfod tueddiadau clawstroffobig. Bydd gofyn i chi:-
- Wisgo set offer anadlu gyda'r mwgwd am eich wyneb a bydd angen i chi lywio eich ffordd trwy dwnnel ymlusgo.
Cydosod Offer
Mae'r prawf hwn yn asesu medrusrwydd corfforol. Bydd gofyn i chi:-
- Gydosod a dadosod pwmp cludadwy wedi i un o'r aseswyr i arddangos y prawf.
- Bydd cyfres o luniau i'w gweld trwy gydol y prawf i ddisgrifio sut i gydosod / dadosod yr offer.
Cludo Offer
Paratowyd y prawf hwn i asesu cryfder rhannau uchaf ac isaf y corff, cydweithrediad a stamina. Bydd gofyn i chi:-
- Gludo eitemau o offer i fyny ac i lawr dau gôn a osodwyd 25m ar wahân.
- Nid prawf cof yw hwn, oherwydd bydd yr aseswr yn eich atgoffa o ddilyniant y digwyddiadau.
- Bydd arddangosiadau'n cael eu rhoi o'r technegau codi priodol a byddwch yn cael cyfle i ymarfer codi amrywiol eitemau.
|
Beth sy'n digwydd unwaith fyddaf wedi pasio'r asesiadau?
|
Unwaith fyddwch chi wedi cwblhau'r asesiadau angenrheidiol i gyd, byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu rhaglen sgrinio cyn-cyflogi, sy'n cynnwys:-
- Gwirio Geirdaon
- Sgrinio am Gyffuriau ac Alcohol
- Archwiliad Meddygol
- Gwiriad CRB
Unwaith bydd y rhain wedi cael eu cwblhau, a bod swydd addas ar gael ar y pryd, byddwch yn derbyn lle ar y Cwrs Recriwtio Cychwynnol nesaf, cyn cychwyn yn yr Orsaf.
|
Beth os fydd fy nghyfeiriad yn newid yn ystod y broses recriwtio?
|
Dylech chi hysbysu Adran Adnoddau Dynol y Gwasanaeth am unrhyw newid yn eich amgylchiadau yn ystod y broses ddethol. Yna, byddwch yn cael gwybod a yw'r newidiadau'n effeithio ar eich cais yn unrhyw ffordd.
|
A oes cludiant / llety'n cael eu darparu ar gyfer yr asesiadau / cwrs recriwtio cychwynnol?
|
Bydd cludiant ar gael ar gyfer yr holl ymgeiswyr yn ystod y cwrs. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt i drefnu eu cludiant eu hunain ar gyfer y diwrnod cyntaf.
|