www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English

Y Broses Ddethol


Ymuno â’r Gwasanaeth


Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i helpu ei staff i gyflawni a chynnal ansawdd da o fywyd, trwy gynnig amryw o gynlluniau yn y gweithle i gynorthwyo gweithwyr, yn cynnwys:

  • Cynllun pensiwn cyflog terfynol
  • Trefniadau gweithio hyblyg
  • Hyd at 33 diwrnod o wyliau blynyddol
  • Cynllun talebau gofal plant, sy’n galluogi rhieni sy’n gweithio i dderbyn gostyngiad yn y dreth ar gostau gofal plant
  • Trefniadau gwyliau arbennig sy’n cynorthwyo ein gweithwyr gyda'u cyfrifoldebau cymdeithasol a theuluaidd
  • Cwnsela i weithwyr a’u teulu agos trwy gyfrwng y rhaglen FirstAssist
  • Gwasanaeth iechyd galwedigaethol


Datblygu Gyrfa

Wrth ddatblygu ein sefydliad, ar hyn o bryd rydym yn edrych ar ffyrdd arloesol o ddatblygu ein gweithwyr ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar:

  • Cynorthwyo i gyrraedd y safon Buddsoddwyr mewn Pobl
  • Cynorthwyo gweithwyr wrth ddatblygu eu gyrfa nawr ac yn y dyfodol, trwy werthusiadau rheolaidd a chynlluniau datblygu hyfforddiant.


Cyflog

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig amrywiaeth gystadleuol o gyflogau, ac yn ddiweddar mae wedi cyflwyno strwythurau cyflog newydd, i sicrhau ein bod yn denu ac yn cadw pobl o ansawdd ar bob lefel ar gyfer y dyfodol.


Gwyliau

Yn ogystal ag 8 gŵyl y banc, rydym yn cynnig hawliau o hyd at 33 diwrnod o wyliau’r flwyddyn. Caiff gwyliau i weithwyr rhan amser eu cyfrif ar sail pro-rata.


Oriau Gwaith

Rydym yn gweithredu amryw o batrymau gweithio i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid a’n gweithwyr. Rydym yn gweithredu cynllun oriau gweithio hyblyg ac mae cynlluniau eraill yn cael eu datblygu i alluogi ein gweithwyr i gadw cydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith, trwy gyfrwng cyfleusterau megis gweithio hyblyg, seibiant gyrfa, trefniadau rhannu swydd ayb.

Cynlluniau Pensiwn

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - Staff Cymorth a Chanolfan Reoli

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007



Iechyd Galwedigaethol

Fel rhan o’n hymrwymiad at fod yn iach i weithio, rydym yn darparu nifer o brosesau i gynorthwyo ein gweithwyr yn y maes hwn, yn cynnwys Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol.

Mae’r Gwasanaeth yn anelu at isafu’r risg i iechyd a diogelwch, trwy sicrhau bod gweithwyr yn dal i fod yn iach ar gyfer y rolau maent yn eu cyflawni.


Gwybodaeth Ychwanegol

Pam ddylech chi ymuno â ni
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i helpu ei staff gyflawni a chynnal ansawdd da o fywyd, trwy gynnig amryw o gynlluniau yn y gweithle i gefnogi gweithwyr.
mwy »


Profiad Gwaith
Mae'r chwe Ardal Reoli Sirol fel a ganlyn, a gellir cysylltu â phob un ohonynt ar brif rif ffôn y Gwasanaeth 0370 6060699.
mwy »


Ymholiadau Recriwtio
Mae'r chwe Ardal Reoli Sirol fel a ganlyn, a gellir cysylltu â phob un ohonynt ar brif rif ffôn y Gwasanaeth 0370 6060699.
mwy »


© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service