www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Profiad Gwaith

Er y darperir cyrsiau o bryd i’w gilydd ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau profi rôl weithredol y Diffoddwr Tân, fel arfer ymdrinnir â’r trefniadau ar gyfer y fath gyrsiau oddi fewn i bob Ardal Reoli Sirol berthynol, mewn cydweithrediad â Gyrfa Cymru. Yn y lle cyntaf, dylai myfyrwyr sydd â diddordeb yn y math hwn o leoliad fynegi diddordeb i Gyrfa Cymru neu Bencadlys yr Ardal Reoli Sirol berthynol trwy gyfrwng ymgynghorydd gyrfâu'r ysgol / coleg. Mae’r chwe Ardal Reoli Sirol fel a ganlyn, a gellir cysylltu â phob un ohonynt trwy gyfrwng rhif ffôn cyffredinol y Gwasanaeth 0370 6060699.


Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd, ceir cyfleoedd i fyfyrwyr i dreulio lleoliadau gweinyddol byr dymor (cyfnod o 1 wythnos) gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Dylai myfyrwyr sy’n teimlo y byddai lleoliad gweinyddol o fudd i’w datblygiad, h.y. rhoi profiad o amgylchedd swyddfa gyffredinol a’r amrywiol swyddogaethau / trefnau clercaidd a gweinyddol, anfon cais ysgrifenedig i Adran Adnoddau Dynol y Gwasanaeth ym Mhencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Caerfyrddin, SA31 1SP. Yn gyffredinol, mae’r lleoliadau yma ar gael ar ein safleoedd yng Nghaerfyrddin a Threforys, oherwydd bod llai o staff cymorth ar gael i arolygu myfyrwyr mewn safleoedd anghysbell megis Castell-nedd, Aberystwyth, Hwlffordd a Llanfair ym Muallt, fodd bynnag, bydd pob cais ysgrifenedig yn cael eu hystyried.


Gwybodaeth Ychwanegol

Pam ddylech chi ymuno â ni
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i helpu ei staff gyflawni a chynnal ansawdd da o fywyd, trwy gynnig amryw o gynlluniau yn y gweithle i gefnogi gweithwyr.
mwy »


Ymholiadau Recriwtio
Mae'r chwe Ardal Reoli Sirol fel a ganlyn, a gellir cysylltu â phob un ohonynt ar brif rif ffôn y Gwasanaeth 0370 6060699.
mwy »


© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service