www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English

Amdanom ni

Sefydlwyd yr Adran Diogelwch ar y Ffordd yn 2006 gyda'r cylch gwaith canlynol:-

  • I ddatblygu polisïau a gweithdrefnau i alluogi'r Gwasanaeth i gyfrannu'n effeithiol at yr agenda Diogelwch ar y Ffordd.
  • I gynorthwyo a chynghori wrth ddatblygu cynlluniau a mentrau lleol, i leihau'r nifer o anafiadau difrifol neu farwolaethau o ganlyniad i wrthdrawiadau ar y ffordd.
  • I weithio mewn partneriaeth gyda Swyddogion Diogelwch ar y Ffordd, Swyddogion yr Heddlu a budd-ddeiliaid eraill, i gynorthwyo gyda'n nod o "Greu Cymunedau Mwy Diogel."

Rhan o'n nod o greu Cymuned fwy diogel yw lleihau'r nifer o farwolaethau ac anafiadau ar ein ffyrdd. Rydym yn gysylltiedig â nifer o ymgyrchoedd gyda sefydliadau lleol eraill, sy'n anelu at addysgu pobl am ddiogelwch ar y ffordd mewn ymgais i ostwng y ffigyrau yma.

Yn ystadegol, gyrwyr ifanc sydd fwyaf mewn perygl ar ein ffyrdd. Maent yn fwy tebygol o ladd neu anafu eu hunain, eu teithwyr a defnyddwyr eraill y ffordd mewn damweiniau. Yn aml, maent yn dueddol o yrru’n rhy gyflym a goramcangyfrif eu gallu i yrru, a gallant fod yn agored i bwysau gan gyfoedion a chymryd risgiau.

Rydym yn mynd ati’n weithgar i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau diogelwch ar y ffordd eraill, ysgolion, colegau a busnesau lleol, i wneud pobl ifanc yn ymwybodol o’r peryglon maent yn eu hwynebu fel defnyddwyr y ffordd a sut i’w hosgoi. Mae’r cynlluniau yma’n cynnwys Pass Plus Cymru, Megadrive, CSI Cymru a Beicio Diogel ymhlith eraill.

Credwn fod cynyddu ymwybyddiaeth y gymuned o faterion yn ymwneud â diogelwch ar y ffordd yn medru golygu’n llythrennol y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Gyda’n gilydd, medrwn wneud Canolbarth a Gorllewin Cymru yn lle mwy diogel i fyw, gweithio a theithio ynddo.


© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service