www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Ydych chi’n poeni am Fodurwr Ifanc? - 10 o gynghorion i helpu
Mae’r mwyafrif o yrwyr ifanc yn rhai diogel

Lleiafrif bach yn unig o yrwyr ifanc (oddeutu 35 y cant) a ystyrir i fod yn yrwyr peryglus.


Nid diffyg profiad yw’r broblem bob amser

Mae dwy broblem, diffyg profiad a gyrru gwael o fwriad – a anelir naill ai at “wneud argraff” ar ffrindiau neu gael gwefr wrth gymryd risg.

Efallai mai diffyg profiad yw’r bygythiad lleiaf difrifol i yrrwr ifanc, yn enwedig os ydynt yn derbyn eu bod yn dal i ddysgu.

Mae gyrwyr ifanc wrth risg yn arbennig yn ystod oriau mân y bore, pan fod ‘dyn ifanc’, fesul milltir a yrrir, dwy ar bymtheg tro’n fwy tebygol o gael damwain na’r dyn cyffredin.

Ond mae’r risg o ddamweiniau ymhlith dynion ifanc yn llawer is yn gynnar yn y nos, sy’n dueddol o awgrymu mai sut maen nhw’n gyrru yn hytrach na’u diffyg profiad o yrru yn y tywyllwch yw’r broblem fwyaf.


Y Broliwr a’r cymerwr risgiau

Mae pobl ifanc – yn enwedig dynion – yn hoffi brolio wrth yrru. Mae hyn yn golygu eu bod nhw, yn gyffredinol, yn llai diogel pan fod ffrindiau/teithwyr yn y car.

Mae ymchwil yn awgrymu bod y ddau ryw’n brolio mwy o flaen teithwyr gwrywaidd ifanc na theithwyr benywaidd ifanc. Mae rhai pobl ifanc yn credu ei bod hi’n “cool” i beidio â gwisgo gwregys diogelwch - ac eto mae’n haneri eich siawns o gael eich lladd mewn damwain.


Nid yw’n ymwneud yn unig â gallu’r person ifanc i yrru

Mae alcohol, cyffuriau a hwyliau da yn ffactorau sy’n gwneud i yrwyr ifanc i gymryd risgiau. Mae unrhyw un o’r rhain yn ddigon peryglus ar eu pennau hunain, tra mai cyfuniad ohonynt yw’r esboniad pennaf am y risg uchel o ddamweiniau’n hwyr yn y nos.


"Annog y gyrrwr"

Mae teithwyr sy’n annog y gyrrwr yn ychwanegu at y broblem - mae teithwyr sydd wedi bod yn yfed ac sy’n cael hwyl yn medru rhoi pwysedd ar yrwyr i gymryd risgiau na fyddent yn eu cymryd fel arfer. Ni ddylai teithwyr roi’r pwysedd yma ar y gyrrwr - mae’r risg yn union yr un fath i’r teithiwr - ac mae’n rhaid i’r gyrwyr frwydro’n galed i beidio cydymffurfio.


Osgoi trwbl

Adnabod rhywun sy’n debygol o fod yn yrrwr gwael

Nid yw hyn yn hawdd, ond mae’n hawdd categoreiddio llawer o bobl ifanc fel “y math o berson sy’n hoffi brolio”. Yn yr un modd, mae rhai pobl dawel a diymhongar yn medru newid tu ôl i’r olwyn lywio - wedi blynyddoedd o fod yn dawel yn yr ysgol, heb fod yn dda mewn chwaraeon ac yn fethiant gyda’r merched, mae gyrru’n rhoi ffordd cwbl newydd iddynt i fod yn “boblogaidd”. Yn amlwg, mae gyrwyr sydd wedi bod yn yfed neu’n cymryd cyffuriau mewn perygl yn arbennig.


Peidiwch â mynd i mewn i’r car – neu gofynnwch i gael dod allan

Os nad ydych chi’n credu bod y gyrrwr yn mynd i yrru’n ddiogel – efallai oherwydd ei fod yn feddw, does dim angen i chi fynd i mewn i’w gar. Yn yr un modd, os yw’n gyrru’n wael neu’n eich dychryn, gofynnwch iddo stopio i’ch gadael chi allan o’r car. Yn aml, mae hyn yn medru bod yn ddigon i wneud i’r gyrrwr i newid y ffordd mae’n gyrru.


Nid yw ffyrdd y wlad yn ffyrdd diogel

Mae llawer o yrru gwael gan bobl ifanc – yn enwedig wrth frolio a chymryd risgiau – yn digwydd ar ffyrdd gwledig. Mae hyn yn arwain at lawer o wrthdrawiadau penben, a gwrthdrawiadau gyda choed, a chan amlaf mae’r canlyniad yn un marwol.


Diffyg profiad – mae tro cyntaf i bopeth

Mae hyd yn oed gyrrwr sydd wedi derbyn oriau o hyfforddiant gyrru proffesiynol a llawer mwy o oriau’n ymarfer gyda Dad a Mam yn gorfod cludo teithiwr o’i oed ef neu hi ei hun am y tro cyntaf rywbryd.

Mae teithwyr yn medru helpu trwy fod yn dawel ac yn ystyriol, yn hytrach nag annog y gyrrwr i yrru mewn ffordd nad yw ef neu hi eisiau gwneud. Mae’n well bod yn raddol – gan ddechrau gydag un ffrind cyfrifol a symud ymlaen yn araf i gludo mwy nag un teithiwr.

Nid yw hyfforddiant gyrru yn eich paratoi ar gyfer sgwrsio a gyrru.


Gallu rhieni helpu

Gwasanaeth achub Mam a Dad

Mae angen bod gyrwyr ifanc a’u teithwyr yn medru ‘tynnu’n ôl’, tra bod yn rhaid i rieni i gydbwyso awdurdod gyda chadw eu plant yn ddiogel.

Y peth delfrydol yw cael cytundeb i “achub” y person ifanc - os na fydd ef neu hi’n medru gyrru, neu os nad ydynt eisiau dod adref gyda’r gyrrwr.

Mae llawer o bobl ifanc yn cael eu hunain mewn sefyllfa ble mae’n rhaid iddynt i ddewis bod o dan y lach gyda’u rhieni neu yrru adref wedi meddwi / cael lifft gyda gyrrwr gwael neu sydd wedi meddwi. Mae’n bosib mai “fe wnâi dy hôl di, heb holi cwestiynau” yw’r ffordd fwyaf diogel.


Risg uchel i yrwyr ifanc meddw a’u teithwyr - wrth i’r Nadolig agosáu.

I lawer o bobl ifanc dyma fydd eu Nadolig cyntaf wrth y llyw, p’un ai nhw sy’n berchen ar y car, neu eu bod yn gyrru car eu rhieni neu ffrind. Mae’r rhyddid newydd hwn yn berygl cwbl newydd, ac yn un a fydd yn parhau trwy weddill eu harddegau a thu hwnt.


Y ffeithiau sylfaenol

Lladdwyd 135 o yrwyr yn eu harddegau ar y ffyrdd yn 2007, a chafodd mil arall eu hanafu’n ddifrifol, a derbyniodd deg mil arall fân anafiadau.

Mae un ym mhob pum gyrrwr yn cael damwain yn ystod eu blwyddyn gyntaf wrth y llyw.

Roedd bron i 15,000 o deithwyr yn eu harddegau yn glwyfedigion mewn damweiniau ffordd yn 2006. Cafodd 167 eu lladd. Byddai llawer o’r rhain wedi bod yn teithio mewn ceir a yrrwyd gan yrwyr yn eu harddegau.

Mae merched yn eu harddegau sydd o oed gyrru 33 y cant yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol wrth deithio fel teithwyr na fel gyrwyr. Mae bechgyn o’r un oed 50 y cant yn fwy tebygol o gael eu lladd fel gyrwyr na fel teithwyr.


Alcohol

Mae gyrwyr ifanc sy’n yfed wrth risg llawer uwch na gyrwyr h?n. O’r 9040 o ddamweiniau’n gysylltiedig ag yfed a gyrru, mae dros 3000 ohonynt yn ymwneud â gyrrwr o dan 25. Yn erbyn cyfartaledd cenedlaethol o 25 o ddamweiniau yfed a gyrru fesul 100,000 o yrwyr cofrestredig, mae gyrwyr o dan bump ar hugain yn cyfrif am dros 70 (mae’r gr?p oedran rhwng 25 a 29 oed yn rhagori ar y cyfartaledd cenedlaethol hefyd).

Mae’r gyfradd damweiniau yfed a gyrru’n edrych yn waeth pan edrychir ar ddamweiniau fesul 100 miliwn cilometr a deithiwyd. Y cyfartaledd cenedlaethol yw 4, ond mae’r rheini rhwng 17 a 19 oed yn ymwneud â 25, a’r rhai hynny sydd rhwng 20 a 24 yn ymwneud â dau ar bymtheg, a’r rhai hynny rhwng 25 a 29 yn ymwneud â saith.


Noson allan o hwyl a sbri

Ond nid yfed a gyrru’n unig sy’n dangos y risg hwn - yn ystod oriau mân y bore, mae gyrwyr ifanc gwrywaidd yn eu harddegau yn wynebu risg sydd 17 tro’n uwch na’r gyrrwr gwrywaidd arferol. Mae’r demtasiwn i frolio a chymryd risgiau’n chwarae ei ran, ac mae ychwanegu cyffuriau neu alcohol at y math hwn o ymddygiad yn gwneud pethau’n waeth.

I’r gyrwyr ifancaf mae diffyg profiad yn cyfrif ddwywaith, ac yn gyffredinol mae gyrwyr yn eu harddegau’n yrwyr amhrofiadol – cyfuniad peryglus arall.

Mae’r Heddlu’n ymwybodol iawn o dueddfryd gyrwyr ifanc i yfed – mae dynion ifanc yn fwy tebygol o gael prawf anadl ac o fod dros y terfyn cyfreithlon yn dilyn damwain.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r nifer o brofion anadl wedi bod yn cynyddu ac mae’r nifer o brofion a gynhaliwyd ar ddiwedd y flwyddyn(y chwarter olaf)50% yn uwch nag unrhyw chwarter arall.


© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service