www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Gyrwyr Hen - Deg o gynghorion i’ch helpu os ydych yn poeni am yrrwr hen
Erbyn hyn mae tri chwarter dynion yn eu 70’au yn meddu ar drwydded gyrru, 50 y cant yn fwy nag 20 mlynedd yn ôl, yn ôl y ffigyrau diweddaraf. O fewn 20 mlynedd arall, bydd 90 y cant o ddynion 70 oed a throsodd yn dal i fod tu ôl i’r olwyn lywio. Er mwyn deall y maes cynyddol hwn o foduro ym Mhrydain yn well, mae Materion Cyhoeddus yr AA wedi paratoi’r canllaw 10 pwynt canlynol a thaflen ffeithiau i unrhyw un sy’n poeni am yrrwr oedrannus.

Mae gan oedran effeithiau niferus ac amrywiol

Mae pawb yn heneiddio’n wahanol – does dim oedran diogel neu anniogel i yrrwr. Mae cyflyrau corfforol a meddyliol yn medru effeithio ar berson.

Mae pobl hen yn fwy bregus ac maent yn fwy tebygol o gael eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau - dylent wisgo gwregysau diogelwch bob amser a defnyddio'r nodweddion diogelwch yn eu ceir. Yn ogystal, mae breuder yn ei gwneud hi’n anodd sefydlu’r risgiau a berir gan yrwyr hen - mae’n debygol bod eu ffigyrau clwyfedigion yn uwch oherwydd eu breuder - nid oherwydd eu bod yn waeth gyrwyr.

Mae pobl hen yn fwy tebygol o flino - ac mae angen iddynt i osgoi siwrneiau hir, yn enwedig wedi prydau bwyd neu wedi iddynt fod yn yfed alcohol.


Does dim rhwymedigaethau cyfreithiol ar yrwyr hen

Cyfrifoldeb y gyrrwr yw sicrhau ei fod yn ffit i yrru. Maent rhaid iddynt hysbysu’r DVLA yn Abertawe o unrhyw gyflyrau meddygol a fydd yn effeithio ar eu gallu i yrru. Dylai’r meddyg ddweud pan fod angen i’r claf i wneud hyn, ond mae’n beth doeth i holi “a fydd hyn yn effeithio ar fy ngallu i yrru?” pa bynnag gyflwr newydd y ceir diagnosis ohono, neu driniaeth a roddir. Mae dementia’n peri problemau’n enwedig. Hefyd, mae’n rhaid i yrwyr i sicrhau eu bod yn diwallu’r gofynion o ran eu golwg – y ffordd orau o wneud hyn yw cael profion llygaid yn rheolaidd.

Mae gyrwyr sydd dros 70 oed yn gorfod ail wneud cais am eu trwydded bob tair blynedd - does dim prawf na phrawf meddygol, ond mae’n rhaid cyflwyno datganiad meddygol. Mae’n bosib y bydd cynnwys y datganiad hwn yn golygu bydd y DVLA yn gwneud ymholiadau pellach.


Cynllunio yw’r allwedd i ddiogelwch a symudedd

Mae llawer o yrwyr hen yn cyfyngu eu hunain o ran sut a ble maent yn gyrru - mae’r hunan gyfyngu hwn yn arwydd o gyfrifoldeb, ac nid yn arwydd o anfedrusrwydd, a dylid ei gymell. Mae sawl math o gyfyngiadau a ddefnyddir:

Stopio’r mathau o yrru sy’n achosi pryder - fel gyrru yn y tywyllwch, gyrru ar ffyrdd cyflym neu yng nghanol trefi prysur. Yn yr un modd, gellir osgoi gyrru mewn tywydd gwael neu bellteroedd mawr, ac mae hyn yn cynyddu diogelwch a chysur.

Mae angen bod yn ofalus iawn mewn mannau peryglus a gellir eu hosgoi. Mae ymchwil wedi dangos bod gyrwyr h?n yn cael problemau yn enwedig wrth droi i’r dde ar gyffyrdd, a ble mae’n bosib bod traffig yn dod o’r tu ôl, a ble mae’n rhaid iddynt ddechrau wedi aros. Mae ymuno oddi ar slipffyrdd yn anodd hefyd. Gellir cymryd gofal ychwanegol yn y lleoedd yma, a gellir newid rhai teithiau i osgoi’r math yma o symudiadau.

Gellir osgoi teithiau hir a diwrnodau milltiredd uchel. Mae’n bosib bydd yn rhaid i yrwyr h?n i aros dros nos, tra byddai pobl ifancach yn medru teithio’r siwrnai gyfan mewn diwrnod.

Mae dewis y car cywir yn medru bod yn gymorth mawr - Mae drychau’n fwy a ffenestri mwy o faint yn helpu i weld yn well yn gyffredinol, tra mae drysau mwy o faint a seddau uwch yn medru helpu i fynd i mewn ac allan o’r car yn haws.

Os oes gennych drwydded a’ch bod yn ffit i yrru - cadwch ymlaen i yrru - mae llawer o bobl (yn enwedig menywod) yn mynd yn or-ddibynnol ar eu partner yn gyrru. Mae’n anodd iawn ail gydio yn y llyw wedi blynyddoedd o beidio â gyrru, wrth i’r traffig newid. Y peth gorau i’w wneud yw cadw ymarfer ar y ffyrdd a ddefnyddiwch yn aml.

Mae’n hanfodol cynllunio ar gyfer y dyfodol – mae angen i yrwyr h?n i baratoi ar gyfer y diwrnod pan fydd yn rhaid iddynt roi’r gorau i yrru. Sut fyddant yn medru mynd i siopa a byw eu bywydau beunyddiol? Mae’r penderfyniadau a wneir wrth ymddeol – er enghraifft dewis byw yn y wlad - yn medru cael effaith enfawr os oes yn rhaid rhoi gorau i yrru.


Gwrandewch ar bobl eraill

Mae barn rhywun arall yn medru bod o gymorth - efallai byddwch yn dymuno gofyn i gymdogion neu ffrindiau’r gyrrwr hen beth maen nhw’n ei feddwl - ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel pan eu bod yn derbyn lifft? Ydi’r gyrrwr yn ymddangos ei fod yn medru rheoli’r car wrth gildroi neu symud? Yn rhai ardaloedd mae cynlluniau awdurdod lleol yn bodoli, sy’n defnyddio hyfforddwyr gyrru i asesu gyrwyr hen. Mae Canolfannau Symudedd yn medru helpu hefyd. Os defnyddir asesiad, dylid gwneud yn si?r eu bod yn cael eu hasesu’n bennaf ar y math o ffyrdd maent yn eu defnyddio. Os defnyddir y car ar gyfer siwrneiau yn ystod y dydd yn unig, does dim pwrpas sefydlu sut yrwyr ydyn nhw gyda’r nos neu ar y draffordd. Dylai’r asesiad gael ei gynnal ar y ffyrdd maent yn eu defnyddio.


Ffeithiau am yrwyr hen

Ym 1971 roedd 13 y cant o’r boblogaeth dros 65 oed, ac roedd 7 y cant o’r rheini dros 85 oed. Erbyn 2006, roedd 16 y cant dros 65 ac roedd 12 y cant o’r rhain dros 85 oed. Mae’r boblogaeth wedi tyfu. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith bod y gyfran o bobl h?n sy’n meddu ar drwyddedau gyrru wedi codi o 15 y cant i 50 y cant, yn golygu bod llawer, llawer mwy o yrwyr h?n. Bydd y nifer yn parhau i godi.

Mae un ym mhob 55 o glwyfedigion ymhlith pedestriaid yn eu 20’iau yn marw. Mae hyn yn codi i un ym mhob 10 ymhlith pobl dros 80 oed. Mae’r un peth yn wir am yrwyr, yn codi o 1 ym mhob 99 i 1 ym mhob 27. Achos pennaf hyn yw breuder.

Mae gyrwyr dros 80 oed ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o gael eu lladd mewn gwrthdrawiad na gyrwyr yn eu pedwar degau, ac eto maent yn llai tebygol o gael eu hanafu’n ddifrifol.

Mae’r nifer o farwolaethau ac anafiadau difrifol ymhlith gyrwyr h?n yn gostwng - ond nid cymaint â chlwyfedigion yn gyffredinol. Mae'n debyg fod hyn oherwydd bod y nifer o yrwyr h?n yn cynyddu’n gyson wrth i’r boblogaeth heneiddio.

Mae gyrwyr dros 70 oed yr un mor ddiogel â gyrwyr 25 oed, tra bod gyrwyr dros 80 oed yn llai diogel, ond maent yn dal i fod yn fwy diogel na gyrwyr yn eu harddegau. Mae mwy na 50 y cant o yrwyr dros 75 oed yn dweud eu bod nhw’n gadael mwy o fwlch rhyngddynt a cheir eraill, eu bod nhw’n fwy gofalus, a’u bod yn osgoi traffig trwm a siwrneiau hir nag oeddent pan oeddent yn 50 oed. Hefyd, mae cyfran sylweddol yn osgoi gyrru gyda’r nos, ar draffyrdd ac maent yn gyrru’n arafach.

Mae’r problemau a wynebir gan yrwyr hen yn broblemau a wynebir gan bedestriaid hen yn ogystal. Yn 2005, cafodd 220 o bedestriaid dros 70 oed eu lladd wrth groesi’r ffordd fawr, o gymharu â 71 o blant yn croesi’r ffordd fawr. Nid yw denu gyrwyr h?n allan o’u ceir yn sicrhau eu diogelwch ar y ffordd fawr.

Tra bod rhai gyrwyr hen yn cael damweiniau pan eu bod yn gyrru tra na ddylent am resymau meddygol, ychydig iawn sy’n cael damweiniau oherwydd eu bod wedi yfed alcohol.


© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service