Amdanom Ni
Sefydlwyd yr Adran Diogelwch ar y Ffordd yn 2006, gyda’r cylch gwaith canlynol:-
- I ddatblygu polisïau a gweithdrefnau i alluogi’r Gwasanaeth i gyfrannu’n effeithiol at yr agenda Diogelwch ar y Ffordd.
- I gynorthwyo a chynghori wrth ddatblygu cynlluniau a mentrau lleol i leihau’r nifer o anafiadau difrifol neu farwolaethau o ganlyniad i wrthdrawiadau ar y ffordd.
- I weithio mewn partneriaeth gyda Swyddogion Diogelwch ar y Ffordd, Swyddogion yr Heddlu a budd-ddalwyr eraill i gynorthwyo gyda'n nod o “Greu Cymunedau Mwy Diogel”.
Rhan o’n nod o greu Cymuned fwy diogel yw lleihau’r nifer o farwolaethau ac anafiadau ar ein ffyrdd. Rydym yn ymwneud â nifer o ymgyrchoedd gyda sefydliadau lleol eraill, sy’n anelu at addysgu pobl am ddiogelwch ar y ffordd, mewn ymgais i ostwng y ffigyrau yma
Mwy o Wybodaeth »
Mae Yfed a Gyrru’n Lladd
Dyluniwyd y wefan hon i addysgu gyrwyr am destun pwysig Yfed a Gyrru. Wrth i chi weithio’ch ffordd trwy’r rhaglen fer hon, byddwn yn edrych ar ystadegau’r UE a therfynau Yfed a Gyrru’r UE.
Yn bwysicaf oll, byddwn yn ymchwilio i effeithiau Yfed a Gyrru arnoch chi’n gorfforol, ac yn esbonio canlyniadau posib gweithred o’r fath: Sut i gyfrif unedau o alcohol, a’r amser y bydd yn ei gymryd i’ch corff i’w prosesu. Byddwn yn defnyddio sesiynau rhyngweithiol i bwysleisio’r risgiau a’r peryglon sydd ynghlwm wrth y gweithgaredd hwn.
Mwy o Wybodaeth » (ddolen i wefanSaesneg yn unig)
Digwyddiadau
- Trwy gydol y flwyddyn mae Pass Plus Cymru ar sail Cymru Gyfan ar gael i yrwyr yng Nghymru o dan 25 oed.
- Cynhelir gweithdai BikeSafe Cymru trwy gydol yr Haf, i gael mwy o wybodaeth ewch i: www.bikesafe.co.uk
- Cynhelir mis Cerdded i’r Ysgol Rhyngwladol ym mis Hydref 2008. Os ydych yn dymuno dewis wythnos benodol yn ystod y mis, yr wythnos gyfan gyntaf yw’r 6-10 Hydref 2008.
- 14-22 Mehefin 2008 – Wythnos Beiciau.
- 1 Gorffennaf - Cynhadledd AIRSO - Rheoli Risgiau Galwedigaethol ar y Ffordd a goblygiadau’r Ddeddf Dynladdiad a Lladd Corfforaethol. Gwesty’r Angel, Caerdydd.
- 21-24 Gorffennaf – Sioe Frenhinol Cymru 2008.
- 16-22 Medi 2008 – Wythnos Symudedd Ewrop.
- 29/30 Medi 2008 – Cynhadledd Diogelwch ar y Ffordd Cymru - Future Inns, Bae Caerdydd.
- 13 Hydref 2008 – Diwrnod Diogelwch ar y Ffordd Ewrop.
- 10– 16 Tachwedd 2008 Wythnos Diogelwch ar y Ffordd.
Partneriaethau
Pass Plus Cymru
Cyngor ar Ddiogelwch ar y Ffordd
Astudiaeth Rychwantu
Yn aml, mae Gwrthdrawiadau ar y Ffordd yn gymhleth oherwydd nad achos unigol sydd iddynt. Maent yn digwydd oherwydd nifer o ffactorau sy’n arwain at y gyrrwr, y beiciwr modur, y beiciwr neu’r cerddwr yn methu rheoli eu hunain mewn cyfres benodol o amgylchiadau.
Yn 2003, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ‘Strategaeth Diogelwch ar y Ffordd i Gymru’, yn amlinellu nifer o amcanion allweddol i leihau’r risg i ddefnyddwyr y ffordd yng Nghymru, trwy hyrwyddo mynediad diogel a chynaliadwy i bob aelod o gymdeithas.
Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Heddlu mewn sefyllfa dda i gyfrannu at waith yr asiantaethau lleol. Er mwyn gwella’r cyfraniad hwn, mae’r Astudiaeth Rychwantu wedi canfod sawl enghraifft lwyddiannus a ddylai fod yn sylfaen i waith diogelwch ar y ffordd yn y dyfodol. Bydd eu mewnbwn yn cael effaith fwy fyth pan fydd yr ymdrechion yma’n cael eu cydlynu mewn strwythur partneriaeth strategol, gan ymgorffori’r holl aelodau a budd-ddalwyr perthnasol.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Diogelwch Ffyrdd Cymru drwy ddefnyddio'r ddolen isod.
Gwefannau Perthynol
Cyngor Cyffredinol ar Foduro a Diogelwch ar y Ffordd
Beicio Modur
Gyrwyr Ifanc