
Mega Drive
Yn wreiddiol, sefydlwyd y cynllun Mega Drive yng Ngwent ym 1995, i ymdrin â’r broblem ddifrifol iawn o yrwyr ifanc yn ymwneud â nifer anghymesur o ddamweiniau ffordd, yn bennaf oherwydd eu bod yn amhrofiadol. Cyflwynir Mega Drive i fyfyrwyr oed coleg, sy’n bwriadu sefyll eu prawf gyrru ymarferol yn y dyfodol agos, ac efallai nad ydynt yn ymwybodol o’r peryglon posib sydd ynghlwm â gyrru ar ffyrdd Prydain.
Mae’r myfyrwyr sy’n cyfranogi yn y Mega Drive yn ymweld â “gorsafoedd gwaith rhyngweithiol” mewn grwpiau o dri, ble maent yn dysgu gwybodaeth hanfodol am bynciau’n ymwneud â gyrru. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Ymwybyddiaeth o beryglon
- Dogfennau hanfodol
- Achosion damweiniau
- Effeithiau a chanlyniadau alcohol a chyffuriau
- Prynu car newydd neu ail law
- Beth i’w wneud yn lleoliad damwain
Blwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r orsaf waith yn profi fwyaf llwyddiannus pan fod y myfyrwyr yn cael cyfle i eistedd yn sedd y gyrrwr. Maent yn cael cyfle i yrru o amgylch cwrs arbennig, tra yng nghwmni hyfforddwr gyrru cymeradwy. Yn aml, mae hyn yn rhoi eu blas cyntaf i’r myfyrwyr o fod tu ôl i’r olwyn lywio.
Hefyd, cynhelir y Mega Drive yn yr ardaloedd canlynol:
Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, Ceredigion, Caerfyrddin. I wirio argaeledd cysylltwch â’ch Swyddog Diogelwch ar y Ffordd lleol.