
Sgiliau Bywyd
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu De Cymru.
Crynodeb
Cynhelir y prosiect hwn dros dri diwrnod mewn cartref plant diogel, yn yr achos hwn Hillside, Castell-nedd ac mae’n cynnwys y Gwasanaeth Tân ac Achub, yr Heddlu a staff y cartref yn ymwneud â throseddwyr ifanc, sydd ag anianawd tuag at losgi bwriadol a throseddau’n ymwneud â cheir. Nid yw’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn gwisgo’u lifrai, yn hytrach maent yn gwisgo crysau t ‘Sgiliau Bywyd’ a jîns. Mae hyn yn helpu i oresgyn y rhwystrau cychwynnol sy’n bodoli rhwng yr hwyluswyr a’r myfyrwyr.
Pwyntiau allweddol
- Bu chwe throseddwr ifanc yn cyfranogi yn y rhaglen.
- Fe wnaethant fynychu oherwydd iddynt fod yn gysylltiedig â throseddau’n ymwneud â thân neu geir.
- Caiff pedwar maes o sgiliau eu datblygu ar y cwrs – Diogelwch, Cyfathrebu, Gwaith Tîm a Chanlyniadau eu gweithredoedd.
- Mae’r hwyluswyr a’r myfyrwyr yn gweithio ar y cyd i gwblhau cyfres o dasgau neu sgiliau, megis ymarferion ysgol a phwmp, rhedeg pibellau, chwilio ac achub a chymorth cyntaf.
- Profodd hyn i fod yn ddull ardderchog o ddatblygu’r pedwar sgil allweddol ac o angenrheidrwydd fe wnaeth gymell awyrgylch ymlaciedig, gyda chyfathrebu da ar lafar rhwng y myfyrwyr a’r hwyluswyr.
- Ar drydydd diwrnod y cwrs mae Cyngor Dinas Abertawe yn caniatáu i ni ddefnyddio eu trelar effaith ac mae dau swyddog arbenigol o’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn cyflwyno sesiwn sy’n clwyfo i’r byw am ganlyniadau corfforol, moesegol a chymdeithasol Gwrthdrawiadau ar y Ffordd, gan ymgorffori themâu hir sefydledig, megis gyrru wedi yfed alcohol neu gymryd cyffuriau, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a phwysedd gan gyfoedion.
- Daw’r sesiwn ar Wrthdrawiadau ar y Ffordd i ben gyda sesiwn 20 munud yn seiliedig ar gerbyd effaith, ble mae’r myfyrwyr yn cael gweld canlyniadau graffig damwain yn cynnwys car a’u deithwyr yn teithio ar 40mya.
Crynodeb
Mae’r cynllun hwn yn ymrwymo ar sawl lefel ac o’i werthuso, mae’n dynodi newid yn agwedd pobl at yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub a materion yn ymwneud â Diogelwch ar y Ffordd. Hefyd, mae’r troseddwyr ifanc yn arddangos gwelliant yn eu dealltwriaeth o ganlyniadau eu hymddygiad, o safbwynt y Gwasanaeth Tân ac Achub, cymunedau a nhw eu hunain.