C.S.I Cymru
Crynodeb
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys cyflwyniadau ar ddiogelwch ar y ffordd, a gyflwynir gan swyddogion diogelwch ar y ffordd lleol, yr Heddlu a staff y Gwasanaeth Tân ac Achub. Caiff ei anelu at grwpiau bach, a chaiff ei gyflawni mewn cylchdro o oddeutu 20 munud. Trwy ddefnyddio’r fformat hwn mae’n bosib ymrwymo gyda 200 a mwy o ddisgyblion fesul diwrnod.
Pwyntiau Allweddol
Mae’r rhaglen yn pwysleisio agweddau cadarnhaol gyrru a’r manteision mae’n ei gynnig i oedolion ifanc. Hefyd, mae’n galluogi’r tîm i ganolbwyntio ar amryw o faterion sy’n effeithio ar yrwyr ifanc megis goryrru, pwysedd gan gyfoedion, gwregysau diogelwch, gyrru wedi yfed alcohol a chymryd cyffuriau a defnydd anghyfreithlon o ffonau symudol.
Mae’r cyflwyniad yn aml ffurf ac yn aml gyfrwng, ac mae’n cychwyn gyda sesiwn cwestiwn ac ateb ‘Gwir neu Gau’, a luniwyd i brofi ymwybyddiaeth bresennol y disgyblion o faterion yn ymwneud â diogelwch ar y ffordd.
Crynodeb
Caiff ei gyflwyno mewn ysgolion a cholegau ar hyn o bryd, a thargedir y CSI at bobl ifanc rhwng 16-18 oed. Mae’r negeseuon yn rhai ysgytiol am ganlyniadau Gwrthdrawiadau ar y Ffordd, ond mae’n cynnig gwybodaeth a strategaethau i fyfyrwyr, i sicrhau eu bod yn osgoi bod yn glwyfedigion. Caiff y themâu yma’u datblygu trwy gyflwyniadau PowerPoint a fideo, ac mae’n diweddu gyda sesiwn ryngweithiol o 20 munud, yn troi o amgylch y cerbyd effaith - syniad a ddatblygwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru(cerbyd modern yw hwn a gafaeliwyd oddi wrth y Labordy Ymchwil Traffig yn Wokingham, wedi iddo gael ei gyflwyno ar gyfer profion damwain, a chaiff ei boblogi gyda modelau realistig.) Mae hyn yn galluogi’r swyddogion i siarad gydag awdurdod a chywirdeb am ganlyniadau gwrthdrawiadau ar y ffordd.
Mae’r sioe deithiol wedi derbyn atborth cadarnhaol iawn mewn ysgolion a cholegau gan staff a disgyblion yn gyffelyb.